Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda brwdfrydedd a hyder ar gyfer y swydd anrhydeddus o Lysgennad CAFC ac, yn bwysig, i hyrwyddo nodau ac amcanion y Gymdeithas. Bydd angen i chi fod yn garismatig, bod â sgiliau pobl rhagorol naturiol a bod yn wrandäwr da, sy’n fodlon gweithio’n galed a rhoi 100% o ymroddiad i’r swydd. Rydym yn chwilio felly am rywun gydag egni a mynd sydd â’r gallu i ymgymryd â’r swydd wirfoddol hon.
Os ydych yn gallu ateb yn GADARNHAOL i’r cwestiynau hyn, yna efallai mai chi yw’r ymgeisydd delfrydol ar gyfer swydd bwysig a llawn bri Llysgennad CAFC.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 21 mlwydd oed a hŷn ar y 1af Rhagfyr 2023 ac yn 35 mlwydd oed ac iau ar y 1af Rhagfyr 2024 a rhaid i’w cyfeiriad etholiadol fod o fewn y Sir Nawdd ar ddyddiad y cais.
Dylai’r ffurflen gais gael ei chwblhau a’i dychwelyd at Bennaeth Gweinyddiaeth, trwy e-bost caron@rwas.co.uk erbyn diwedd busnes ar ddydd Mercher 1af Tachwedd, 2023.