Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae pob ffordd yn arwain i Lanelwedd fel arfer ar gyfer y digwyddiad pinacl pedwar diwrnod a gynhelir yn nhrydedd wythnos Gorffennaf, ond bydd 2020 yn gweld gwedd wahanol ar Sioe Frenhinol Cymru gyda’r aelodau a’r gwylwyr yn mwynhau’r arddangosfa amaethyddol o gysur eu cartrefi. 

 

Er bod cyfyngiadau’r Coronafeirws wedi atal sioe 2020 rhag digwydd ar faes y sioe, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn awyddus i arddangos a dathlu’r diwydiant amaethyddol ar-lein. Bydd y Gymdeithas, mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill yn sicrhau bod pob adran o’r sioe yn cynnig profiad i newydd-ddyfodiaid, ac yn dod ag atgofion yn ôl i’r rheini a fyddent fel arfer yn treulio dathliad wythnos o hyd o amaethyddiaeth yn Llanelwedd.

 

Nid yn unig y bydd y sioe yn cynnig llwyfan i bartneriaid gymryd rhan ond bydd yn canolbwyntio hefyd ar addysgu’r cyhoedd ynglŷn ag amaethyddiaeth, cynnyrch Cymreig a’r amgylchedd. Bydd yn arddangos nifer o unigolion sy’n arbenigwyr yn eu maes i annog ymroi i sgil newydd neu arfer techneg newydd a fydd yn fodd i grefft draddodiadol barhau i fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Meddai Steve Hughson, y Prif Weithredwr, ‘Mae’r pandemig hwn yn peri i sefydliadau chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â’u cwsmeriaid a’u rhanddeiliaid a ’dyw Sioe Frenhinol Cymru ddim gwahanol.  Rydym yn parhau i symud gyda’r oes a byddwn yn defnyddio technoleg i addysgu pobl ynghylch gwerth amaethyddiaeth a chynnyrch lleol, yn rhannu gwybodaeth o fewn amaethyddiaeth ynglŷn ag arfer gorau, yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ddiddanu a rhannu atgofion hefyd, gan greu llyfrgell hiraethus o hoff rannau pobl o’r Sioe a’r rhesymau dros ddod.  Ni all hyn gymryd lle’r Sioe, ond bydd yn gyfle i ddod â phobl at ei gilydd ac i ddangos ein cadernid ar yr adeg anodd yma.’

 

Bydd y sioe rhithiol ‘Y Sioe 2020 / The 2020 Show’ yn cael ei lansio ar y 1af o Orffennaf 2020 yn ogystal â chael sylw ar dudalen Facebook y Gymdeithas ble bydd ein dilynwyr yn gallu mwynhau casgliad o fideos a rhagarddangosfeydd addysgiadol o’r hyn fydd ar gynnig yn wythnos y sioe, sy’n digwydd ar yr 20fed Gorffennaf. Yn ogystal â hyn mae grŵp Facebook newydd wedi’i greu i aelodau a mynychwyr y sioe rannu eu hatgofion a chymryd rhan mewn cystadlaethau difyrrwch. Byddai’r Gymdeithas yn hoffi i bawb gymryd rhan ac mae’n annog arddangoswyr, masnachwyr, aelodau ac unrhyw un sydd wedi mynychu’r sioe i rannu eu profiadau i arddangos beth mae’r sioe yn ei olygu iddyn nhw.

 

Yn ogystal â’r digwyddiad rhithiol, bydd ymgyrch yn cychwyn ar y 1af o Orffennaf i godi £20,000 mewn 20 diwrnod, yn 2020. Byddai’r Gymdeithas yn hoffi codi £20,000 i 3 elusen; Sefydliad DPJ, Tir Dewi a’r Sefydliad Amaethyddol Brenhinol Llesol (RABI) i gydnabod pwysigrwydd cefnogaeth a chodi’r ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn y diwydiant amaethyddol. Rydym yn annog holl gefnogwyr Sioe Frenhinol Cymru a’r Gymdeithas i gymryd rhan ac enwebu 5 unigolyn arall trwy gyflawni 20 gweithgaredd corfforol dros 20 diwrnod i’n helpu i godi £20,000!