Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gyda mymryn dros wythnos i fynd nes bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn llawn o ymwelwyr, arddangoswyr a da byw godidog unwaith eto, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn edrych ymlaen at groesawu selogion y Ffair Aeaf yn ôl i Faes Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd Ffair Aeaf eleni’n cael ei hagor yn swyddogol gan Mr Dafydd Wynne Finch ar ddiwrnod cyntaf y Ffair Aeaf (28ain Tachwedd).

Mae Dafydd Wynne Finch yn dirfeddiannwr a ffermwr adnabyddus o Ogledd Cymru. Tyfodd Dafydd i fyny ar fferm bîff a defaid y teulu, Cefnamwlch, yn Nhudweiliog ar ochr ogleddol Pen Llŷn, y bu iddo ei haddasu’n fferm laeth yn 2003. Mae ef a’i Reolwr Fferm Carwyn Rhys Davies yn godro buchod Jersey Croes yn awr gan ganolbwyntio ar gynhyrchion soledau llaeth a braster menyn ar gyfer gwneud caws. Daw’r llaeth a gynhyrchant o system laswellt a gaiff ei phori ar gylchdro, sy’n rhoi mwy o reolaeth dros gynhyrchu glaswellt, yn gwella ansawdd y glaswellt ac yn codi perfformiad yr anifail. Mae Dafydd wrthi ar hyn o bryd hefyd yn adeiladu cyfleuster cynhyrchu caws ar Ynys Môn.

Aeth Dafydd i goleg amaethyddol a bu’n gweithio ym myd bancio cyn symud yn ôl i’r fferm ugain mlynedd yn ôl. Fel ysgolor Nuffield, mae Dafydd wedi teithio i Israel, India, China, Awstralia, UDA a Seland Newydd ar gyfer ei astudiaethau. Y pwnc a ddewiswyd ganddo ar gyfer ei ysgoloriaeth Nuffield yn 2013 oedd cydweithrediad pobl, gan edrych ar ddewisiadau eraill heblaw cysylltiadau landlord a thenant ac ar wahanol ffyrdd o redeg busnesau fferm. Roedd y canfyddiadau mwyaf cyffrous yn Seland Newydd, ble y sylwodd fod yna system ffermio cyfran ddatblygedig iawn. Mae Dafydd yn gobeithio y gall y systemau hyn gael ei gweithredu yn y DU i ddod â thalent newydd i mewn i fyd ffermio.

Mae fferm Cefnamwlch yn rhedeg ar sail rhannu fferm gyda Carwyn, sy’n berchen ar ganran o’r buchod. Mae arferion ffermio Dafydd yn cynnal ffocws ar ffermio cynaliadwy ac atgynhyrchiol, gan gadw darnau mawr o dir yn rhydd ar gyfer coed ac ardaloedd coedwigol. Un system y mae Dafydd wedi’i rhoi yn ei lle yng Nghefnamwlch yw coedwigaeth gorchudd di-dor. Mae hyn yn cynyddu lefelau bioamrywiaeth ac yn creu mwy o gynefinoedd ar gyfer natur a bywyd gwyllt oddi amgylch.

Bydd Mr Finch yn agor Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn swyddogol am 10 y bore ar ddydd Llun 28ain Tachwedd yn Neuadd Arddangos 1, y Prif Gylch. Yn dilyn yr agoriad swyddogol, bydd Gwobr Goffa John Gittins 2022, a Bwrsari Cynhadledd Ffermio Rhydychen CAFC 2023 yn cael eu cyflwyno.

I gael mwy o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau ewch i wefan CAFC.