Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae beirniaid o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi rhoi’r cyfle i Glenn Lloyd, ffermwr trydedd genhedlaeth o Landysul, Sir Drefaldwyn, i fynychu Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2024 fis Ionawr nesaf.
Mae Glenn Lloyd yn hunangyflogedig rhwng tri busnes ar hyn o bryd. Y prif fusnes yw’r ochr ffermio a bu mewn partneriaeth â’i dad yn hwnnw er 2011, gan weithio i gynyddu maint y fuches laeth a thrawsnewid i organig.
Fel rhan o arallgyfeirio’r fferm, lansiodd Glenn a’r teulu Daisy Bank Dairy yn 2020. Mae’r fenter lwyddiannus yn pasteureiddio ac yn dosbarthu llaeth ac ysgytlaethau organig i siopau a chyfanwerthwyr ar draws Cymru.
Medd Glenn, “Rydym yn danbaid iawn dros amaethyddiaeth atgynhyrchiol, dros wella iechyd y pridd, defnyddio pori mewn cylchdro a thyfu cnydau glaswellt sy’n cael cyn lleied o effaith ar yr amgylchedd ag sy’n bosibl. Mae hyn yn helpu i wrthdroi effeithiau llygredd aer, gan ddefnyddio porfeydd llysieuol a meillion, i wella iechyd y buchod a thynnu carbon allan o’r amgylchedd a’i ddefnyddio fel tanwydd i dyfu ein glaswellt yn organig.”
Yn ddiweddar hefyd mae Glenn a’r teulu wedi prynu Trefaldwyn Cheese, cwmni sydd wedi ennill gwobrau sy’n cynhyrchu un o’r cawsiau gorau yn y byd.
Mae Cynhadledd Ffermio Rhydychen, a gynhelir bob blwyddyn ddechrau mis Ionawr, wedi sefydlu enw am drafodaeth gref a siaradwyr arbennig. Mae’r gynhadledd yn un o’r digwyddiadau pwysicaf o’i math, gan ddod â ffermwyr, gwleidyddion, gwyddonwyr ac eraill at ei gilydd i drafod datblygiad y diwydiant amaethyddol yn y dyfodol.
Bydd cynhadledd 2024, Grym Amrywiaeth, yn cael ei chynnal o’r 3ydd i’r 5ed Ionawr 2024. Mae’r gynhadledd yn dod â phobl at ei gilydd o bob cwr o’r sectorau amaethyddol, sectorau gwledig a’r sectorau bwyd, ac yn annog amrywiaeth meddwl aruthrol o amrywiol, ac yn creu syniadau ac atebion cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cynnig bwrsari i alluogi pobl ifanc i fynychu Cynhadledd Ffermio Rhydychen. I fod yn gymwys ar gyfer y bwrsari rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 25 a 35 mlwydd oed ac yn gweithio yn un o ddiwydiannau’r tir.
Roedd panel beirniadu eleni yn cynnwys Mr Dafydd Parry Jones, Mr Cyril Davies, a Mr Dewi Parry (enillydd 2023). Nododd y beirniaid fod y brwdfrydedd a’r egni a ddangoswyd gan bob un o’r ymgeiswyr tuag at eu llwybr dewisedig yn rymus yn wir a’i bod yn galonogol clywed y fath adborth cadarnhaol ar ddyfodol ein diwydiant a’r ffordd wledig o fyw.
Bydd Glenn yn cael ei wahodd i ysgrifennu erthygl ar gyfer Blwyddlyfr Sioe Frenhinol Cymru 2024 a byddir yn cyflwyno’r bwrsari iddo ar ddydd Llun 27ain Tachwedd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau ewch i wefan. CAFC.