Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cynnig bwrsari i alluogi pobl ifanc i fynychu Cynhadledd Ffermio Rhydychen. I fod yn gymwys ar gyfer y bwrsari rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 25 a 35 mlwydd oed ac yn gweithio yn un o ddiwydiannau’r tir.
Mae Cynhadledd Ffermio Rhydychen, a gynhelir bob blwyddyn yn nechrau Ionawr, wedi sefydlu enw da am drafodaeth gref a siaradwyr eithriadol. Mae’r gynhadledd yn un o’r digwyddiadau pwysicaf o’i fath, yn dod â ffermwyr, gwleidyddion, gwyddonwyr ac eraill at ei gilydd i drafod datblygiad y diwydiant amaethyddol yn y dyfodol. Bydd cynhadledd 2022, Llwybrau at Gydnerthedd yn cael ei chynnal o’r 5ed i’r 7fed o Ionawr 2022. Bydd y gynhadledd yn cynnwys model hybrid gyda’r cyfle i fynychu’r gynhadledd fyw yn Rhydychen neu i ymuno’n rhithiol ar-lein.
Mynychodd ymgeiswyr eleni gyfweliad ar-lein a chynrychiolwyr y Gymdeithas Mrs Nicola Davies, Mrs Menna Evans a Miss Ffion Medi Rees (enillydd 2020) oedd yn ffurfio panel y beirniaid.
Nododd y beirniaid fod y brwdfrydedd a’r egni a ddangoswyd gan bob un o’r ymgeiswyr tuag at eu dewis lwybr yn wir rymus a’i bod yn galonogol clywed y fath adborth cadarnhaol ar ddyfodol ein diwydiant a’r ffordd wledig o fyw. Ar ôl cwblhau’r broses gyfweld doedd gan y beirniaid ddim amheuaeth eu bod yn wir wedi cyfarfod arweinwyr y diwydiant yn y blynyddoedd a ddaw.
Dywedodd y beirniaid fod safon pob un o’r ymgeiswyr wedi gwneud argraff fawr iawn arnynt. Bu iddynt gytuno yn y diwedd y dylai Bwrsari Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2022 gael ei dyfarnu i Miss Katie Davies o Sir Benfro.