Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae diwrnod cyntaf prysur wedi gosod y llwyfan ar gyfer yr hyn y rhagwelir y bydd yn Sioe Frenhinol Cymru 2023 eithriadol lwyddiannus. Daeth yr ymwelwyr yn eu miloedd i brif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Wrth annerch ymwelwyr yn seremoni agoriadol bore heddiw (dydd Llun 24 Gorffennaf), dywedodd Llywydd 2023, Mr John Homfray o Ystâd Penllyn ba mor falch oedd i fod yn Llywydd y Gymdeithas yn ystod blwyddyn Morgannwg fel Sir Nawdd. “I unrhyw ffermwr neu i unrhyw un o Gymru yn wir, ’does dim anrhydedd fwy na bod yn sefyll ger eich bron yn cynrychioli ein sir enedigol yng nghanol y maes sioe hyfryd hwn.” meddai’r Llywydd.

“Bu inni gychwyn ein siwrnai Morgannwg ar Awst 25ain, yn ôl yn 2019. Rydym wedi cael llawer o hwyl dros y blynyddoedd ac wedi gwneud nifer o ffrindiau trwy hyd a lled ein sir enfawr ac amrywiol iawn. Ar ôl codi swm da i’r elusen bydd adnewyddu Neuadd Morgannwg yn cychwyn gyda hyn, ac rydym wedi sefydlu Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC, yr ydym yn falch iawn ohoni.”

Roedd yn hyfrydwch gennym groesawu Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford i’r seremoni agoriadol a chroesawodd ac anerchodd y mynychwyr gydag araith fer.

Agorwyd Sioe Frenhinol Cymru 2023 yn swyddogol gan dri o raddedigion Morgannwg yn Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig 2022, Emily Morgan, Joshua Govier a Natalie Hepburn.

Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, mae’r rhaglen yn gyfle i ddatblygu sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’n sector. Mae’r rhaglen yn gwrs llawn digwydd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth a chyfarwyddyd dros dri sesiwn preswyl dwys.

“Mae’n anrhydedd gwirioneddol cael y cais i siarad yn seremoni agoriadol eleni.” meddai Emily Morgan sydd wedi graddio mewn Gwyddor Biofilfeddygol o Harper Adams yn ystod anerchiad y seremoni agoriadol.

“Mae Morgannwg yn cynnwys cymysgedd o dirwedd âr a thirwedd mynydd, yn ogystal â dwy ddinas, gan wneud nid yn unig y dirwedd yn amrywiol ond y bobl hefyd. Mae hyn yn rhywbeth a welsom yn uniongyrchol trwy’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig gyntaf.

Gwn fy mod yn siarad ar ran pob un ohonom pan ddywedaf fod y cwrs wedi newid ein bywyd mewn gwirionedd. Ar ôl ei gwblhau, roedd gan bob un o’r ymgeiswyr gariad hyd yn oed dyfnach at amaethyddiaeth, a phenderfyniad i wneud i’n dyheadau o fewn y diwydiant ddigwydd.”

Yr ail o fintai Morgannwg i siarad yn ystod y seremoni agoriadol oedd Joshua Govier, Rheolwr Da Byw Ystâd Penllyn.

“Roedd bod yn rhan o raglen arweinyddiaeth gychwynnol Sioe Frenhinol Cymru yn brofiad anhygoel.” meddai Joshua.

“Mae cymryd rhan yn y cwrs wedi helpu i lunio fy amcanion yn y dyfodol, wedi amlygu cyfleoedd, rhoi hwb i’m hyder ac wedi helpu i feithrin cysylltiadau parhaol a chyfeillgarwch hyd yn oed yn well o fewn amaethyddiaeth a thu hwnt.“

“Gyda balchder a phenderfyniad, gadewch inni barhau i lunio tirwedd ffermio Cymru, gan groesawu arloesi heb golli cyswllt â’n gwreiddiau. Gyda’n gilydd gallwn greu dyfodol sy’n ffynnu ar etifeddiaeth ein hynafiaid a gofal ac arloesedd y cenedlaethau sydd eto i ddod.

Yn olaf, clywodd yr ymwelwyr gan Natalie Hepburn, sydd â gradd Gemeg o Abertawe. O Gaint yn wreiddiol, mae Natalie wedi ailgartrefu yng Nghymru ac wedi newid i yrfa mewn ffermio yn y blynyddoedd diweddar.

“Ni waeth beth fo’ch cefndir, mae i ffermio berthnasedd i bawb. Boed yn letys neu’n gig oen, cig eidion neu fetys, boed yn hufen iâ ar Ynys y Barri, yn gyrri yn Butetown neu’n ginio rhost ym Margoed, rydym i gyd yn bwyta bwyd ac mae inni fudd yn sut ac ym mhle mae ein bwyd yn cael ei gynhyrchu er mwyn ein hiechyd ein hunain, a rhesymau amgylcheddol ac economaidd.”

“Felly dyma ni yn Sioe Frenhinol Cymru 2023 yn amlygu goreuon ffermio a bwyd Cymru ochr yn ochr ag adloniant ac atyniadau gwych. Felly mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi Sioe 2023 wedi’i  hagor yn swyddogol!

Yn dilyn y seremoni agoriadol, dechreuodd Sioe Frenhinol Cymru gyda’i rhaglen 12 awr drawiadol o adloniant yn y Prif Gylch, yn cynnwys yr arddangosfa ysblennydd gan Santi Serra, y sibrydwr ceffylau o Sbaen, styntiau syfrdanol gan Dîm Beiciau Modur FMX Bolddog, Tîm Arddangos Parasiwtio’r RAF, Band Catrodol y Cymry Brenhinol, a Meirion Owen a’i gŵn defaid hoff.

Yn newydd ar gyfer eleni, fe wnaeth y Pentref Bwyd a Diod Cymreig Gwledd | Feast daro’r nod yn bendant. Heidiodd llawer o ymwelwyr i’r pentref i fwynhau’r amrywiaeth o fwyd ar gynnig, o roliau cimwch i bitsa tân coed. Roedd y Llwyfan Adloniant yn ganolbwynt gweithgaredd gyda doniau cerddorol, sgyrsiau ac arddangosiadau’n mynd ymlaen trwy gydol y dydd.

Sioe Frenhinol Cymru 2023 yw’r gyntaf yn y swydd i’r Prif Weithredwr Aled Rhys Jones, ac roedd wrth ei fodd o weld maes y sioe yn ferw o ymwelwyr ac arddangoswyr unwaith eto.

“Bu’n ddiwrnod cyntaf ardderchog yn Sioe Frenhinol Cymru, gyda miloedd yn dod i weld y gorau o’r goreuon sydd gan Gymru i’w gynnig, o’r da byw yn y cylchoedd beirniadu, y cynnyrch Cymreig yn y Neuadd Fwyd a’r Pentref Bwyd i adloniant ac arddangosfeydd o’r radd flaenaf ar ein llwyfannau ac yn y Prif Gylch.”

Wrth i’r diwrnod agoriadol dynnu at ei derfyn a’r tywydd wella, edrychwn ymlaen at yr hyn ddylai fod yn ddiwrnod gwych arall yn Sioe Frenhinol Cymru yfory.”