Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Caiff Digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ei gynnal ar fferm Trawsgoed ddiwedd mis Mai.

Mae’r digwyddiad yn rhan o flwyddyn Ceredigion fel sir nawdd y gymdeithas.

Gyda 150 acer wedi’i neilltuo ar gyfer peiriannau arddangos, bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i ffermwyr glaswelltir weld y peiriannau gwneud silwair diweddaraf ar waith.

Bydd hefyd yn cynnwys arddangosiadau o wasgaru slyri a thail buarth yn effeithlon ac yn effeithiol.

Mae arwyddocâd y digwyddiad yn y calendr amaethyddol yn arwydd o’r pwysigrwydd y mae ffermwyr Cymru yn ei roi ar gynhyrchu a chynaeafu porthiant cynaliadwy, o ansawdd uchel ac wedi’i dyfu gartref.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, a gynhelir ar ddydd Iau 30 Mai, dywedodd Wyn Evans, sy’n Gymrawd y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol a Chadeirydd y pwyllgor trefnu:

“Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ac yn edrych ymlaen at groesawu ffermwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt i Trawsgoed, lle bydd y wybodaeth a’r dechnoleg gynaliadwy ddiweddaraf yn cael eu harddangos.

“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth ein dau brif noddwr DeLaval a Germinal, ac am gefnogaeth hael yr holl noddwyr eraill.”

Mae ymchwil amaeth Prifysgol Aberystwyth yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei rhaglenni bridio planhigion, yn ogystal â’i harbenigedd ymchwil mewn gwyddor anifeiliaid a chnydau.

Mae’i ffermydd ymchwil, gan gynnwys Pwllpeiran, Gogerddan a Thrawsgoed, yn ymestyn dros oddeutu 1200 hectar ac yn gweithredu fel safleoedd arloesi.

Mae fferm 436 hectar Trawsgoed yn cynnwys tir gwastad ar waelod Dyffryn Ystwyth, tua 60 metr uwchlaw lefel y môr sy’n codi i dir pori tua 280 metr uwchlaw lefel y môr. Mae ganddi hefyd 100 hectar o goetiroedd a reolir yn cynnwys coed brodorol a chonifferau.

Mae canolfannau amaethyddol eraill y Brifysgol yn cynnwys Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran a Champws Arloesi a Menter Aberystwyth gwerth £40.5 miliwn, sy’n ganolfan flaengar sy’n cynnig swyddfeydd a mannau cyfarfod o’r radd flaenaf, cyfleusterau ymchwil a datblygu ac arbenigedd i fusnesau yn y diwydiannau biotechnoleg, bwyd a diod, economi gylchol a thechnoleg amaeth.

Ychwanegodd yr Athro Jon Moorby, Cadeirydd Gwyddor Da Byw a Chyfarwyddwr Systemau Ffermio Cynaliadwy ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n fraint fawr croesawu digwyddiad mor arwyddocaol yn y calendr ffermio i un o ffermydd y Brifysgol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pawb.”

Yn ogystal â’r arddangosiadau peiriannau, bydd y digwyddiad yn cynnwys lleiniau yn dangos gwahanol fathau o laswellt, teithiau fferm, stondinau masnach a seminarau technegol.

Bydd unedau arlwyo a bar trwyddedig yno, gydag adloniant gyda’r nos yn ogystal.

Mae tocynnau cynnar ar gael o wefan Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am bris gostyngol: https://cafc.cymru/digwyddiadglaswelltir/