Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’n hyfrydwch gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi y bydd enillydd 2022 y Grand National, Sam Waley-Cohen, yn beirniadu Prif Bencampwriaeth y Ceffylau yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Yn ei 102il flwyddyn bellach, mae Sioe Frenhinol Cymru’n denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i ganol Canolbarth Cymru i ddod at ei gilydd i ddathlu goreuon oll amaethyddiaeth Cymru a Phrydain. Mae cystadlaethau’r ceffylau’n ffurfio rhan enfawr o’r Sioe, gydag arddangoswyr yn teithio ar draws y byd i gystadlu yng nghylchoedd beirniadu Sioe Frenhinol Cymru.

Mae’r Brif Bencampwriaeth yn cael ei chyflwyno i’r ceffyl gorau a arddangosir yn y Sioe. Mae llawer yng nghymuned y ceffylau yn dyheu am y wobr glodfawr yma, felly pwy’n well i feirniadu’r dosbarth hwn nag enillydd Grand National 2022, Sam Waley-Cohen?

 

Sam oedd y joci amatur cyntaf i ennill y Grand National mewn 32 mlynedd. Gyda chyfle 50-1 yn unig o ennill, trechodd yr ods ac ennill y ras. Cyhoeddodd ei ymddeoliad wythnos cyn y ras hon. ’Dyw Sam ddim yn ddieithr i gae ras y Grand National, wedi iddo farchogaeth mewn 41 ras yno ac ennill 7. Daeth yn ail hefyd yn Grand National 2011, ac yn yr un flwyddyn cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr Entrepreneur Ifanc Spears.

Prif Bencampwriaeth y Ceffylau yw pinacl Wythnos y Sioe yn Sioe Frenhinol Cymru, ble mae’r Pencampwyr a’r Is-Bencampwyr o’r Dosbarth Mewn Llaw, y Dosbarth a Farchogir a’r Dosbarth a Yrrir yn mynd benben yn y gystadleuaeth derfynol hon. Sam Waley-Cohen fydd yn penderfynu Pencampwr y Pencampwyr yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Mae enillydd y Grand National yn edrych ymlaen at ei ymweliad â Chymru: “Mae hi’n fraint fawr bod yn rhan o Sioe Frenhinol Cymru, ac yn arbennig i fod yn beirniadu cystadleuaeth mor bwysig â Phrif Bencampwriaeth y Ceffylau. Rwyf yn gyffrous i ddod draw i’r Sioe ac i weld cymaint o geffylau rhyfeddol yn y cylch.” meddai Sam.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Sioe Frenhinol Cymru 2023, neu i brynu tocynnau anelwch am ein gwefan: https://rwas.wales/royal-welsh/