Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Yn cael ei dyfarnu gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn yn agored i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau tystysgrif/diploma NVQ Lefel III neu ND/NC BTEC, C&G mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth, Coedwigaeth, Nyrsio Anifeiliaid, Rheoli Ceffylau, Rheoli Cefn Gwlad neu gyrsiau rheoli eraill yn gysylltiedig â’r tir.
Bydd Myfyriwr y Flwyddyn yn derbyn Tystysgrif a gwobr ariannol ac fe’i gwahoddir i ysgrifennu erthygl ar gyfer Blwyddlyfr 2022 y Gymdeithas.
Enillydd 2021 Winner – Joshua Adam O’Sullivan Woodward; (Coleg Penybont)
Mae Joshua’n fyfyriwr yng Ngholeg Penybont ar Gampws Pencoed, mae wedi astudio a chwblhau ei Lefel 2 Anifeiliaid Fferm a Sgiliau Cefn Gwlad a Lefel 3 Rheoli Cefn Gwlad gyda chlod. Ym mis Medi bydd yn parhau i astudio ar gyfer HND mewn Rheolaeth Cadwraeth Amgylcheddol.
Mae Joshua wedi ennill profiad ymarferol o weithio ar Fferm Ynysnadd am y 5 mlynedd ddiwethaf, yn cynnwys gwaith metel, plannu a phlygu gwrychoedd ynghyd â gwaith fferm pob dydd. Mae’n parhau i ddysgu sgiliau newydd trwy wirfoddoli gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot fel Gweithiwr Cefn Gwlad ac yn ddiweddar bu’n gwirfoddoli yn Amgueddfa Glowyr De Cymru gan ennill mwy o sgiliau cynnal a chadw a gwaith gof.
Mae Joshua yn bwriadu gweithio gyda nifer o sefydliadau yn y sector rheoli tir a chadwraeth i feithrin mwy o sgiliau ymarferol ac i ehangu ei set sgiliau, gan weithio tuag at ddod yn Geidwad Cefn Gwlad, yn gweithio naill ai gyda Pharc Cenedlaethol neu brosiectau cadwraeth, cymysgedd rhwng amaethyddiaeth a chefn gwlad.
Un o brif orchestion personol Joshua yw ei fod yn rhedeg ei fusnes cadw gwenyn bach ei hun. Dechreuodd y fenter hon ar ôl ymuno â chymdeithas cadw gwenyn leol a thros y blynyddoedd mae wedi cynyddu’r busnes yn araf o fenter fechan iawn o ddim ond dau gwch gwenyn i gymaint â 15 i 20 yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn. Mae’r cynnyrch i gyd yn cael ei echdynnu â llaw, ei botelu a’i werthu trwy deulu, cyfeillion a phobl leol.
Fe wnaeth y beirniaid y sylw – “Mae Joshua’n ymgeisydd teilwng iawn i ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn, mae ganddo’r egni a’r cymhelliant i ennill profiad tra’i fod yn astudio yn y Coleg. Mae’n gymunedol ei fryd ac mae ganddo feddwl agored cytbwys pan ddaw hi’n fater o gadwraeth ac amaethyddiaeth. Dymunwn bob llwyddiant iddo gyda’i HND a’i yrfa yn y dyfodol.
Mr D Iori Evans
Yr Athro E Wynne Jones OBE FRAgS