Myfyrwyr addawol yn derbyn Gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cyflwyno gwobrau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol a sêr y dyfodol sy’n cydnabod ac yn talu teyrnged i’w brwdfrydedd a’u hymroddiad i amaethyddiaeth Cymru.

Cyflwynwyd gwobrau i’r myfyrwyr canlynol yn Seremoni Wobrwyo heddiw (dydd Mawrth 25ain Gorffennaf) yn Sioe Frenhinol Cymru 2023.

 

Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn

Enillwyd Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am 2023 gan Megan Hughes o Lanelli.

Mae’r Wobr Myfyriwr y Flwyddyn flynyddol yn agored i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau NVQ Lefel III neu ND/NC BTEC, tystysgrif/diploma C&G mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth, Coedwigaeth, Nyrsio Anifeiliaid, Rheoli Ceffylau, Rheoli Cefn Gwlad, neu gyrsiau rheoli eraill yn gysylltiedig â’r tir.

Soniodd y beirniaid, Mrs Joy Smith a’r Athro Wynne Jones OBE FRAgS, am safon eithriadol bob ymgeisydd. Er yn benderfyniad anodd, fe wnaethant benderfynu mai Megan Hughes oedd yr ymgeisydd buddugol. Er nad yw hi o gefndir ffermio, mae Megan wedi cymryd rheolaeth ar ei dyheadau gyrfa yn frwdfrydig ac wedi ymdrechu i gymryd pob cyfle i wella ei gwybodaeth a’i phrofiad o’r diwydiant.

“Trwy’i gallu a’i hymroddiad, mae hi wedi ennill parch ei chyfoedion a’i chyflogwyr. Mae Megan yn unigolyn cryf iawn ei ffocws a’i chymhelliad sy’n dymuno parhau ei hastudiaethau mewn Biowyddoniaeth Filfeddygol.”

Gwnaeth y beirniad y sylw fod yr ymgeiswyr ifanc i gyd yn gaffaeliad i’r diwydiant, wrth iddynt sôn yn angerddol am eu hastudiaethau, a’u dyheadau gyrfa.

 

Bwrsari Addysgol Gwili Jones – Coleg Sir Gâr

Dyfarnwyd Bwrsari Addysgol Gwili Jones – Coleg Sir Gâr i Deio Lewis, o Lanbedr Pont Steffan, Ceredigion.

Mae’r Wobr hon yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi myfyrwyr sy’n dod i mewn i’r diwydiant peirianneg amaethyddol trwy hwyluso lleoliad gwaith wythnos o hyd gyda gwneuthurwr uchel ei fri o fewn y sector.

Mae’r bwrsari ar gael i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio’r cwrs Peirianneg Amaethyddol o fewn y gyfadran Amaethyddiaeth ar gampws Gelli Aur ar hyn o bryd, neu i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cwblhau cwrs yn llwyddiannus o fewn y gyfadran yng Ngholeg Sir Gâr yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae Deio’n byw ar fferm yng Nghilcennin, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, ble maent yn rhedeg busnes contractio peirianneg sifil amaethyddol hefyd. Mae e’ newydd gwblhau blwyddyn gyntaf Lefel 3 mewn Peirianneg Amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr.

Mae cynlluniau gyrfa tymor byr Deio yn cynnwys gweithio i ddelwriaeth er mwyn ennill profiad o beirianneg a gyda’i ddiddordeb brwd mewn technoleg fodern, mae’n gyffrous ynghylch yr addewid o brofiad uniongyrchol o’r gweithrediadau mewn ffatri gwneuthurwr ac mae’n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn.

Yn y tymor canolig, byddai’n hoffi dilyn ei dad a gweithio ar ochr amaethyddol y busnes.

 

Gwobr Myfyriwr IBERS

Enillwyd y wobr am y myfyriwr amaethyddiaeth gorau yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan Siwan Fflur Roberts o Lanwddyn, Powys.

Mae Siwan yn graddio’n ddiweddarach eleni gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Amaethyddiaeth. Mae hi wedi rhagori mewn amryw o bynciau yn ystod ei gradd, yn cynnwys Cynllunio Fferm ac Uwch Reolaeth Fferm, Gwyddor Cynhyrchu Cnydau a Thir Glas ac ymgymerodd â rhan sylweddol o’i hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Siwan yn aelod brwd o CFfI Dyffryn Tanat ac mae hi wedi cystadlu mewn amryw o weithgareddau, o siarad cyhoeddus i feirniadu stoc.  Mae hi wedi bod yn weithgar hefyd ar y fferm deuluol yn ystod ei hastudiaethau, yn cynnwys chwarae rhan allweddol wrth i’r fferm deuluol arallgyfeirio gyda menter ‘Glampio’ newydd.

 

Gwobr Myfyriwr Harper Cymry

Dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr Harper Cymry, sy’n cael ei hyrwyddo ar y cyd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Harper Cymry, i Hannah Ruby Burgoyne o Sarnau, Llanymynech.

Cyflwynwyd Gwobr Myfyriwr Harper Cymry gyntaf yn 1999 gan y diweddar Mr Bill Ratcliffe, Cymrodor yn Harper Adams ac un o sylfaenwyr Cymdeithas Cynfyfyrwyr Harper Cymry. Mae’r wobr yn ceisio annog myfyrwyr o Gymru sy’n astudio ym Mhrifysgol Harper Adams i gyfrannu’n llawn at ddatblygu eu potensial academaidd ynghyd â’u potensial personol.

Mae’r wobr yn cydnabod y myfyriwr gyda’r yrfa academaidd orau wedi’i chyfuno â chyfraniad cadarnhaol iawn at amgylchedd dysgu ehangach myfyrwyr y coleg trwy’i glybiau, cymdeithasau neu drwy weithgareddau allgyrsiol eraill. Wedi’i gwmpasu yn y wobr hefyd mae cyfraniad llawn at weithgareddau Harper Cymry (y clwb yn y coleg ar gyfer myfyrwyr o Gymru).

Y beirniaid eleni oedd Doris Taylor, Pennaeth Datblygu, Prifysgol Harper Adams, Edward Worts a Sion Thomas (enillwyr blaenorol y wobr). Yn ystod y cyfweliad, mae’r beirniaid yn ceisio’r myfyriwr sydd â’r cynlluniau gyrfa wedi’u cynllunio orau a’r potensial gorau.

 

Gwobr Myfyriwr Amaethyddol Dr Richard Phillips

Enillwyd gwobr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i fyfyrwyr er cof am y diweddar Dr Richard Phillips, ffigwr blaenllaw mewn addysg amaethyddol yng Nghymru, gan Aled John Jones o Goleg Sir Gâr.

Gwneir y Wobr yn bosibl trwy haelioni teulu Dr Phillips, ac mae’n cynnwys Tystysgrif y Gymdeithas a gwobr ariannol ac mae’n agored i fyfyrwyr sy’n graddio o Adrannau Amaethyddol Prifysgol Cymru.

Mae’r myfyrwyr yn cael eu dewis o flaen llaw gan Benaethiaid yr Adrannau Amaethyddol, ac mae gan bob Prifysgol yr hawl i gyflwyno hyd at bedwar o fyfyrwyr amaethyddiaeth a/neu bynciau’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.

Mae’r dewis terfynol wedi’i seilio ar werthusiad o bersonoliaeth y myfyriwr, o wybodaeth ymarferol am amaethyddiaeth a’i defnydd, dyfnder gwybodaeth am y Gwyddorau Amaethyddol, y goblygiadau economaidd, a rôl amaethyddiaeth yn y dyfodol.

Fe wnaeth brwdfrydedd heintus Aled ynglŷn â phob agwedd ar y diwydiant amaeth gryn argraff ar y beirniaid, Mr Huw Griffith, Mrs Mary Elder Richards a Mr WI Cyril Davies FRAgS.

“Roedd CV trawiadol Aled yn glod i’w lwyddiannau academaidd a galwedigaethol uchel. Mae’i deithiau wedi cyfoethogi ei addysg ac ehangu ei orwelion. Mae cariad Aled at y diwydiant defaid yn amlwg ac mae’i gyfraniad at ei gymuned leol yn glodwiw.” meddai’r beirniaid.

Byddai Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn hoffi llongyfarch pob un o’r enillwyr gwobrau, ac mae’n diolch i’r holl ymgeiswyr am gymryd rhan.