Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gwrthwynebu’n gryf y cynnig i newid dyddiadau tymhorau ysgol yng Nghymru. Byddai’r newidiadau hyn yn creu niwed ariannol difrifol i Sioe Frenhinol Cymru, sy’n digwydd yn ystod wythnos gyntaf gwyliau haf ysgolion.

O dan gynigion newydd gan Lywodraeth Cymru, gallai egwyl yr haf gael ei leihau o wythnos, gan olygu y byddai ysgolion ar agor yn ystod Sioe Frenhinol Cymru.

Mae’r sioe yn uchafbwynt i lawer o deuluoedd a phobl ifanc ar draws Cymru. Fel un o’n prif wyliau diwylliannol, dylai’r gwyliau ysgol gynnwys digwyddiadau fel hyn gan eu bod yn hanfodol bwysig i’n diwylliant ac i’r iaith Gymraeg.

Mae bron chwarter miliwn o bobl yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn ac ystyrir mai hi yw’r sioe amaethyddol fwyaf o’i math yn Ewrop. Mae effaith economaidd y digwyddiad yn fwy na £40 miliwn ac mae tua £10 miliwn o wariant gan ymwelwyr yn ystod y digwyddiad ei hun.

Er nad yw CAFC yn erbyn yr egwyddor o addasu’r flwyddyn ysgol a’i bod yn barchus tuag at y rhesymeg y tu ôl i’r cynigion, mae’n gofyn i’r llywodraeth ailystyried eu dyddiadau arfaethedig fel bod digwyddiadau mawr fel Sioe Frenhinol Cymru bob amser yng ngwyliau’r haf.

Effaith ar blant ysgol a staff

Rydym yn dra phryderus ynghylch yr effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei gael, yn cynnwys mynd â’r gallu oddi ar bobl ifanc, teuluoedd, athrawon, a staff ysgolion i fynychu’r sioe, sy’n cynrychioli cyfran fawr o’n proffil ymwelwyr.

Yn ogystal, mae miloedd o blant yn cystadlu yn Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn, mewn cystadlaethau ffermwyr ifanc a dosbarthiadau tywysydd ifanc a dosbarthiadau iau. Byddai’r newid arfaethedig hwn yn dileu’r cyfle i bobl ifanc gystadlu yn y sioe, ac i ddysgu ac arddangos eu sgiliau.

Colled ariannol ac oblygiadau pwysig

Dengys cyfrifiadau rhagarweiniol y byddai’r newidiadau’n arwain at golli incwm o fwy na £1 miliwn, o werthiannau is wrth y gât, aelodaeth, a refeniw gwersylla. Byddai’r newidiadau’n arwain hefyd at nifer mynychwyr is, yn effeithio ar y fasnach i’n harddangoswyr a’n gwerthwyr arlwyo, heb sôn am yr effaith economaidd ehangach ar nifer o fusnesau sy’n elwa ar y digwyddiad yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Ar ben hynny, byddai’r cynnig yn arwain at oblygiadau ymarferol pwysig. Mae Sioe Frenhinol Cymru yn hurio dros 50 o fysus ysgol ar gyfer y cyfleuster parcio a theithio bob blwyddyn. Os yw ysgolion yn dal ar agor yn ystod wythnos y sioe, ni fydd y bysus hyn ar gael.

Mae’r Gymdeithas yn dibynnu hefyd ar bron 1,000 o wirfoddolwyr i gynnal Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn, mae llawer o’r rhain yn deuluoedd ac yn athrawon ysgol na fyddent yn gallu mynychu’r sioe petai’r cynigion hyn yn dod i rym.

Ymwelwyr a phresenoldeb teuluoedd

Mae’r gynulleidfa ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r sector amaethyddol ei hun ac yn denu sbectrwm eang o ymwelwyr o gymunedau trefol yn ogystal â chymunedau gwledig. Nid yw dros ddwy ran o dair o’r rheini sy’n ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn gweithio ym myd amaeth.

Yn ôl ein harolygon ymwelwyr, gwyddom fod 68% o ymwelwyr yn mynychu’r sioe gyda’u teulu. Fel elusen, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cynrychioli aelodau dros Gymru i gyd ac mae 70% o’n haelodau yn rhan o grwpiau teuluol. Mae’n bosibl na fydd y rhain yn gallu mynychu’r sioe yn y dyfodol petai’r newidiadau’n dod i rym.

Mae presenoldeb teuluoedd yn Sioe Frenhinol Cymru o’r pwys mwyaf i’r Gymdeithas ac rydym yn cynnig amrywiaeth o adloniant ac o gystadlaethau a gweithgareddau i blant, megis yr arena chwaraeon, yr ardal gweithgareddau gwledig, a’n pentref garddwriaethol newydd. Byddai peidio â chaniatáu i deuluoedd fynychu’r Sioe yn ergyd drom i’n gwerthoedd ac i ethos y Gymdeithas.

Effaith ar ein diwylliant a’r iaith Gymraeg

Rydym yn falch fod Sioe Frenhinol Cymru yn un o brif ddigwyddiadau cenedlaethol Cymru wrth ddathlu ein diwylliant unigryw a’n hiaith.

Yn ôl data’r cyfrifiad, mae 43% o’r gweithwyr yn y diwydiant amaethyddol yn siarad Cymraeg, canran sydd gryn dipyn yn uwch na’r cyfartaledd o 19% o fewn y boblogaeth gyffredinol. Felly, mae cysylltiad cryf rhwng dyfodol amaethyddiaeth a dyfodol yr iaith.

Mae digwyddiadau megis Sioe Frenhinol Cymru yn sylfaenol bwysig i hyrwyddo’r diwydiant ac i bontio’r rhaniad rhwng cymunedau trefol a gwledig. Fel elusen, rydym wrthi’n ymgysylltu  â’r cyhoedd yn weithredol, gan greu gwell ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a gwerth ehangach amaethyddiaeth Cymru. Rydym yn dra phryderus y gallai’r newidiadau hyn niweidio llwyddiant y sioe yn y dyfodol, gan felly gael effaith hir dymor fawr ar ein diwylliant a ffyniant yr iaith.

Camau nesaf

Rydym mewn deialog  â Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, ac rydym yn croesawu’r cyfle i drafod ein pryderon gyda’r llywodraeth yn fwy manwl.

Dros yr wythnosau i ddod, byddwn yn crynhoi tystiolaeth i gefnogi ein gwrthwynebiad i’r cynigion hyn, a byddwn yn cyflwyno ymateb cadarn i’r ddogfen ymgynghori.

Sut y gellwch helpu

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ymatebion ar hyn o bryd i’r ymgynghoriad ar ddiwygio’r flwyddyn ysgol.

Rydym yn annog ein holl aelodau, gwirfoddolwyr, cefnogwyr, a rhanddeiliaid i gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad cyn 12fed Chwefror 2024 trwy wefan Llywodraeth Cymru.