Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gyda thema’n canolbwyntio ar wella da byw yn enetig a sgiliau ceffylau, enillydd Gwobr Dr Emrys Evans Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni yw Mr Charles George o Sir Benfro.

Roedd y beirniaid yn llawn edmygedd o safon uchel yr ymgeiswyr am y wobr, a noddwyd yn garedig gan Mrs Mair Evans. Dangosodd bob un o’r deg ymgeisydd amrywiaeth eang o sgiliau wrth wella perfformiad genetig eu da byw trwy ddefnyddio mynegai bridio i ddarparu tystiolaeth wrthrychol o gynnydd o ran effeithiolrwydd, cynhyrchiant, a chynaliadwyedd.

“Mae’r diwydiant mewn dwylo diogel gyda dawn a brwdfrydedd y genhedlaeth iau.” meddai’r beirniaid, Mr DE Meurig James FRAgS a Mr John Griffiths FRAgS.

Yr ymgeisydd sy’n sefyll allan eleni yw Charles George o Hwlffordd, Sir Benfro, a ddangosodd yn glir sut y mae gwell defnydd o eneteg yn dwyn ffrwyth yn awr ym muches Brynhyfryd. Cafodd defnydd gwaith embryo, semen yn ôl ei ryw a dethol genetig gofalus gan ddefnyddio mynegai i wella’r broses gwneud penderfyniadau ei ddangos i’r safonau uchaf.  Gellid ond edmygu rheolaeth y fenter laeth gyfan, wedi’i amlygu gan y cydbwysedd rhwng teip a chynhyrchu.

Gwnaeth Ioan Jones Evans o Drawsfynydd, Meirionnydd argraff dda iawn ar y beirniaid hefyd oherwydd llwyddiant diweddar Ioan gyda merlod a chobiau. Yn awyddus i ddatblygu bridfeydd Islyn ac Arthen ymhellach, fe wnaeth Ioan, sydd ar hyn o bryd yn defnyddio cymysgedd o ffrwythloni naturiol ac artiffisial o’r Deyrnas Unedig a thramor, rannu cynlluniau i ddatblygu ei wasanaeth AI ei hun ar gyfer cesig yn ymweld â’u fferm gartref.

Bydd tystysgrif a medal yn cael eu cyflwyno ar ddydd Llun 24 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru er cof am Dr Emrys Evans, medalydd aur Sioe Frenhinol Cymru a chadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a fu farw y noson cyn sioe’r canmlwyddiant yn 2004.