Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae un o’r gwobrau mwyaf clodfawr yn amaethyddiaeth Cymru, Gwobr Goffa John Gittins am gyfraniad nodedig at ddiwydiant defaid Cymru, wedi’i hennill eleni gan Mr Moss Jones, o Landre, Aberystwyth.

Mae Mr Jones wedi cysegru ei fywyd i ddiwydiant defaid a bîff Cymru, y naill a’r llall, trwy’i waith gyda’r amrywiol gymdeithasau sefydliadol amaethyddol a nifer o gymdeithasau defaid, yn arbennig Cymdeithas y Bridwyr Defaid Miwl Cymreig. Bu Mr Jones yn gwasanaethu fel ysgrifennydd y cwmni am dros ddeng mlynedd ar hugain ac mae wedi darparu llwyfan cadarn a chryf i’r gymdeithas yn symud ymlaen. Bu hefyd yn rheoli cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) Cymru o 1998, gan weithio gyda chydweithwyr yng nghwmni Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru Cyf yn Aberystwyth. Mae Mr Jones yn adnabyddus i lawer ac yn fawr ei barch ledled y DU am ei waith diflino, ei wybodaeth, a’i gyfraniad at y diwydiant.

Wedi’i eni a’i fagu ym Mhen Llŷn, dechreuodd Mr Jones ei oes weithio ifanc ar y rownd laeth gyda Hufenfa De Arfon. Dros y blynyddoedd mae Mr Jones wedi cadw ei berthynas agos â Hufenfa De Arfon a thrwy ei gefnogaeth iddynt daeth yn Llywydd arnynt, swydd y mae’n eithriadol falch ohoni.

Yn ddiweddar, mae Mr Jones wedi gweithio gyda sefydliadau a chydweithwyr i wella systemau TG rheoli fferm ac i sefydlu proses i fesur defnydd gwrthfiotigau gan ffermydd defaid a gwartheg Cymru. Mae’r system yn darparu data ar ddefnydd gwrthfiotigau ar lefel y fferm neu amrywiaeth o fathau o ffermydd a lleoliadau yn ogystal ag ar sail Cymru gyfan.

Enwebodd Cymdeithas y Bridwyr Defaid Miwl Cymreig Mr Moss Jones ar gyfer Gwobr Goffa John Gittins am 2023.

Mr Dafydd Parry Jones, yn cynrychioli Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Mr Richard Thomas, ar ran Cymdeithas y Bridwyr Defaid Miwl Cymreig a Ms Kate Hovers, o Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol Cymru oedd y panel beirniaid ar gyfer y wobr.

Dywedodd y beirniaid fod safon pob un o’r deuddeg ymgeisydd yn arbennig unwaith eto.  Ar ôl cyfweld rhestr fer o bedwar ymgeisydd trawiadol, cytunodd y beirniaid y dylai Gwobr Goffa John Gittins 2023 gael ei dyfarnu i Mr Moss Jones mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad oes at Ddiwydiant Defaid Cymru.

Bydd Mr Jones yn derbyn y wobr yn seremoni agoriadol Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar ddydd Llun 27ain Tachwedd.

I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf, neu i brynu tocynnau ewch i  wefan. CAFC.