Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Gyda haelioni a chefnogaeth gan HSBC UK a Llywodraeth Cymru fel y prif noddwyr, bydd Ffair Aeaf rithiol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn agor ei drysau i siopwyr Nadolig am gyfnod o 6 wythnos ar ddydd Mawrth 10fed Tachwedd.
Gydag amrywiaeth o dros 200 o stondinau masnach Ffair Aeaf Frenhinol Cymru wedi cofrestru ar gyfer y Ffair Nadolig mae’n sicr yn rhywbeth na ddylid ei methu yn y cyfnod yn arwain at ddathliadau eleni. Mae masnachwyr wedi derbyn y cyfle i fod yn rhan o Ffair Aeaf rithiol eleni a bydd llawer o adegau i brynu pethau i wneud eich Nadolig yn arbennig iawn gan stondinwyr adnabyddus o bob cwr o faes y sioe sydd yn y Ffair Aeaf bob blwyddyn fel arfer.
Bydd y digwyddiad deuddydd arferol yn cael ei arddangos ar y platfform rhithiol ar y 30ain Tachwedd a’r 1af Rhagfyr hefyd, gyda llawer o bartneriaid yn cymryd rhan. Bydd y digwyddiad yn dod yn hyb i fusnesau amaethyddol i gael at wybodaeth hanfodol, i greu cysylltiadau newydd o fewn y diwydiant ac i gynnig amryw o sesiynau gwybodaeth yn ystod y digwyddiad deuddydd rhithiol hefyd. Bydd amryw o gystadlaethau a fideos ar-lein i’r teulu cyfan gymryd rhan ynddynt hefyd, yn cynnwys crefftau Nadolig y gellwch eu gwneud gartref i’ch helpu i baratoi at dymor y Nadolig.
Meddai William Hanks, Cyfarwyddwr Anrhydeddus Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ‘Er y bu hi’n flwyddyn heriol i ni o fewn y diwydiant amaeth a’r diwydiant digwyddiadau, mae’n galonogol iawn gweld ein masnachwyr yn parhau eu perthynas â ni, ac rydym yn dra diolchgar i’r cwmnïau lawer sy’n cefnogi Ffair Aeaf rithiol eleni. Byddem yn hoffi croesawu pob un o’n hymwelwyr arferol, yn cynnwys ein haelodaeth ffyddlon i ymuno â ni yn y dathliadau sydd gennym ar gynnig ar-lein eleni. Mae hi’n wych gweld y fath nifer o fasnachwyr sy’n cynnig yr anrhegion arbennig ac unigryw hynny na ellwch bob amser ddod o hyd iddynt ar y stryd fawr.’
Os hoffech chi gymryd rhan yn Ffair Aeaf rithiol 2020 cysylltwch â ni gan fod gennym gyfleoedd ar gael. Rydym yn gobeithio’n fawr iawn y gwnewch chi ymuno â ni yn y paratoadau at dymor y Nadolig ac ymuno â ni ar gyfer y Ffair Aeaf rithiol.