Yr haul yn tywynnu dros Lanelwedd wrth i dymor sioeau 2023 ddechrau - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae deuddydd ardderchog yn llawn hwyl wedi’u mwynhau gan filoedd yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Frenhinol Cymru yn Llanelwedd y penwythnos hwn. Roedd yr ŵyl ddeuddydd yn ddathliad o fywyd gwledig, yn arddangos gwir amrywiaeth cefn gwlad Cymru, a bu’n ddiwrnod allan gwych i deuluoedd ifanc, tyddynwyr, ac unrhyw un sydd â chariad at yr awyr agored.

Gyda chyfleoedd i fanteisio ar amrywiaeth eang o wybodaeth yng Nghanolfan y Tyddynwyr, roedd ffermwyr sy’n cadw tyddyn yn gallu dod i wybod am bob math o weithgareddau diddorol, yn cynnwys sgyrsiau ar gychwyn arni gyda’u siwrnai ffermio, cadw gwenyn, ac arddangosiadau llaeth geifr. Roedd amrywiaeth o stondinau i’w mwynhau a phethau i’w gweld, o Gabanau Bugail i Ddreigiau Barfog!

Fe wnaeth Cyswllt Ffermio Garddwriaeth gymryd Canolfan yr Aelodau drosodd ar gyfer Marchnad y Tyfwyr, gan roi’r cyfle i dyfwyr arddangos a gwerthu eu nwyddau dros y ddau ddiwrnod.

Mae’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad bob amser yn llawn adloniant cyffrous, a ’doedd eleni ddim yn eithriad. O gystadlaethau torri coed a choedwigaeth, i’r Gwersyll Ail-greu Canoloesol, roedd yna gyfoeth o wahanol grefftau gwledig ar ddangos. Roedd yr Ardal Bywyd Gwledig yn fwrlwm o weithgareddau i roi cynnig arnynt, megis y cwrs beicio i blant, sgiliau syrcas gan Syrcas Deuluol Panic, a Sioe Gŵn Nofelti Morgannwg gyda’r cyfle i ddod â’ch ci eich hun i gymryd rhan! Cafodd y Brif Sioe Gŵn Agored ei chynnal yn yr Ardal Bywyd Gwledig hefyd, ble gwelsom gannoedd o gŵn yn cystadlu i gymhwyso ar gyfer Crufts 2024.

Yn denu cystadleuwyr a thyddynwyr o bell ac agos, roedd yna resaid ragorol o anifeiliaid yng nghystadlaethau’r da byw a’r ceffylau ym mhob adran, ac roedd hyd yn oed seren Radio Cymru, Ifan Jones Evans ar ein panel beirniadu defaid. Ychwanegwyd nifer o ddosbarthiadau ceffylau newydd eleni, a’r brif un oedd rowndiau cymhwyso Sêr y Dyfodol ar gyfer Sioe Geffylau Ryngwladol Llundain 2023. Cyflwynodd y Gymdeithas ddosbarthiadau Cynhyrchwyd Gartref newydd sbon hefyd gyda chymorth Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig (WPCS). Bu’r dosbarthiadau hyn yn ffefryn gyda theuluoedd gydag ond aelodau teulu yn gallu cymryd rhan.

I lawer, mae’r Ŵyl yn gyflwyniad i’r byd dangos, ac yn gam cyntaf i fyny’r ysgol at arddangos mewn digwyddiadau mwy. Mae’n gyfle gwych i gyfeirio sylw at y bridiau mwy traddodiadol, prin, a brodorol ac i’r cyhoedd werthfawrogi’r holl amrywiol fridiau o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Gwnaeth Geraint James, Cyfarwyddwr Anrhydeddus yr Ŵyl sylwadau ar lwyddiant digwyddiad cyntaf CAFC yn 2023; “Rydym wedi cael ychydig ddyddiau bendigedig yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, roedd pawb yn llawn cyffro i fod yn ôl yn Llanelwedd i gychwyn tymor y sioeau. Yr Ŵyl oedd y digwyddiad cyntaf ar ôl ansicrwydd ôl-Covid y llynedd, felly roedd hi’n wych ei gweld yn ôl ar ei hanterth, gyda’r ymwelwyr yn teimlo’n hyderus i fynychu digwyddiadau unwaith eto.

Cawsom ein bendithio â thywydd rhagorol trwy gydol y penwythnos, a gyfrannodd at yr awyrgylch cadarnhaol o deimlo’n dda o gwmpas Maes y Sioe.”

Ar ôl llwyddiant y llynedd, roedd y Parth Gwlân yn ei ôl, yn arddangos amlbwrpasedd gwlân a’r creadigaethau gwych a wneir ohono gydag amrywiol arddangosfeydd a stondinau masnach. Denodd y cystadlaethau trin gwlân a chneifio â gwellau lawer o wylwyr a fu’n mwynhau gwylio’r cystadleuwyr yn brwydro yn erbyn ei gilydd yn y cystadlaethau i nofisiaid, y cystadlaethau canolradd a’r cystadlaethau agored.

Roedd cylch Arddangos yr Ŵyl yn llawn dop o adloniant trwy gydol y ddau ddiwrnod. Heidiodd y tyrfaoedd i wylio’r cystadlaethau Neidio Ceffylau, Sioe Styntiau Beiciau Modur Steve, a Beiciau  Awyr MAD. Perfformiodd Arddangosfa’r ‘Little Nippers’ eu triciau doniol, ynghyd â llawer o adloniant arall, yn cynnwys arddangosfa drawiadol cerbydau o dras Gŵyl Land Rovers Cymru.

Ni fyddai’r un o ddigwyddiadau’r Gymdeithas yn gyflawn heb ei gynnig o fwyd a diod ac ni wnaeth Gŵyl eleni ddim siomi. Yn ogystal â’r Neuadd Fwyd sy’n croesawu cynhyrchwyr yn arddangos y cynnyrch gorau un o Gymru, roedd yr Ardal Bwyd Stryd boblogaidd yn llawn ffrwst gydol y penwythnos gyda phobl yn cymryd ennyd i ymlacio a mwynhau hufen iâ yn yr heulwen.

Yn dilyn cyhoeddiad Dr Fed Slater ei fod yn ymddeol fel Cadeirydd pwyllgor yr Ŵyl, ac fel cyn-Gyfarwyddwr y digwyddiad, talodd Geraint James deyrnged i’w ymroddiad a’i ymrwymiad hael i ddatblygiad yr Wyl dros y blynyddoedd ac i’w gysylltiad hirsefydlog gydag Adran Arddwriaeth y Gymdeithas er canol y 1970au. Dymunwn ymddeoliad hir, hapus, ac iach iddo.

Gan edrych ymlaen at y dyfodol, meddai Prif Weithredwr CAFC, Aled Rhys Jones, “Dyna ddeuddydd anhygoel yr ydym wedi’i gael yma yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad. Mae’r tywydd wedi bod yn ogoneddus, mae’r awyrgylch wedi bod yn ffantastig. Mae nifer enfawr o bobl, teuluoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt wedi dod yma i fwynhau’r anifeiliaid, y bwyd, a’r adloniant. Bu’n benwythnos penigamp yma ar faes y sioe. Ond mae hi’n amser i edrych ymlaen yn awr, mae cyfri’r dyddiau yn dechrau… dim ond naw wythnos tan Sioe Frenhinol Cymru!”

Rhestrir prif ganlyniadau’r penwythnos isod, bydd rhestr lawn o ganlyniadau’r cystadlaethau ar gael ar y wefan yn y man: www.cafc.cymru

Prif ganlyniadau’r penwythnos:

Canlyniadau Da Byw

Defaid           

Prif Bencampwr – Dafad North County Cheviot – Mri Meakins & Sloyan (Rhif Catalog – 1771)

Is-Brif Bencampwr – Brîd Cyfandirol Pur – Ben Baker (Rhif Catalog – 1646)

Grŵp o Dair Dafad       

Prif Bencampwr – Dafad Southdown – Gruff a Lynda Richards (Rhif Catalog – 1587)

Is-Brif Bencampwr – Kerry Hill – Old School Kerry Hills – (Rhif Catalog – 1382)

Moch    

Prif Bencampwr – Gloucester Old Spot – Sharon Barnfield (Rhif Catalog – 2036)

Is-Brif Bencampwr – Durock – AJ Walton (Rhif Catalog – 2014)

Geifr Angora

Prif Bencampwr – T Rogers (Rhif Catalog – 3034)

Geifr Godro Diwrnod 1

Pencampwr – Nick Parr (Rhif Catalog – 7206)

Pencampwr Brîd Geifr Pigmi      

Pencampwr – Tracy Carter (Rhif Catalog – 3134)

Pencampwr Anifail Anwes Geifr Pigmi

Pencampwr – P.M. Keates (Rhif Catalog – 3101)

Geifr Boer    

Pencampwr – Jo Jennings (Rhif Catalog – 3346)

Gwartheg

Prif Bencampwr – Shorthorn Bîff – Mary Cormack (Rhif Catalog – 4046)

Is-Brif Bencampwr – Longhorn – Bernard a Margaret Llewellyn (Rhif Catalog – 4031)

Gwobr Stondin Fasnach Bridiau Defaid Orau      

Enillydd – Rhian Rochford – Defaid Mynydd Cymreig Duon – (Rhif Catalog – 1040)

Gwobr Arddangoswr Gorau Llinell y Gwartheg   

Enillydd – Leslie Cook – Henffordd Traddodiadol

Canlyniadau Ceffylau

Rownd Gymhwyso Ardal Cymdeithas y Ceffylau Hŷn 2023

  1. 1012 Pencampwriaeth Mewn-llaw

Pencampwr –  Holly Harford (5080)

  1. 1017 Pencampwriaeth Marchogedig

Pencampwr –  Wendy Harries (5095)

Sioe Ranbarthol Cymru CHAPS

S.1023  Pencampwriaeth Mewn-Llaw        

Pencampwr – Michelle Picford (5126)

S.1033 Pencampwriaeth Marchogedig

Pencampwr –  Sophia Chambers (5144)

S.1034 Armature/Marchogedig a Gynhyrchwyd Gartref/Prif Bencampwriaeth Mewn-Llaw

Pencampwr –  Michelle Picford (5126)

Adran Marchogedig a Nofisiaid – Merlod

  1. 1045 Pencampwriaeth

Pencampwr –  Emma Edwards gyda Stoak Teleri

Is-Bencampwr – Chloe Parker gyda Whalley Red Kite

Ceffylau Trwm/Gwedd a Bridiau Tramor/Byd/Prin

  1. 1050 Pencampwriaeth

Pencampwr – Siedi Shires gyda Milnerfield Jack

Is-Bencampwr – Alexandra Mason gyda Jacktons Fanta

Cobiau Sipsi Traddodiadol

S.1054  Pencampwriaeth  –  Chwilio am Seren (Traddodiadol)

Pencampwr –  Allana Green (5246)

S.1058  Pencampwriaeth  –  Mynd am Ogoniant (Rhan-Frîd)

Pencampwr –  Allana Green (5251)

Cymdeithas Ceffylau Bychain Prydain

  1. 1065 Pencampwriaeth

Pencampwr –  Joanna Davies gyda Ribbons Grafftit Smoking Legacy

Is-Bencampwr –   Charlotte Leonard gyda Scotts Easter Boy

A,B,C,D Cymreig a Rhan-Fridiau Cymreig

  1. 1074 Pencampwriaeth Adran A

Pencampwr –  Peter Jones (5270)

  1. 1083 Pencampwriaeth Adran B

Pencampwr –  Susan Harries (5309)

  1. 1092 Pencampwriaeth Adran C

Pencampwr –  R. J Davies (5335)

  1. 1107 Adran – Pencampwriaeth Rhan-Fridiau Cymreig

Pencampwr –  Eirian Wyn Williams (5379)

Cymreig  Arbennig

  1. 1108 Pencampwriaeth Mewn-Llaw Cymreig Cyffredinol

Pencampwr –  Peter Jones (5270)

Merlod Shetland

  1. 1118 Pencampwriaeth

Pencampwr –  Anna Stevens gyda Toby of Catchpool

Is-Bencampwr –  Dawn Hawker gyda Hawkerbays Empress

Ceffylau Hela yn Gweithio

  1. 1129 Pencampwriaeth Iau

Pencampwr –  Laura Rutter gyda Crossfoot Pippin

Is-Bencampwr –  Hayley Smith gyda Apache Blue Eye

  1. 1130 Pencampwriaeth Hŷn

Pencampwr –  Grace Hampton gyda Rock Heart

Is-Bencampwr –  Jessica Noonan gyda Fronarth Gustav

Ceffylau Tynnu Gwyddelig

  1. 1154 Pencampwriaeth Mewn-Llaw

Pencampwr –  Allana Green gyda Greenview Sheer Imagination

Is-Bencampwr –  Happy Hounds & Horses gyda Nos Da Cariad

  1. 1157 Pencampwriaeth Marchogedig

Pencampwr –  Lynsday John gyda Ainninn Gealach

Is-Bencampwr –  Ceri Simpson gyda Happenchance Grey Diamond

Mynydd a Gweundir

  1. 1162 Pencampwriaeth (Ac Eithrio Bridiau Cymreig a Merlod Shetland)

Pencampwr –  Lucinda Dargavel gyda Strathmore Majestic

Is-Bencampwr –  Dafydd Thomas gyda Simones Firecracker

Pencampwriaeth Canolradd Agored

  1. 1165 Pencampwriaeth

Pencampwr –  Megan Williams (5647)

Pencampwriaeth Ceffylau Rasio a Ailhyfforddwyd

  1. 1168 Pencampwriaeth Ceffylau Rasio a Ailhyfforddwyd

Pencampwr –  Jayne Brace gyda Royal Craftsman

Is-Bencampwr –  Alice Rees gyda Sawago

Ceffylau Arab

  1. 1171 Pencampwriaeth Marchogedig

Pencampwr (ac Is-Bencampwr) –       Lauren Cooper gyda BA Aniswa

S.1176 Pencampwriaeth Mewn-Llaw

Pencampwr – Rhodri Jones gyda Eliana

Is-Bencampwr – Rhodri Jones gyda Song of Nyla

Cyfrwy Untu

  1. 1182 Pencampwriaeth Cyfrwy Untu

Pencampwr –    Charlotte Rees gyda Tooreeny Lad

Is-Bencampwr –  Rachael Forkings gyda Otto Watto

Cymdeithas y Bridiau Asynnod

  1. 1195 Pencampwriaeth Asynnod

Pencampwr –  Hazel James gyda Freystrop Lily May

Is-Bencampwr –  Hazel James gyda Freystrop Crystablelle

  1. 1196 Asyn Lleol Gorau

Pencampwr –  Sarah Hodges gyda Jack

Prif Bencampwriaeth y Ceffylau

  1. 2000 Pencampwriaeth

Pencampwr –    Ribert Scrine gyda Cumano Cassini

Is-Bencampwr –  Allana Green gyda Greenview Sheer Imagination