Sioe Frenhinol Cymru’n datgelu Pentref Bwyd Cymreig newydd o’r enw Gwledd | Feast - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gyffrous i ddatgelu ei chynlluniau i lansio Pentref Bwyd a Diod Cymreig newydd sbon ymhen ychydig dros wythnos yn Sioe Frenhinol Cymru 2023!

Yn cael ei frandio fel Gwledd | Feast, bydd y pentref bwyd newydd yn arddangos y gorau oll o gynnyrch Cymru mewn amgylchedd hamddenol, ystyriol o deuluoedd gyda seddi i dros 500 o bobl a rhaglen lawn o adloniant ar lwyfan cerddoriaeth fyw.

Mae ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru yn dweud yn aml fod bwyd yn un o’r prif resymau pam eu bod yn dod ac eleni mae’r Gymdeithas yn awyddus i ddyrchafu’r profiad bwyd trwy gynnig mwy o amrywiaeth o opsiynau bwyd o Gymru a mwy o leoedd i eistedd a mwynhau eu bwyd a diod tra byddant yn mynychu ein digwyddiadau. Dyna paham y mae’r Gymdeithas yn lansio’r pentref bwyd newydd hwn fel prosiect peilot yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Bydd Gwledd | Feast wedi’i leoli ger Mynedfa B a bydd ar agor ar hyd y pedwar diwrnod. Mae bwyd yn elfen allweddol o holl ddigwyddiadau’r Gymdeithas ac yn adeiladu ar lwyddiant y Neuadd Fwyd boblogaidd, mae’r pentref bwyd newydd am fod yn wledd fendigedig o hwyl a bwyd!

Bydd amrywiaeth eang o gwmnïau’n cymryd rhan yn yr arddangosfa fwyd, gan greu microcosm go iawn o ddiwydiant bwyd a diod Cymru o ddanteithion sawrus i drîts melys.

Rydym yn gyffrous o ddatgelu’r 14 o allfeydd fydd yn bresennol eleni:

Brecon Brewing Ltd – Yn darparu dewis o gwrw crefft, lager a seidr ar dap sydd wedi ennill gwobrau i chi eu mwynhau.

Cegin Manuka – Yn fusnes bwyd stryd, mae Cegin Manuka â dylanwad Thai cryf gydag opsiynau heb gynnyrch llaeth a heb glwten. Yn defnyddio cigoedd a gyrchir yn lleol i wneud cyrïau a phrydau tro-ffrio hynod flasus.

Celtic Pie Company – Yn cyflwyno pasteiod o wneuthuriad Cymreig gwirioneddol i fodloni pob oed. Fe’u cynhyrchir ynghanol Sir Gaerfyrddin gan ddefnyddio cig eidion brau a chyw iâr ac mae yna opsiynau llysieuol blasus iawn hefyd sy’n defnyddio llysiau maethlon a chawsiau Cymreig.

Cwmfarm – Charcuterie a thŷ mwg Cymreig sydd wedi ennill gwobrau.

Hench Burgers – Yn defnyddio eu blend briwgig Cymreig tra chyfrinachol eu hunain a sesnin wedi’i berffeithio maent yn cynhyrchu bynsen grystiog cig (neu figan) frau, suddlon, blasusrwydd a draflyncwyd gan gaws.

Nixon Farms Pen-min-cae Welsh Black Beef and Lamb – Cig eidion Duon Cymreig, cig oen Cymreig a phorc Cymreig wedi’i gynhyrchu gartref gydag anifeiliaid a fagwyd ar eu fferm deuluol dim ond tair milltir o Faes Sioe Brenhinol Cymru.

Radnor Hills Mineral Water Company Ltd – Amrywiaeth o bressés premiwm sy’n cymryd eu henw o’u fferm deuluol. Maent yn cael eu creu o flend o Ddŵr Ffynnon Radnor Hills pur a chynhwysion 100% naturiol.

Ralph’s Cider – Seidr ffermdy traddodiadol.

Ridiculously Rich by Alana – Amrywiaeth hynod flasus o deisennau cartref, wedi’u pobi yn eu becws yn Aberystwyth.

The Artisan Cook – Pitsa wedi’i bobi ar garreg i archeb, wedi’i bleidleisio fel yr un gorau yng Nghymru yng nghystadleuaeth Ar-lein Cymru. Cynhwysion syml, wedi’i wneud yn dda.

The Rock & Scallop – Darparwyr rholiau Bwyd Môr enwog y Rock and Scallop sy’n cynnwys cimwch a chig cranc a bara a geir yn lleol. Yn cynnig cregyn bylchog wedi’u grilio hefyd.

The Teifi Toastie Company – Yn defnyddio’r Cawsiau Cymreig a’r bara gorau i wneud brechdanau crasu caws griliedig sy’n ddigon da i ddod â dŵr i’ch dannedd!

The Welsh Creperie Co – Yn cyfuno cariad at Gymru gydag awch am grempogau math Ffrengig dilys. Yn cael eu coginio i archeb gydag amrywiaeth o opsiynau melys a sawrus blasus iawn.

Welsh Brew Tea / Paned Gymreig – Mae Paned Gymreig wedi bod yn blendio te gyda’n dŵr Cymreig penigamg er 1989. Ochr yn ochr â nifer o wahanol gynhyrchion te, maent yn cyflenwi amrediad premiwm o goffi mâl a siocled yfed moethus. Caiff yr holl gynhyrchion eu pecynnu’n ddwyieithog.

O fewn Gwledd | Feast, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’r elusen, Big Bocs Bwyd sy’n gweithredu banciau bwyd ‘talu fel r’ych chi’n teimlo’ o gynwysyddion sydd wedi’u lleoli y tu allan i ysgolion. Nod yr elusen yw sicrhau nad oes yr un plentyn yn llwglyd a bod pob plentyn yn gallu dysgu sut i wneud dewisiadau bwyd da sy’n eu galluogi i ffynnu. Bydd cynwysyddion a phlant o chwech o ysgolion cynradd yn y Sioe i hyrwyddo eu gweithredoedd, a sut y maent yn gweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb bwyd a deiet gwael.

Ynghyd â’r amrywiaeth flasus o allfeydd bwyd, bydd y pentref bwyd yn rhoi lle amlwg hefyd i gerddorion Cymreig uchel eu clod, megis Bronwen Lewis, y Welsh Whisperer a’r triawd gwerin, Sorela.

I gael gwybod mwy am beth sy’n eich disgwyl yn Sioe Frenhinol Cymru eleni anelwch am ein gwefan. Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein yn awr, ac rydym yn eich annog i sicrhau eich tocyn ymlaen llaw i hepgor y ciwiau ac osgoi oedi! Ewch i https://rwas.ticketsrv.co.uk/events/ i gael eich tocyn yn awr.