Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Ymunwch â ni ar Faes y Sioe Frenhinol ar gyfer Diwrnod Agored Dathliadau Arbennig ym Mhafiliwn Trefaldwyn ddydd Sul, 16 Chwefror 2025, o 10:30am – 2:00pm. Mewn partneriaeth â Fingers and Forks, rydyn ni’n dod ac arddangosfa ddisglair i chi o bopeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer eich digwyddiad mawr nesaf – bwyd blasus, dyluniadau blodeuog syfrdanol, cerddoriaeth fyw, ffotograffiaeth, bar chwaethus, addurniadau hyfryd, a hyd yn oed consuriwr! P’un a ydych chi’n cynllunio priodas, penblwydd, prom, bedydd, neu ddawns fawreddog, dyma’ch cyfle i archwilio hud Maes Sioe Frenhinol Cymru. Cadwch y dyddiad ac ymunwch â ni am ddiwrnod o ysbrydoliaeth!