Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gyda dim ond wythnos i fynd nes bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn llawn ymwelwyr, arddangoswyr a da byw ardderchog unwaith eto, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn edrych ymlaen at groesawu selogion y Ffair Aeaf yn ôl i Faes Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd Ffair Aeaf eleni’n cael ei hagor yn swyddogol gan Abi Reader ar ddiwrnod cyntaf y Ffair (27ain Tachwedd).

Mae Abi Reader, Dirprwy Lywydd presennol NFU Cymru, yn ffermwr cymysg trydedd genhedlaeth, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i rhieni a’i hewythr yng Ngwenfô yn union y tu allan i Gaerdydd. Mae Goldsland Farm yn gartref i 200 o fuchod godro, 150 o ddefaid, 90 o wartheg bîff a 120 erw o dir âr.

Mae Abi’n gydsylfaenydd Cows on Tour, prosiect llwyddiannus sy’n anelu at wella gwybodaeth pob plentyn am ffermio, yn arbennig mewn ardaloedd trefol, yn groesawydd Sul Fferm Agored, ac yn gyn-Ffermwraig y Flwyddyn Cymru NFU Cymru.

Yn ogystal â’i rôl newydd yn NFU Cymru a Cows on Tour, mae Abi’n aelod o Fwrdd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, yn aelod o Fwrdd Rhaglen Dileu TB De-Ddwyrain Cymru, yn Gadeirydd Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg (CHECS), ac yn aelod o Grŵp Ffocws Ymwrthedd Gwrthficobraidd yr NFU. Mae hi wedi graddio o’r Brifysgol Amaethyddol Frenhinol yn Cirencester a chwblhaodd MBA mewn Rheoli Busnesau Fferm yn 2004.

Mae Abi’n ffyrnig o frwdfrydig y dylai pobl ifanc i gyd fod ag ymwybyddiaeth sylfaenol o dechnegau amaethyddiaeth a dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r ‘cynnyrch terfynol’ h.y., bwyd, yr amgylchedd, garddwriaeth, a rheoli tir. Mae Abi bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd y Cwricwlwm Addysgol i Gymru, gan weld manteision technegau dysgu hyblyg, sy’n hollbwysig ar gyfer dyfodol ffermio.

Bydd Abi’n agor Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn swyddogol am 10 y bore ar ddydd Llun 27ain Tachwedd yn Neuadd Arddangos 1, y Prif Gylch. Yn dilyn yr agoriad swyddogol bydd Gwobr Goffa John Gittins 2023, Ysgoloriaeth Nuffield 2024 a Bwrsari Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2024 yn cael eu cyflwyno.

I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau ewch i wefan. CAFC.