Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) wedi newid i dariff ynni 100% adnewyddadwy ar gyfer ei chyflenwadau trydan.

Mae’r sefydliad sy’n cynnal y Sioe Frenhinol eiconig wedi ymgofrestru gyda’r cyflenwr ynni EDF. Mae cynllun Ynni Adnewyddadwy i Fusnes yn defnyddio trydan a gefnogir gan REGO (Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy) y Deyrnas Unedig neu Warantau Tarddiad Ewropeaidd (GoOs), o gymysgedd o ffynonellau yn cynnwys hydro, gwynt, solar, biomas a nwy tirlenwad. Mae’r newid yn cefnogi ymrwymiad y Gymdeithas i gynaliadwyedd.

Mae Ynni Adnewyddadwy Busnes EDF wedi’i gynllunio i helpu busnesau a sefydliadau masnachol gyda’u hadroddiadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cadarnhau fod y trydan a gyflenwir yn 100% dod o fewn Tystysgrifau Adnewyddadwy y mae EDF wedi’u cael, yn unol â Chanllawiau Protocol Sgôp 2 Nwyon Tŷ Gwydr Sefydliad Adnoddau’r Byd (2015), sy’n golygu nad oes dim allyriadau i’r trydan a gyflenwir.

Pwysleisiodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, bwysigrwydd cyfrifoldeb a chynaliadwyedd. “Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac i ostwng ein hallyriadau carbon. Rydym wrth ein bodd fod tariff Ynni Adnewyddadwy i Fusnes EDF yn gwarantu y bydd yr holl drydan a ddefnyddiwn yn deillio o ffynonellau 100% adnewyddadwy gyda sgôr dim allyriadau, a fydd yn gwella ein nodau cynaliadwyedd tymor hir.”

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wrthi ar hyn o bryd hefyd yn gosod system solar 300kW newydd ar doeau’r adeiladau da byw ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan yr arian hael iawn gan sir nawdd y llynedd, Clwyd.

“Mae gosod y paneli solar yn rhan allweddol o’n llwybr i ddod yn wyrddach ac i’n diogelu rhag rhai o’r codiadau enfawr ym mhrisiau ynni yr ydym wedi’u gweld dros y misoedd diweddar. Rydym yn falch ein bod wedi penodi contractwr i osod y paneli newydd ac yn gobeithio y bydd y gwaith wedi’i gwblhau cyn sioe eleni.”