Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae ysgol gynradd yn Y Barri sydd wedi sefydlu siop fwyd a gwisg ysgol a thŷ golchi ‘talu fel ry’ch chi’n teimlo’ i gefnogi teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ynddi am wobr addysg fyd-eang. Mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn un o chwe ysgol yn y DU sydd ar restr fer o’r 10 uchaf ar gyfer gwobrau Ysgolion Gorau’r Byd T4 Education, ac mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o fod yn eu croesawu nhw i Sioe Frenhinol Cymru yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Sioe Frenhinol Cymru, sy’n digwydd ar y 24ain – 27ain o Orffennaf, yn denu dros 200,000 o ymwelwyr ar draws pedwar diwrnod i ddod at ei gilydd a dathlu goreuon amaethyddiaeth Cymru a Phrydain. Yn newydd ar gyfer 2023, mae CAFC yn lansio Pentref Bwyd Cymreig o’r enw Gwledd/Feast a fydd yn rhoi lle amlwg i fwyd a diod gorau Cymru gyda’i gilydd gyda llwyfan cerddoriaeth fyw a seddi ar gyfer dros 500 o ymwelwyr. Mae bwyd yn elfen allweddol o’r digwyddiad ac yn adeiladu ar lwyddiant y Neuadd Fwyd boblogaidd, mae’r pentref bwyd newydd yn argoeli i fod yn atyniad newydd gwych.
O fewn y Pentref Bwyd Cymreig newydd, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’r elusen, Big Bocs Bwyd. Nod yr elusen yw sicrhau nad oes yr un plentyn yn llwglyd a bod pob plentyn yn gallu dysgu sut i wneud dewisiadau bwyd da sy’n eu galluogi i ffynnu. Mae Big Bocs Bwyd yn gweithredu banciau bwyd ‘talu fel ry’ch chi’n teimlo’ mewn tua 50 o ysgolion cynradd ar draws Cymru, ble maen nhw hybu deietau iach ac yn cyflwyno gwersi coginio a thyfu llysiau.
Dechreuwyd y cynllun yn Ysgol Gynradd Tregatwg, yn nhref glan môr Y Barri, de Cymru ble bu i’r plant a’r rhieni agor y siop fwyd yn gyntaf ym mis Mehefin 2020 mewn cynhwysydd cludo y tu allan i ganolfan gymunedol yr ysgol. Mae Ysgol Gynradd Tregatwg wedi gallu cynorthwyo dros 60 o ysgolion eraill ar draws Cymru wrth sefydlu eu siopau Big Bocs Bwyd eu hunain i helpu teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd.
Bydd enillwyr pum gwobr Gorau’r Byd – am gydweithrediad cymunedol, gweithredu amgylcheddol, arloesi, goresgyn adfyd, a chefnogi bywydau iach – yn derbyn 50,000 doler yr UD (£40,000) yr un.
Mewn partneriaeth â Sioe Frenhinol Cymru, bydd cynwysyddion Big Bocs Bwyd a phlant o chwech o ysgolion cynradd yn y Sioe i hyrwyddo eu gweithredoedd, a sut y maen nhw’n gweithio gyda phartneriaid, yn cynnwys Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb bwyd a deiet gwael.
Mae’r cydweithrediad yn cynnwys y cyfanwerthwr bwyd annibynnol, Castell Howell. Yn dathlu ei ben-blwydd yn 35 oed bellach, sefydlwyd Bwydydd Castell Howell gan ffermwr llaeth ar y pryd, Brian Jones, cyn-Lywydd CAFC, ac mae wedi’i wreiddio’n gadarn mewn amaethyddiaeth a’r gymuned gydag ethos elusennol cryf.
Mae Castell Howell yn cyflenwi 1500 o ysgolion ar draws Cymru ac yn teimlo cyfrifoldeb i’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau bwyd. Mae Edward Morgan, y rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, wedi’i gyffwrdd i’w galon gan ei brofiad gyda Big Bocs Bwyd ac mae’n frwdfrydig ynglŷn â dod ag elusen y Big Bocs Bwyd i Sioe Frenhinol Cymru.
“Yn erbyn cefnlen dialog dros amaethyddiaeth gynaliadwy, pryderon amgylcheddol, heriau cadwyni bwyd, anghydraddoldebau bwyd, ‘dylanwadwyr’ a’r daer angen i hyrwyddo’r sector bwyd fel dewis gyrfa, ni fu, fe ellid dadlau, erioed amser mwy pwysig i amaethyddiaeth Cymru adennill rhywfaint o’r naratif a gollwyd ar gynhyrchu bwyd a dewisiadau deietegol.
“Mae anghydraddoldeb bwyd plant a deietau gwael yn broblemau cronig yng Nghymru. Mae llawer yn y sector amaethyddol wedi’u gwahanu braidd oddi wrth yr heriau a wynebir gan rai o’n cymunedau trefol, yr un modd mae llawer o’n trefi a’n dinasoedd wedi’u gwahanu’n fawr iawn oddi wrth amaethyddiaeth a thyfu bwyd. Dyma un rheswm ein bod yn cefnogi elusen Y Big Bocs Bwyd.”
Mae Aled Rhys Jones Prif Weithredwr CAFC yn awyddus i ddod ag elfennau newydd i’r Sioe tra byddir yn cadw gwerthoedd traddodiadol ac amcanion elusennol y Gymdeithas. Mae cydweithredu gyda Big Bocs Bwyd yn y Pentref Bwyd Cymreig newydd yn ffordd ardderchog o gyflawni hyn.
“Gyda Morgannwg yn sir nawdd Sioe Frenhinol Cymru eleni, mae hi’n wych cael ysgol o’r sir yn cymryd rhan mor amlwg yn sioe eleni. Mae gwaith Ysgol Tregatwg wedi gwneud argraff aruthrol arnaf ac maen nhw’n haeddiannol iawn o’r gydnabyddiaeth ryngwladol y maent wedi’i hennill. Mae cyfuno bwyd gydag addysg yn ffordd effeithiol o hybu deietau iachach ac rwyf yn edrych ymlaen at eu rhaglen o arddangosiadau bwyd ar y llwyfan adloniant newydd yn y pentref bwyd.”
I gael mwy o wybodaeth am Sioe Frenhinol Cymru 2023, neu i brynu tocynnau anelwch am ein gwefan: https://rwas.wales/royal-welsh/ .