Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Bydd pedwar ar ddeg o weithwyr amaethyddol o bob cwr o Gymru, sydd gyda’i gilydd wedi rhoi dros 600 mlynedd o wasanaeth, yn derbyn Medal neu dystysgrif Hir-Wasanaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i gydnabod eu hymroddiad i’r diwydiant amaethyddol yn Sioe Frenhinol Cymru 2023.
Rhoddir Gwobr Hir-Wasanaeth CAFC i unigolyn sydd wedi’i gyflogi fel ‘Gweithiwr â Chysylltiad Amaethyddol’ am dros 40 mlynedd. Byddir yn ystyried bod y term ‘Gweithiwr â Chysylltiad Amaethyddol’ yn cynnwys rolau swyddi arbennig sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd ac yn arbennig yng Nghymru. Rhaid i’r cyflogwr neu’r gweithiwr enwebedig for yn aelod cyfredol o’r Gymdeithas.
Y rhai sy’n derbyn gwobrau eleni yw:
Mae Tystysgrif Hir-Wasanaeth ar gael i’r unigolion hynny sydd eisoes wedi derbyn Medal Hir-Wasanaeth. Rhaid i unigolyn fod wedi cwblhau 50 mlynedd neu fwy o gyflogaeth.