Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gynnig mynediad am ddim i dripiau ysgol wedi’u trefnu i’r Ffair Aeaf sydd ar ddod, sy’n cael ei chynnal ar ddydd Llun 27ain a dydd Mawrth 28ain Tachwedd 2023.
Mae CAFC yn hyrwyddo gwyddor amaethyddol, ymchwil, ac addysg, yn arbennig ym meysydd bwyd, ffermio, a chefn gwlad, fel un o’i phrif amcanion elusennol. Felly mae’r Gymdeithas yn falch o gynnig mynediad am ddim i blant ysgol a mynediad rhatach i fyfyrwyr addysg uwch i gael gwybod mwy am amaethyddiaeth yn ystod y digwyddiad deuddydd.
Mae’r Ffair Aeaf yn unigryw o gymharu â digwyddiadau eraill y Gymdeithas gan ei bod yn digwydd yn ystod y tymor. Bob blwyddyn mae mwy o ysgolion a cholegau’n gweld gwerth addysgol mynychu’r digwyddiad hwn i gael gwybod am gynhyrchu bwyd, y gadwyn gyflenwi a sefydliadau amaethyddol. Fe wnaeth dros fil o blant ysgol a myfyrwyr o bob cwr o Gymru a thros y ffin ymweld â Ffair Aeaf y llynedd.
Yn cyffwrdd â llawer agwedd ar y cwricwlwm, mae ymweliad â’r Ffair Aeaf yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael gwybod am amaethyddiaeth mewn perthynas ag astudiaethau busnes, coginio a maeth, lles anifeiliaid, daearyddiaeth, mathemateg a llawer mwy.
Eleni, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn lansio rhaglen addysgol gyffrous newydd yng Nghanolfan yr Aelodau. Bydd y cynnig addysgol ar gyfer dysgwyr o bob oed, yn cynnwys plant ysgolion cynradd ac uwchradd, myfyrwyr addysg uwch a dysgwyr mewn oed. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddeall ffeithiau pwysig sy’n cynnal egwyddorion ffermio, megis hanfodion tyfu mewn pridd iach.
Mae’r siaradwyr yn cynnwys Michael Kennard o’r Compost Club, garddwr, addysgydd, ac Adam Jones cyflwynydd S4C (Adam yn yr ardd), Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU Cymru a chyd-sylfaenydd Cows on Tour, Jonathan Wilkinson, ffermwr o Sir Drefaldwyn ac aelod o’r NFU, and David Elias, cadwraethwr o Barc Cenedlaethol Eryri ac awdur Shaping the Wild.
Rhaid i bob trip ysgol gofrestru ymlaen llaw a rhagarchebu eu tocynnau cyn y Ffair Aeaf. Mae’r Ffair Aeaf yn rhad ac am ddim i blant ysgolion cynradd ac uwchradd dan 16 oed a bydd tâl mynediad rhatach o £5 yn cael ei gynnig i fyfyrwyr addysg uwch. Y dyddiad cau i gofrestru yw dydd Gwener 27ain Hydref 2023.
Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn ffordd ragorol o gael gwybod mwy am amaethyddiaeth, garddwriaeth a rhannu’r stori ffermio gadarnhaol.
Os ydych yn rhan o ysgol, coleg neu brifysgol ac yr hoffech drefnu trip i’r Ffair Aeaf sydd ar ddod dewch i gysylltiad ar requests@rwas.co.uk neu ffoniwch 01982 553863 cyn y dyddiad cau.