Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi y bydd Sara Cox, y ddarlledwraig a’r awdures Brydeinig, yn beirniadu’r gystadleuaeth Tywysydd Bîff Ifanc Rhyngfrid, ar ddydd Mercher Sioe Frenhinol Cymru.

Yn ei 102il flwyddyn bellach, mae Sioe Frenhinol Cymru yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn o’r 24ain tan y 27ain o Orffennaf. Mae’r Sioe’n ddigwyddiad pedwar diwrnod llawn mynd, sy’n dathlu nid yn unig fwyd a ffermio, ond diwylliant, amrywiaeth, y Gymraeg, angerdd, a chariad at y tir hefyd. Yn y cylchoedd beirniadu, bydd miloedd o anifeiliaid ac arddangoswyr yn cystadlu i fynd adref â rhoséd tra chwenychedig Sioe Frenhinol Cymru, ac rydym wrth ein bodd o groesawu’r ddarlledwraig enwog Sara Cox i’r panel beirniadu eleni.

Mae Sara Cox yn cyflwyno sioe amser gyrru BBC Radio 2 bob diwrnod gwaith ac mae hi wedi cyflwyno nifer o sioeau teledu a radio yn ystod ei gyrfa. Mae’i chredydau teledu diweddar yn cynnwys Love in the Countryside, a The Great Pottery Throw Down ac ar hyn o bryd hi yw cyflwynydd y rhaglen adolygu llyfrau Between the Covers sy’n dychwelyd am seithfed gyfres yr hydref hwn.

Mae’i chofiant Till the Cows Come Home: A Lancashire Childhood, yn sôn gydag anwyldeb mawr am ei bywyd fel merch fferm, yn cynnwys mynychu sioeau amaethyddol gyda’i thad, Leonard. Mae’i nofel gyntaf Thrown allan yn awr. Roedd y ddau lyfr yn werthwyr gorau y Sunday Times.

Bydd ei thad Leonard Cox yn ymuno â Sara ar banel beirniadu Sioe Frenhinol Cymru. Mae Leonard wedi magu gwartheg Henffordd Moel pedigri am dros bedwar degawd ar ei fferm yn Bolton, gan ddangos ei wartheg Henffordd Masefield gyda llwyddiant mawr mewn sioeau lleol, yn cynnwys Bury, Garstang, Sir Gaer, Y Royal Lancashire, a’r Great Yorkshire. Mae gan Len dros ugain mlynedd o brofiad beirniadu, felly bydd y cystadleuwyr mewn dwylo diogel iawn.

Mae cystadleuaeth Tywysydd Bîff Ifanc Rhyngfrid yn beirniadu gallu’r tywysydd i reoli ac i ddangos y gwartheg yn y cylch. Gall y tywyswyr ifanc sy’n cystadlu fod rhwng 14-26 mlwydd oed. Bydd Sara a’i thad yn chwilio am y tywysydd gwartheg gorau, ac nid am ansawdd y gwartheg.  Er hynny, rhaid i’r anifeiliaid a arddangosir gael eu dangos yn eu cyflwr gorau. Mae gwobrau, gwobrwyon ariannol, a rhosedau i gyd ar gael i’r Pencampwr a’r Is-Bencampwr.

Nid all Sara Cox ddim aros am ei hymweliad â Chymru: “Rwyf mor gyffrous o fod yn dychwelyd i gylch y sioe wrth ochr f’annwyl Dad. Rhai o’m hatgofion plentyndod hapusaf yw llwytho’i wartheg a’i chychwyn hi am y sioeau haf.

Mae cael gwahoddiad i helpu i feirniadu mewn sioe mor anferth a mawr ei bri â Sioe Frenhinol Cymru yn anrhydedd wirioneddol. Rwyf yn nerfus ac yn gyffrous i’r un graddau, ac yn edrych ymlaen at fwynhau’r cyfan sydd gan y sioe i’w gynnig yr un pryd â gweld cefn gwlad hardd Cymru.”

Yn hoff iawn o anifeiliaid, mae Sara bellach yn bwy yng Ngogledd Llundain gyda’i theulu, ynghyd â thri chi, dwy gath, dau grwban a cheffyl chwaraeon Gwyddelig. Rydym yn llawn cyffro wrth groesawu Sara a’i thad i Sioe Frenhinol Cymru 2023!

I gael mwy o wybodaeth am Sioe Frenhinol Cymru 2023, neu i brynu tocynnau anelwch am ein gwefan: https://rwas.wales/royal-welsh/