Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gyffrous o gyhoeddi cystadleuaeth asennau bîff newydd sbon yn yr Adran Fwtsiera yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni.
Yn uchafbwynt tymor da tewion y gaeaf, bydd y Ffair Aeaf yn agor ei gatiau ar ddydd Llun 27ain a dydd Mawrth 28ain Tachwedd. Yn ogystal ag amrywiol gynhyrchion cig, hamperi, a dofednod wedi’u trin, bydd cystadleuaeth asennau bîff newydd yn cael ei chyflwyno eleni. Gydag arian gwobrwyo, rhosedau a gwobrau i gyd ar gael, mae gan gigyddion, ffermwyr a chynhyrchwyr cig lawer i’w ennill wrth gystadlu yn y dosbarth newydd a chymryd rhan yn yr arwerthiant i arddangos eu nwyddau i’r cyhoedd yn go iawn.
Yn beirniadu ac yn garedig iawn yn noddi’r dosbarth asennau bîff newydd ei ychwanegu bydd tad a mab, Arwyn a Steve Morgans, o Morgans Family Butchers. Wedi’u lleoli yng nghalon Canolbarth Cymru, mae gan Morgans Family Butchers hanes hir o ddarparu cynhyrchion a blasynnau cig traddodiadol o’r ansawdd uchaf, o’u dwy siop wedi’u lleoli yn Aberhonddu a Llanfair ym Muallt.
Er bod y ddau wedi beirniadu llawer o gystadlaethau cynhyrchion cig yn fedrus o’r blaen, dyma fydd y tro cyntaf i’r tad a’r mab feirniadu gyda’i gilydd.
“Dyna fraint ydi hi i mi fod yn beirniadu’r gystadleuaeth yma gyda fy nhad, yr ystyriaf ei fod yn ffrind gorau imi.” meddai Steve Morgans.
“Mae’r diwydiant wedi wynebu llawer o heriau dros y blynyddoedd, ac rydym wedi datblygu ac arallgyfeirio ein busnes i fodloni anghenion cyfoes cwsmeriaid heddiw tra byddwn yn dal i gadw’r arferion bwtsiera traddodiadol hynny yn fyw.”
“Rwyf yn wir edrych ymlaen at feirniadu’r gystadleuaeth yma ac yn fwyaf oll i’n cymuned ei chefnogi ac i arddangos y diwydiant manwerthu yn ei gyfanrwydd.”
Caiff cystadleuwyr gynnig naill ai yn nosbarth yr heffrod neu’r bustych, a bydd y beirniaid yn chwilio am bedwar asgwrn o asen flaen wedi’u torri o chwarthor blaen naw asgwrn. Rhaid i bob bustach a heffer fod dan 30 mis oed. Bydd y beirniadu’n dechrau am 5 y pnawn ar ddydd Llun 27ain Tachwedd, gyda’r arwerthiant yn digwydd y diwrnod canlynol am 10:30 y bore.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gystadleuaeth newydd hon, neu unrhyw un o’r dosbarthiadau yn yr Adran Fwtsiera ewch i’n gwefan i weld yr atodlen neu i gynnig. Mae ceisiadau’n cau ar ddydd Llun 6ed Tachwedd.
I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i’n gwefan.