Dewch draw i’n hoff ddigwyddiad teuluol, yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad! - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

’Does ond wythnos i fynd nes bydd Maes Sioe Frenhinol Cymru yn fwrlwm o weithgaredd wrth inni groesawu ymwelwyr yn ôl i’n hoff ddigwyddiad teuluol, yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad.

Yn digwydd y penwythnos nesaf (20fed ac 21ain Mai) mae’r Ŵyl yn ddathliad o fywyd gwledig a byw yn y wlad gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei chalon. Mae’r digwyddiad penwythnos o hyd yn arddangosfa o amrywiaeth gwirioneddol cefn gwlad Cymru. Ynghyd â chasgliad o atyniadau’r cylch arddangos, cystadlaethau, gweithgareddau plant, stondinau masnach siopa, cerddoriaeth fyw, a bwydydd a diodydd blasus, mae’r Ŵyl yn addo bod yn ddiwrnod allan gwych i bawb!

Bydd Canolfan y Tyddynwyr yn dal i fod yn brif fan galw i’r rheini sydd arnynt eisiau dod i wybod mwy am ffordd o fyw’r tyddynnwr. Yn lle delfrydol i gael cyflenwad o’r hanfodion o’r stondinau masnach â’u thema amaethyddol a’u thema cadw tyddyn – pa un a oes arnoch angen bwced newydd neu ryw fath o beiriant efallai, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yng Nghanolfan y Tyddynwyr.

Bydd amryw o weithgareddau’n cael eu cynnal yn yr Ardal Bywyd Gwledig, yn cynnwys y Brif Sioe Gŵn Agored (Rownd Gymhwyso ar gyfer Crufts 2024), Gwersyll Ail-greu Canoloesol Woodville, Arddangosiadau Cŵn Adara BASC, Iechyd a Ffitrwydd y Fyddin Brydeinig, cystadlaethau coedwigaeth, chwaraeon, a gweithgareddau cefn gwlad, i gyd i gyfeiliant cerddoriaeth fyw o’r bandstand.

I’r rheini sy’n chwilio am hwyl i’r teulu, gellwch gymryd rhan yn y gweithgareddau beicio a’r cwrs rhwystrau. Gall plant roi cynnig ar feicio, ac mae helmedau a beiciau wedi’u darparu. Yn ymddangos yn yr Ardal Bwyd Gwledig hefyd, mae Syrcas Deuluol Panic yn dychwelyd i ddiddanu gyda sgiliau syrcas, gweithdai, a sioeau pypedau traddodiadol. I ryngweithio gydag anifeiliaid, bydd Fferm Dros Dro Pentre yn dod ag amrywiaeth o anifeiliaid fferm bychain draw, yn cynnwys merlod, geifr, mynnau geifr, ŵyn, cwningod a moch cwta, ynghyd ag ardal ddarganfod Ysgol Goedwigaeth gyda chrefftau a gweithgareddau synhwyraidd.

Bydd y Cylch Arddangos yn orlawn o arddangosfeydd i’ch diddanu, gyda Sioe Styntiau Beiciau Modur Steve Colley, a fu’n bencampwr byd deirgwaith, Sioe Gŵn Potsiar a Daeargwn ‘The Little Nippers’, Ceffylau Gwedd y ‘Gentle Giants’, arddangosfa gyrru Ceffylau a Merlod Hacni, Arddangosfa Awyr Beiciau Mynydd M.A.D a chystadlaethau Neidio Ceffylau a Cheffylau Hela’n Gweithio.

I’r rheini yn eich plith sydd wrth eu bodd â chŵn, mae Prif Sioe Gŵn Agored Cymru yn cael ei chynnal drwy’r penwythnos gyda’r cyfle i weld miloedd o gŵn yn cystadlu am gyfle i gymhwyso ar gyfer Crufts 2024. Yn wahanol i’n digwyddiadau eraill, mae croeso i ymwelwyr ddod â’u cŵn eu hun i’r Ŵyl. Bydd Morgannwg, Sir Nawdd CAFC yn cynnal Sioe Gŵn Hwyl fel newyddbeth yn yr Ardal Bywyd Gwledig. Felly, os oes gan eich ci bach y gynffon fwyaf siglog, dyma’r gystadleuaeth i chi!

I selogion yr ardd a phlanhigion, bydd Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn cymryd Canolfan yr Aelodau drosodd ar gyfer y Farchnad Tyfwyr. Bydd tyfwyr profiadol sy’n cynrychioli trawstoriad o’r diwydiant garddwriaeth yn cael y cyfle i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd ac i arddangos eu cynhyrchion yn ystod y digwyddiad deuddydd.

Bydd Canolfan Gneifio Meirionnydd yn troi’n Barth Gwlân unwaith eto; ardal i hyrwyddo pa mor amlbwrpas yw gwlân a’r creadigaethau ardderchog y gellir eu gwneud ohono, gydag arddangosiadau a stondinau masnach yn gysylltiedig â gwlân. Fel rhan o’r Parth Gwlân, bydd cystadlaethau trin gwlân yn cael eu cynnal yn ogystal â chneifio â gwellau, sy’n newydd ar gyfer Gŵyl eleni.

Bydd yr ŵyl wanwyn yn rhoi lle amlwg i thema pethau o dras a phethau clasurol gydol yr amser, yn cynnwys Arddangosfa 75ain Pen-blwydd Gŵyl Land Rovers Cymru, ystafell de o dras yn yr Ardal Bywyd Gwledig, ceir a beiciau o dras, Tractorau Morgannwg, arddangosiad godro o dras, ac Arddangosfa Gneifio o Dras Meirionnydd.

Ni fyddai’n ddigwyddiad CAFC heb arddangos y cynnyrch bwyd a diod gorau sydd gan Gymru i’w gynnig! Blaswch y nwyddau danteithiol yn y Neuadd Fwyd enwog neu gael tamaid blasus i’w fwyta yn un o’n stondinau bwyd lawer, sy’n frith o amgylch maes y sioe a’r Ardal Bwyd Stryd.

I’r rheini ohonoch ar draws y ffin i Gymru, rydym ond hwb, cam, a naid ymaith! Mae Maes Sioe Frenhinol Cymru yn hawdd ei gyrraedd o bob cyfeiriad ac mae wedi’i leoli ble mae’r A470 a’r A483 yn croesi yn Llanfair-ym-Muallt.

Mae tocynnau ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar gael ar wefan CAFC. Mae tocynnau ar-lein i fore-godwyr yn £18 i oedolion, £5 i blant, neu pam na arbedwch chi arian a phrynu tocyn teulu?

Ewch i www.rwas.wales / www.cafc.cymru i gael mwy o wybodaeth am yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad neu i brynu tocynnau.