Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Yn ystod cyfarfod blynyddol Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ddydd Gwener 8fed Rhagfyr, daeth cyfnod anhygoel Morgannwg fel sir nawdd i ben wrth i Geredigion ymgymryd â’r rôl ar gyfer 2024.

Yn cael ei harwain yn fedrus gan y Llywydd, John Homfray, dechreuodd Morgannwg eu siwrnai yn gyntaf yn ôl yn 2019. Oherwydd pandemig y coronafeirws, cafodd y flwyddyn sir nawdd ei gohirio o 2021 i 2023. Trwy gydol yr amser braidd yn ansefydlog ac anodd hwnnw, mae Morgannwg wedi parhau eu rôl gyda brwdfrydedd ac ymroddiad digyffro.

“Mae bod yn Llywydd eich sir eich hun yn anrhydedd enfawr. Mae’n gynnig na ellwch ei wrthod,” meddai John Homfray yn ei anerchiad olaf fel Llywydd i aelodau cyngor y Gymdeithas.

Mynegodd John Homfray ei ddiolchgarwch i’r llaweroedd o bobl a fu â rhan yn ymdrechion codi arian Morgannwg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Trwy liaws o weithgareddau codi arian, yn cynnwys y digwyddiadau Regen ’23 a Sofl i Had llwyddiannus, sioe ffasiwn, noson ddirgelwch llofruddiaeth, swper cynhaeaf, rasio defaid, cyngherddau cerddoriaeth, noson fingo, arwerthiannau, te prynhawn, ciniawau canol dydd a chiniawau min nos, i enwi ond ychydig, mae’r tîm wedi cael ychydig flynyddoedd prysur.

Mae’r arian a godir gan bob sir nawdd yn sail i’r buddsoddiad cyfalaf ar faes y sioe.  Mae’r arian hanfodol yma’n cyfrannu at gynnal a chadw a datblygu’r safle, sy’n un o asedau mwyaf y Gymdeithas. Yn y blynyddoedd diweddar mae’r Gymdeithas wedi symud tuag at adfer ac adnewyddu’r adeiladau presennol, sy’n dod yn fwyfwy pwysig yn yr hinsawdd bresennol. Yn ystod eu hamser fel sir nawdd, mae Morgannwg wedi codi arian tuag at adnewyddu Neuadd De Morgannwg ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, enghraifft wych o gynaliadwyedd.

Cyflwynodd John Homfray siec am £532,263.83 yn swyddogol ar ran Pwyllgor Ymgynghorol Morgannwg a’r sir nawdd i Gadeirydd y Cyngor, Nicola Davies.

Mynegodd Nicola Davies ei diolchgarwch i John, ei wraig Jo, y Llysgennad Jacob Anthony, y Cadeirydd Kathy Atkin-Bowdler, yr Ysgrifennydd Charlotte Thomas, a holl dîm Morgannwg.

“Rydych yn bendant wedi codi’r to gyda’ch codi arian – gan godi’r swm mwyaf erioed i’r Gymdeithas – ond rydych wedi’i fwynhau hefyd a chael llawer o hwyl ar hyd y ffordd.” meddai Nicola.

“Mae Johnny wedi arwain gyda’i arddull a’i synnwyr digrifwch ei hun, a gyda’i wraig Jo, a’r tîm gwych wrth ei ochr, ni allai fod wedi methu.”

“Gall Morgannwg fod yn falch iawn o’u hunain. Maen nhw wedi bod yn eithriadol o brysur, gan hyd yn oed gynnal diwrnod arddangos amaethyddol newydd, Regen ’23 yn Sealands Farm yn ôl ym Mehefin. Diolch ichi a holl aelodau eich pwyllgorau am eich gwaith aruthrol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.”

Gan dderbyn pleidlais o ddiolch didwyll iawn gan Kathy Atkin-Bowdler, Cadeirydd a Thrysorydd Sir Forgannwg, canmolwyd Jacob Anthony hefyd am yr ymroddiad, y brwdfrydedd, a’r egni y daeth e’ i rôl y Llysgennad.

“Yn  Ffermwr Ifanc y Flwyddyn y Farmers Weekly, a’r Llysgennad gwryw cyntaf, mae Jacob wedi bod yn gaffaeliad i’w dîm ac wedi gwir gofleidio’r rôl,” meddai Kathy.

“Mae Jacob wedi bod yn Llysgennad nid yn unig i Forgannwg, ond i’r Gymdeithas yn ehangach ac i’r diwydiant amaethyddol yn ei gyfanrwydd hefyd. Bu hi’n bleser gweithio ochr yn ochr â Jacob. Mae gwaith tîm yn gwneud i’r freuddwyd weithio!”

Disgrifiodd Jacob Anthony y profiad o fod yn Llysgennad ac o gynrychioli ei sir fel ‘braint ac anrhydedd enfawr’.

Yn dilyn yng nghamre Morgannwg, tro Ceredigion yw hi yn awr i gymryd yr awenau ar gyfer y flwyddyn sy’n dod yn 2024, gyda Denley Jenkins yn arwain o’r blaen fel Llywydd.

Mae Denley Jenkins yn byw ac yn gweithio ar fferm ddefaid a bîff 240 erw ger Castellnewydd Emlyn. Bu’n arddangos gwartheg ers yr 1980au cynnar mewn llawer o sioeau lleol a chenedlaethol. Yn 2018 estynnodd Denley a’r teulu ochr arlwyo busnes y fferm, gan gynnal llawer o briodasau, sioeau amaethyddol, digwyddiadau CFfI, derbyniadau corfforaethol, Diwrnodau Agored Fferm ac arwerthiannau da byw. Mae’r cwmnïau arlwyo’n cyflogi staff lleol ac yn cynnal y pwyslais ar gynnyrch lleol, gan gefnogi Cig Eidion Cymreig Celtic Pride gyda balchder ym mhob un o’u digwyddiadau.

Cyflwynodd Rowland Davies, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Ceredigion, Denley yng nghyfarfod y Cyngor.

“Does neb gyda phrofiad mwy perthnasol neu’n cael ei edmygu fwy i ymgymryd â’r gorchwyl o uno’r sir gyfan i gynnal digwyddiadau cymdeithasol, gan ddod â’r gymuned amaethyddol at ei gilydd a chodi arian at achosion elusennol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru,” meddai Rowland.

“Bydd Denley’n cymryd pob cyfle i hyrwyddo cynnyrch Cymreig ar hyd y ffordd, a gyda’i brofiad blaenorol wrth redeg siop cigydd yng Nghastellnewydd Emlyn, mae e’ mewn lle da i hysbysu ac addysgu defnyddwyr ar ansawdd a rhagoriaethau cynaliadwyedd cig eidion Cymreig wedi’i gynhyrchu ar laswellt.”

Wrth dderbyn rôl y llywydd, dywedodd Denley Jenkins, “Heb amheuaeth, dyma’r anrhydedd fwyaf a gaf i byth.”

“Ymunais â’r Gymdeithas gyntaf yn 1981, ac ers hynny rwyf wedi elwa’n fawr, gan wneud cyfeillion oes ar hyd y ffordd. Rwyf yn credu’n gryf fod cefnogi sioeau bach a lleol yn codi safon Sioe Frenhinol Cymru. Dyna lwyfan sydd gennym.”

Yn cymryd yr awenau hefyd mae Esyllt Ellis Griffiths, sydd wedi’i hethol yn swyddogol yn Llysgennad ar gyfer blwyddyn sir nawdd Ceredigion, ac a gafodd ei chyflwyno yng nghyfarfod Cyngor yr wythnos ddiwethaf gan Morris Davies, Is-Gadeirydd Pwyllgor Ceredigion.

“Rwyf mor ddiolchgar o fod yn Llysgennad i’r Gymdeithas,” meddai Esyllt. “Mae Sioe Frenhinol Cymru wedi bod yn rhan mor enfawr o’m bywyd ac ni feddyliais erioed y byddwn yn cael y fath gyfle arbennig. Mae 2024 yn argoeli bod yn flwyddyn i’w chofio ac ni allaf aros i arddangos y gorau o Geredigion. Ymlaen â ni fel un teulu mawr!”

Y strwythur unigryw o siroedd nawdd a Phwyllgorau Ymgynghorol yw’r hyn sy’n gosod y Gymdeithas ar wahân i eraill ac yn sicrhau bod pobl Cymru’n cadw perchnogaeth ar y digwyddiadau. Mae ymdrechion codi arian yr holl siroedd wedi’u buddsoddi’n ôl ym maes y sioe, gan ei wneud yn un o’r rhai gorau yn Ewrop ac yn creu ymdeimlad gwirioneddol o gydberchenogaeth ar y safle.