Tripiau Ysgol a Choleg - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dilynwch y gadwyn fwyd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn rhoi cyfle perffaith ac unigryw i ddangos y gadwyn fwyd o’r fferm i’r fforc i blant ysgol a myfyrwyr coleg.

Gan gyffwrdd â sawl agwedd ar y cwricwlwm, mae ymweliad â’r Ffair Aeaf yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am amaethyddiaeth mewn perthynas ag astudiaethau busnes, coginio a maeth, lles anifeiliaid, daearyddiaeth, mathemateg a llawer mwy.

O weld yr anifeiliaid yn eu cylchoedd dangos, bydd y myfyrwyr yn gallu amgyffred y nifer enfawr o wahanol fridiau – pa un ai’n wartheg, defaid a moch neu’n dda pluog yn y Sioe Ddofednod ar ail ddiwrnod y ffair, bydd cannoedd o wahanol fridiau ar ddangos. Sgwrsiwch â’r ffermwyr a’r arddangoswyr i gael gwybod beth y mae magu’r da byw yn ei olygu.

Nesaf, gwyliwch wrth i’r anifeiliaid gael eu dangos. Edrychwch arnynt yn y cylchoedd a byddwch yn dyst i’r broses beirniadu – beth sy’n gwneud yr anifail perffaith a phwy fydd yn mynd â’r rhoséd y mae pawb yn ei deheu am adref?

Wedyn, mae yna’r arwerthiannau da byw ar y prynhawn dydd Mawrth, lle mae cannoedd o brynwyr yn ymgiprys i brynu’r anifeiliaid gorau.

Bydd ymweliad â’r neuadd carcasau yn dangos i’r myfyriwr chwilfrydig sut olwg sydd ar yr anifeiliaid pan ddônt o’r lladd-dy. Bydd cannoedd o enghreifftiau o garcasau wedi’u harddangos gyda’r cyfle i siarad â phobl broffesiynol ynghylch yr hyn sydd ar ddangos ac o ble daw ein darnau poblogaidd o gg.

Nesaf mae yna’r pafiliwn cynhyrchion cig, lle gwelwch chi enghreifftiau o ddofednod wedi’u trin ar y dydd Llun a selsig a chynhyrchion cig eraill ar ddau ddiwrnod y ffair. Bydd yna arddangosiadau bwtsiera i weld sut y mae’r carcasau’n cael eu torri’n ddarnau o gig yr ydym yn eu hadnabod o ffenestr y cigydd neu silffoedd yr archfarchnad.

Yna, mae arddangosiadau coginio’n dangos sut y gellir defnyddio’r cig mewn pob math o seigiau, o fyrgyrs, i dro-ffrio, o gyrri i frechdanau bacwn … mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd.

Wrth gwrs, mae yna’r cynnyrch gorffenedig. Rhwng y neuadd fwyd a marchnad Nadolig y ffermwyr, bydd y myfyrwyr yn gweld y cynnyrch gorffenedig ar werth ac yn cael ei arddangos – yr enghraifft berffaith o werth oriau, diwrnodau, wythnosau, weithiau blynyddoedd o ymdrech gan fridwyr, ffermwyr, cigyddion a chynhyrchwyr i ddod â’r bwyd yr ydym i gyd yn ei adnabod ac mor hoff ohono inni

Gan adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Addysg Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru y llynedd, y thema eleni yw ‘Ein Dŵr – Ein Dŵr’. Bydd ysgolion cynradd yn cael cyfle i gofrestru eu myfyrwyr Blwyddyn 6 am fore llawn o gweithdai a fydd yn cylchdroi dan arweiniad ein partneriaid: Dŵr Cymru, y Fyddin, Green Up Farm, a’r addysgwr Phillip Creasy. Bydd y gweithdai’n ymdrin â phynciau fel ‘Gwyddoniaeth a Dŵr’, ‘Y Cylchred Ddŵr’, ‘Symud Dŵr’, a ‘Ffermio Fertigol Hydroponeg’. Yn ogystal, bydd mwy o gyfleoedd addysgol ar gael i ysgolion drwy gydol maes y sioe. Gall pob grŵp ysgol fynychu am ddim, a chynigir gostyngiadau ar docynnau i grwpiau coleg a phrifysgol sy’n gwneud cais am archebion grŵp. Bydd adnoddau addysgol ar gyfer plant oed cynradd sy’n ymwneud ag ‘Ein Dŵr – Ein Dŵr’ hefyd ar gael i’w lawrlwytho ar wefan ‘Twinkl’.

Mae tripiau ysgolion a cholegau yn cael eu croesawu ac yn wir eu hannog i ddod i’r Ffair Aeaf. Mae rhannu’r wybodaeth ynglŷn ag amaethyddiaeth a sut y caiff bwyd ei gynhyrchu yn hanfodol bwysig ac yn fenter y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn awyddus i gymryd rhan gynyddol ynddi.

Mae Ffair Aeaf 2024 AM DDIM i blant cynradd ac uwchradd o dan 16 oed a bydd ffi mynediad gostyngol o £10 yn cael ei gynnig i fyfyrwyr addysg uwch.

Rhaid i bob taith ysgol a choleg/phrifysgol gofrestru ymlaen llaw ac archebu eu tocynnau ymlaen llaw erbyn dydd Llun 18fed Tachwedd 2024.