Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Ar ôl llawer o ystyriaeth, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi gwneud y penderfyniad i beidio â chynnal yr Adran Arddwriaeth yn Sioe Frenhinol Cymru 2023, tra bo cynlluniau mawr yn cael eu rhoi yn eu lle i ailwampio’r adran mewn pryd ar gyfer sioe’r flwyddyn nesaf.

Mae’r penderfyniad anodd wedi’i wneud oherwydd yr heriau ariannol enbyd y mae CAFC wedi’u hwynebu yn sgil y pandemig, costau cynyddol a chwyddiant. Y llynedd, dioddefodd y Gymdeithas golled weithredol sylweddol, y proffwydir y bydd yn datblygu’n ddiffyg cyllidebol mawr os bydd y gwariant presennol yn cael ei barhau. Pan oedd yn chwilio am feysydd i dyfu incwm a chwtogi costau, gwelodd y Gymdeithas fod Adran Arddwriaeth y sioe yn colli tua £40,000 bob blwyddyn, gan arwain felly at y penderfyniad i roi saib i’r adran yn 2023.

Meddai Richard Price, Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe, “Er ein bod yn cydnabod yn llwyr y bydd hyn yn newydd siomedig i lawer o ymwelwyr, cystadleuwyr a gwirfoddolwyr, bydd y saib o flwyddyn yn gyfle i ddatblygu’r Adran Arddwriaeth o flaen llaw i ail-lansiad mawr yn 2024. Trwy gael, i bob pwrpas, ‘flwyddyn yn fraenar’, bydd yn rhoi mwy o amser inni adolygu sut ydym i hyrwyddo garddwriaeth orau yn y sioe wrth fynd ymlaen.”

Ychwanegodd Aled Rhys Jones, y Prif Weithredwr, “Mae hwn yn gyfle cyffrous i edrych ar ffyrdd newydd o dyfu’r adran, gan weithio gyda sefydliadau eraill, busnesau a rhanddeiliaid i ehangu i feysydd megis gwneud gwin, gerddi synhwyrol a chystadlaethau i rai iau. Mae cyfle hefyd i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dyfu mwy o’r ffrwythau a’r llysiau a fwytawn yma yng Nghymru, ochr yn ochr â thargedau i dyfu’r sector masnachol ar gyfer garddwriaeth addurniadol.”

Bydd ymwelwyr yn dal i allu mwynhau’r stondinau masnach lawer ac iddynt thema garddwriaeth a garddio yn y sioe a bydd yr Adran Fêl yn cael ei hadleoli i Neuadd Arddangos De Morgannwg ar gyfer 2023. Yn ogystal, bydd Pentref Bwyd Cymreig newydd sbon wedi’i leoli wrth Fynedfa B, a fydd yn rhoi lle amlwg i oreuon bwyd a diod o Gymru, ynghyd â llwyfan gerddoriaeth fyw a seddi i ymlacio a mwynhau’r awyrgylch.

Mae hyrwyddo garddwriaeth yn un o amcanion elusennol allweddol y Gymdeithas a bydd yn dal i fod yn nodwedd bwysig yn ein holl ddigwyddiadau, yn cynnwys y stondinau garddio yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ym mis Mai a’r cystadlaethau gosod blodau a garddwriaeth yn y Ffair Aeaf ym mis Tachwedd.

Yn olaf, byddai’r Gymdeithas yn hoffi cymryd y cyfle hwn i ddiolch i Dr Fred Slater, Cyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol Garddwriaeth, am ei ymroddiad i’r adran wrth iddo gychwyn ar ei ymddeoliad yn ddiweddarach eleni. Mae Dr Slater wedi bod a wnelo â’r Gymdeithas er 1976 ac mae’n gefnogwr pybyr ac yn llysgennad triw dros arddwriaeth.