Maes Y Sioe - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae maes 150 erw Sioe Frenhinol Cymru ar agor trwy gydol y flwyddyn.

Rydym yn cynnal cyfres gyffrous o ddigwyddiadau wedi’u gosod yn erbyn golygfeydd godidog o gefn gwlad Cymru.

Mae Maes y Sioe yn brolio amrywiaeth o achlysuron megis priodasau, cyfarfodydd busnes, cynadleddau, cyngherddau, arddangosfeydd a llawer mwy.

Darllenwch fwy am ein lleoedd a digwyddiadau sydd i ddod…

DIGWYDDIADAU

Mae Maes Sioe Frenhinol Cymru yn cynnal dros 400 o ddigwyddiadau gwahanol bob blwyddyn; dyma ychydig ohonynt

LLOGI MAN CYFARFOD

Mae maes y sioe yn cynnwys dros 150 erwau o dir, llawer o adeiladau gwahanol, cyfleusterau cynadleddau a lle i gynnal arddangosfeydd, ynghyd â chysylltiadau band llydan cyflym iawn a mast ffonau symudol 4G ar y safle, felly mae’n un o’r lleoliadau â’r cysylltedd gorau yng Nghanolbarth Cymru, ac mae’n addas iawn ar gyfer pob mathau o ddigwyddiadau.

PRIODASAU

Mae maes y sioe yn lle delfrydol i gynnal eich diwrnod arbennig – beth bynnag fo’r math o briodas rydych chi’n ei chynllunio, mawr neu fach, ffurfiol neu fwy anffurfiol… mae rhywbeth ar gael i bawb yma.

CYSYLLTWCH Â NI
Lynwen Williams
Cynadleddau a Digwyddiadau
Ffôn
01982 553683