Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cais i Gymdeithas Ceffylau Sioe Prydain (BSHA) i gynnal rowndiau cymhwyso Sêr y Dyfodol ar gyfer Sioe Geffylau Ryngwladol Llundain 2023 wedi’i dderbyn a bydd rowndiau cymhwyso’r cystadlaethau a ganlyn yn cael eu cynnal yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni.
Mae’r Ŵyl sydd i fod i ddigwydd dros benwythnos yr 20fed a’r 21ain Mai 2023 am fod yn benwythnos yn llawn hwyl i’r teulu cyfan, yn dathlu cadw tyddyn a bywyd gwledig. Mae eleni’n gweld llawer o ddosbarthiadau newydd yn cael eu hychwanegu at yr adran geffylau yn yr Ŵyl ac mae’r Gymdeithas yn gyffrous o weld llawer o ychwanegiadau newydd at atodlen y ceffylau ac yn rhoi’r cyfle hefyd i arddangoswyr gymhwyso ar gyfer Sioe Geffylau Ryngwladol Llundain ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.
Mae’n hyfrydwch gennym gyhoeddi y bydd y dosbarthiadau canlynol yn cymhwyso tuag at y gyfres newydd o ddosbarthiadau dangos a fydd yn cael eu cynnal yn nigwyddiad 2023.
Mae Cymdeithas y Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol (ASAO) yn dra chefnogol i’r gyfres newydd o ddosbarthiadau a lansiwyd gan y BSHA ac maen nhw’n bendant y bydd cyflwyno’r rowndiau cymhwyso newydd hyn yn cynyddu nifer y cynigion ceffylau ar draws y DU. Bydd y dosbarthiadau newydd yn rhoi cyfle addysgol i ymwelwyr â’r digwyddiad, gan ddangos y rhyngweithio rhwng y beirniad a’r cystadleuwyr a chyfleoedd i sylwebwyr egluro’r hyn y mae’r beirniad yn chwilio amdano. Y gobaith yw y bydd y dosbarthiadau newydd hyn yn cyflwyno Dangos mewn goleuni newydd ac yn ei wneud yn llawer mwy hygyrch a difyr.
Nododd Kathy Atkin-Bowdler, Prif Stiward yr adran Geffylau;
“Mae’n wefreiddiol fod ein Gŵyl wedi’i dewis i gynnal Rowndiau Cymhwyso newydd a llawn bri Sioe Geffylau Ryngwladol Llundain. Yn un o ychydig sioeau yng Nghymru i dderbyn y rhain, ni fydd y cyntaf yng Nghymru i’w rhedeg. Bydd y dosbarthiadau hyn, wedi’u cyfuno â’r adrannau ceffylau newydd eraill yr ydym wedi’u cyflwyno i’r sioe yn gwneud yr Ŵyl hon yn arbennig iawn. Mae hon yn Ŵyl wirioneddol gyfeillgar sydd â rhywbeth ar gyfer pawb ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd yno.”
Mae atodlenni ar gyfer cystadlaethau eleni i’w cael yn awr ar wefan CAFC;
Mae cynigion ar gyfer yr adran geffylau yn agor am hanner dydd ar ddydd Mercher 1af Mawrth 2023 a byddant yn cau am 11.59pm ar ddydd Llun 3ydd Ebrill.
I gael mwy o wybodaeth am yr adran newydd yma cysylltwch â thîm da byw CAFC ar 01982 5544 04/13/14 neu e-bostiwch livestock@rwas.co.uk