Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fel ag yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi rhoi rhodd i Gyngor Tref Llanfair ym Muallt eto tuag at y goleuadau Nadolig yn y dref, gan barhau’r berthynas agos rhwng y ddau sefydliad a’r gymuned leol.

Bob blwyddyn, mae strydoedd Llanfair ym Muallt yn cael eu goleuo gydag arddangosfa ardderchog o oleuadau Nadolig yn barod am wythnos brysur sy’n dod i’r dref yn sgil Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, sy’n cael ei chynnal yn niwedd Tachwedd fel arfer. Mae’r arddangosfa liwgar yn rhoi croeso Nadoligaidd cynnes i’r miloedd sy’n ymweld â’r Ffair Aeaf a’r bobl lawer sy’n byw, yn gweithio ac yn mynd drwy’r dref yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.

Fel arwydd o werthfawrogiad, mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyfrannu £350 i Gyngor y Dref i helpu tuag at y gost o gynnal, codi a phrynu goleuadau newydd.

Bu i Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC gyfarfod â’r Cynghorydd Mark Hammond, Maer y Dref yn Ffair Aeaf 2023 i gyflwyno’r siec yn swyddogol.

Meddai Aled Rhys Jones, “Unwaith eto, rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cefnogi Cyngor y Dref gyda’r goleuadau Nadolig yn Llanfair ym Muallt. Maen nhw’n ychwanegu sblash o liw a llawenydd y Nadolig, a werthfawrogir yn fawr gan ein hymwelwyr â’r Ffair Aeaf a maes y sioe.”

Meddai’r Cynghorydd Mark Hammond, Maer y dref, “Mae Llanfair ym Muallt wedi bod â chysylltiadau agos â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ers iddi symud i’w chartref parhaol yn Llanelwedd yn ôl yn 1963, ond hyd yn oed yn fwy felly hefyd. ers dechrau cynnal y Ffair Aeaf yn 1990.”

“Nid yn unig y mae’r rhodd gan y Gymdeithas yn dderbyniol iawn gan ei bod yn mynd tuag at gynnal a chadw’r goleuadau, ond mae’n arwydd hefyd o’r bartneriaeth bwysig sy’n mynd tuag at helpu economïau lleol a sicrhau bod treftadaeth a diwylliant y dref a chymunedau gwledig yn cael eu  dathlu a’u cadw’n berthnasol yn y dyddiau heriol yr ydym yn byw ynddynt ar hyn o bryd.”