Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’r prif ddigwyddiad yng nghalendr amaethyddol Prydain, Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei gynnal ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt o’r 24ain – 27ain Gorffennaf 2023.

Yn ei 102il flwyddyn bellach, mae Sioe Frenhinol Cymru yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i galon Canolbarth Cymru i ddod at ei gilydd i ddathlu goreuon oll amaethyddiaeth Cymru a Phrydain. Mae’r Sioe yn ddigwyddiad pedwar diwrnod llawn mynd o gystadlaethau cyffrous, da byw, coedwigaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, rhaglen 12 awr o adloniant di-dor, atyniadau, arddangosfeydd a llawer mwy.

Fel arfer, mae atodlen lawn dop o ddosbarthiadau da byw a gwobrau arbennig ar gyfer amrywiaeth eang o gystadlaethau amaethyddol a gwledig, sy’n denu ceisiadau o bell ac agos. Ychwanegiad newydd at yr adran geffylau fydd dosbarthiadau Rhan-Frîd dan Farchog, sy’n cynnig cyfle i arddangoswyr i ddangos ceffylau heb fod yn rhai pedigri. Bydd Sioe Frenhinol Cymru eleni yn cynnal sioeau cenedlaethol y Gymdeithas Gwartheg Blonde Prydeinig a Chymdeithas y Defaid Kerry Hill hefyd.  Mae Adran Wyau newydd wedi’i chyflwyno eleni hefyd, yn cynnwys cystadlaethau coginio a chrefftau i blant ac i oedolion. Bydd byrddau arddangos addysgol o wahanol fridiau Dofednod ac ardal weithgaredd i blant â lle amlwg fel rhan o’r adran newydd yma.

Ynghyd â’r da byw ardderchog, mae Sioe Frenhinol Cymru yn darparu rhywbeth i ddiddori pawb diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau ac atyniadau. Yn newydd ar gyfer 2023, bydd yr artist ceffylau arbennig, Santí Serra yn un o atyniadau mawr y Prif Gylch. Yn cael ei glodfori fel y ‘Sibrydwr Ceffylau Sbaenaidd’, bydd Santí’n perfformio’i act coreograffi mesmereiddiol gyda’i geffylau Arabaidd bob diwrnod o’r sioe. Dressage naturiol yw’r arddangosfa, yn dal prydferthwch symudiad y ceffyl, a’r cytgord rhwng anifail a dyn.

Peidied neb â methu Tîm FMX Bolddog. Fel prif dîm arddangos beiciau modur y Deyrnas Unedig, mae Bolddog Lings yn seilio eu sioe o gwmpas system lanio symudol fwyaf a mwyaf soffistigedig y byd. Yn cymryd y brif ran yn yr arddangosfa mae reidwyr motocros dull rhydd o’r radd uchaf, yn cynnwys y triciau gwefreiddiol diweddaraf sydd ond i’w gweld ar y teledu fel arfer.

Bydd mwy o’r uchafbwyntiau yn y Prif Gylch yn cynnwys Band Catrodol y Cymry Brenhinol, un o’r ychydig iawn o fandiau pres i gyd o fewn Cerddoriaeth y Fyddin Brydeinig, a’r RAF Falcons, prif dîm arddangos parasiwtio milwrol y Deyrnas Unedig, gyda’u harddangosfa cwymp rhydd cyffrous ar gyflymder o hyd at 120 milltir yr awr.

Yn dychwelyd i ddiddanu’r tyrfaoedd fydd y trawiadol Tristar Carriage Driving, Meirion Owen a’i Gŵn Defaid, Ras Gyfnewid Rhwng Helfeydd a llawer mwy.

Gyda dros 400 o fanwerthwyr a stondinau masnach, bydd siopwyr yn dod o hyd i ddigonedd o anrhegion unigryw, nwyddau cartref, ategolion, a dillad i ddewis ohonynt. Bydd Siop Sioe Frenhinol Cymru ar agor hefyd trwy gydol y Sioe, ble gall ymwelwyr brynu holl bethau da Sioe Frenhinol Cymru, yn cynnwys yr argraffiad cyfyngedig o’r Poster Sioe swyddogol ar gyfer 2023.

Bydd y Neuadd Fwyd yn ferw o weithgaredd coginio unwaith eto, yn arddangos y cynnyrch gorau un sydd gan Gymru i’w gynnig. Bydd amrywiaeth eang o gwmnïau’n cymryd rhan yn arddangosfa fwyd y Sioe Frenhinol, gan greu microcosm gwirioneddol o ddiwydiant bwyd a diod Cymru o ddanteithion sawrus i drîts melys.

Eleni byddwn yn lansuio ein Pentref Bwyd Cymreig newydd sbon sy’n rhoi lle amlwg i nifer fawr o ddewisiadau bwyd a diod cyffrous, ynghyd â llwyfan gerddoriaeth fyw a seddi i ymlacio ac i fwynhau’r awyrgylch.

I godi hyd yn oed mwy o flys bwyd arnoch, bydd y bwyty ‘Pori / Graze’ dros dro newydd sbon ar agor yn ystod y Sioe, wedi’i leoli wrth ymyl y prif gylch ochr yn ochr â Chanolfan yr Aelodau.

I gael gwybod mwy am beth sydd ar eich cyfer yn Sioe Frenhinol Cymru eleni anelwch am ein gwefan. Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein yn awr, ac rydym yn annog ichi sicrhau eich tocyn ymlaen llaw i osgoi’r ciwiau ac osgoi oediadau! Ewch i https://rwas.ticketsrv.co.uk/events/ i archebu eich rhai chi yn awr.