Dosbarthiadau Cynhyrchwyd Gartref i’w cyflwyno yn yr adran geffylau yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni ar gyfer anifeiliaid a gofrestrwyd â Chymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig (WPCS) - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’n hyfrydwch gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru allu lansio dosbarthiadau newydd sbon o fewn yr adran geffylau yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni gyda chefnogaeth Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig (WPCS).

Bydd yr Ŵyl sydd i fod i’w chynnal dros benwythnos yr 20fed a’r 21ain Mai 2023 ar ddechrau tymor dangos yr haf yn cyflwyno dosbarthiadau newydd i’r rheini sy’n cychwyn eu gyrfaoedd o fewn y cylch dangos ceffylau. Gyda chyflwyniad yr adran newydd a chyffrous yma, y tybir ei bod yr un gyntaf o’i math ar gyfer arddangosion bridiau Cymreig, sydd yn cael eu lansio yn nigwyddiad eleni, mae’r ddwy Gymdeithas yn gweld hyn fel ffordd o ddarparu llwyfan fel cam ymlaen i’r rheini sy’n newydd i gylch y sioe. Bydd y dosbarthiadau newydd yn yr Ŵyl yn annog unigolion newydd hefyd i ddod i wybod am baratoi at gylch y sioe a’i moesau.

Bydd y dosbarthiadau’n agored i Adran A, B, C, D Cymreig a cheffylau Rhan-Frîd Cymreig i ba rai y mae’n rhaid i’r arddangoswyr fodloni’r rheol cynnyrch cartref fel a ganlyn;

Rheol Cynhyrchwyd Gartref

Yn agored i ferlod sydd naill ai’n cael eu stablu gartref neu mewn stablau Hurio ac nad ydynt er 1af Ionawr yn y flwyddyn gyfredol, wedi’u dangos gan rywun proffesiynol yn ystod y tymor presennol neu’u stablu mewn iard Broffesiynol ar unrhyw adeg yn y flwyddyn bresennol. Rhaid i ferlod fod yn Piau i, ac wedi’u Cynhyrchu a’u Dangos gan aelodau’r teulu agosaf yn unig. Diffinnir Teulu Agosaf fel Mam, Tad, Mam-gu/Nain, Tad-cu/Taid, Brodyr, Chwiorydd neu Lys-Berthnasau.

Bydd angen i bob anifail a gynigir o fewn y dosbarthiadau cynhyrchwyd gartref fod wedi’i gofrestru â’r WPCS ac ystyrir bod rheolau’r Gymdeithas yn ddealledig gan BOB cystadleuydd o fewn yr adran newydd hon a’i fod yn cadw atynt. Gobeithir y byddir yn cynnig yn y dosbarthiadau hyn yn yr ysbryd y maen nhw wedi’u bwriadu a bod yr holl gystadleuwyr yn mwynhau eu hamser yn y cylch yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad.

Meddai Steve Everitt – Cadeirydd Pwyllgor Beirniadu a Dangos WPCS;
“Mae’r fenter yma gan CAFC yn rhoi’r cyfle i dröedigion newydd i’r bridiau Cymreig gystadlu â chynhyrchwyr cartref sefydledig a dysgu ganddynt gan gael chwarae teg ac adfer rhywfaint o’r llawenydd a’r cyfeillgarwch a fwynhawyd mewn cyfnodau dangos cynharach gobeithio.”

Ychwanegodd Geraint James, Cyfarwyddwr Anrhydeddus yr Wyl Tyddyn a Chefn Gwlad;
“Rydym yn gyffrous o allu lansio’r adran newydd hon yng Ngŵyl eleni gyda chefnogaeth gan y WPCS ac yn gobeithio’n fawr iawn y bydd yn rhoi’r hyder i arddangoswyr ceffylau newydd gamu i mewn i gylch y Sioe. Mae yna chwant am y dosbarthiadau newydd hyn mewn digwyddiad Sioe Frenhinol Cymru a chredwn y gall yr adran hon barhau i dyfu a chael ei defnyddio fel cam ymlaen i arddangoswyr a fydd o bosibl yn dangos un diwrnod yn y prif gylch yn Sioe Frenhinol Cymru”
Gobeithir yn fawr iawn y bydd y gystadleuaeth llawr gwlad hon yn annog selogion y ceffylau i roi cynnig ar ddangos yn un o ddigwyddiadau clodfawr y Sioe Frenhinol ac yn annog cenhedlaeth newydd o arddangoswyr ceffylau yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad cyn arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru un diwrnod o bosibl.

Mae atodlenni ar gyfer cystadlaethau eleni i’w cael yn awr ar wefan CAFC; Mae cynigion ar gyfer yr adran geffylau yn agor am hanner dydd ar ddydd Mercher 1af Mawrth 2023 a byddant yn cau am 11.59pm ar ddydd Llun 3ydd Ebrill.

I gael mwy o wybodaeth am yr adran newydd hon cysylltwch â thîm da byw CAFC ar 01982 5544 04/13/14 neu e-bostiwch livestock@rwas.co.uk