Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fel gwobr bwysicaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae cystadlu brwd am Wobr Goffa Syr Bryner Jones flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Unwaith eto, byddir yn cadw enillydd cyffredinol gwobr dra chwenychedig eleni dan len tan Sioe Frenhinol Cymru, ble bydd y cystadleuwyr sydd ar y rhestr fer a’u teuluoedd yn mynychu cyflwyniadau gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ddiwrnod cyntaf y sioe i glywed cyhoeddi’r enillydd am y tro cyntaf.

Fe wnaeth Syr Bryner Jones helpu i lunio cyfeiriad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am 50 mlynedd, roedd yn Gomisiynydd Amaethyddol Cymru ac wedi hynny daeth yn Ysgrifennydd Cymru’r Weinyddiaeth Amaeth. Roedd yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 1954, blwyddyn Jiwbilî Aur y Gymdeithas.

Er 1957 mae’r wobr wedi’i rhoi bob blwyddyn i rywun o wahanol ran o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel cyflawniad uchaf yn y sector a ddewiswyd. Eleni roedd y beirniaid yn chwilio am unigolyn sydd wedi gweithredu newyddbethau a thechnegau yn llwyddiannus tuag at gyflawni Sero Net o fewn eu busnes ffermio.

Paham Sero Net?

Yn ei hanfod, yr uchelgais Sero Net yw dyhead cymdeithas i adael y byd yn well lle – rhywbeth y bu ffermwyr yn ei wneud ers cenedlaethau.

Mae gan y rhan fwyaf o ffermwyr ddyhead greddfol i wella’r tir dan eu stiwardiaeth a gwireddir llwyddiant trwy ddefnyddio syniadau arloesol yn ystyriol. Yn y dyddiau hyn teimlir y newidiadau hyn gyda’r argyfwng hinsawdd sy’n datblygu ac yn fwyaf diweddar yr effeithiau dramatig y gall digwyddiadau’r byd ei gael ar fusnes byd-eang ac mae hi’n hyd yn oed yn fwy pwysig gallu addasu busnesau ffermio i aros yn gynaliadwy ym mhob ffurf.

Mae hi’n bwysig ein bod yn enwi ac yn dathlu’r rheini sy’n fwyaf rhagweithiol wrth leihau eu Hôl Troed Carbon a datblygu systemau a fyddai’n caniatáu i eraill ddysgu oddi wrth eu llwyddiant.

“Cawsom y fraint o ymweld ag wyth o fusnesau eithriadol ledled Cymru. Roedd llawer o gynigion eleni yn dangos dealltwriaeth glir o economeg fasnachol ac economeg garbon eu fferm, ymagwedd gylchol at hunangynhaliaeth a nod clir wrth adael etifeddiaeth gynaliadwy ar gyfer eu teulu.” meddai’r beirniaid Tom Allison, Aelod o Fwrdd CAFC ac Alex Lockton, RenewEV.

Ar ôl oriau lawer o drafod, bu i’r beirniaid allu tynnu rhestr fer o’r tri ymgeisydd llwyddiannus, a restrir yn nhrefn yr wyddor:

Dylan Jones o Gastellior (Ynys Môn)

Mae Castellior yn ffêrm 800 erw ar Ynys Môn sy’n pesgi 1500 o wartheg trwy system fwydo hollol hunangynhaliol, isel ei charbon sy’n fwyfwy agos at gyrraedd y nod o sero net.

Bu hyn yn bosibl trwy nifer o dechnegau, yn cynnwys dewis porfeydd sy’n caniatáu inni allu cloi nitrogen yn y ddaear, canolbwyntio ar iechyd pridd a rheoli tail, lleihau’r defnydd o wrteithiau cemegol, mesur perfformiad gwartheg trwy ddefnyddio meddalwedd digidol, ac arbrofi gyda thwf cnydau haidd.

Edward Vaughan o Sychtyn (Sir Drefaldwyn)

Mae Fferm Sychtyn bellach wedi trawsnewid diadell o 1500 o famogiaid miwl yn ŵyna y tu mewn ac yn cael ei rheoli’n ddwys i ŵyna y tu allan trwy’r brîd Easycare heb unrhyw ddwysfwyd. Mae ganddynt fuchod sugno cyfandirol a brodorol i gynhyrchu gwartheg sy’n tyfu’n gyflym oddi ar laswellt. Mae’r gwartheg i gyd yn cael eu pesgi ar gnydau porthi a dyfir ar y fferm.

Mae dros 2000m o wrychoedd newydd wedi’u plannu yn y 3 blynedd ddiwethaf a 10 erw o gors fawn wedi’i ffensio i gadw da byw allan tuag at storio carbon. Mae’r deunydd organig yn y priddoedd wedi’i gynyddu’n sylweddol trwy ddefnyddio gweddillion treuliad anaerobig yn lle gwrtaith cyfansawdd.

Yn 2021 creodd Edward gwmni newydd i’r gymuned leol dderbyn trydan yn uniongyrchol o’r fferm trwy egni gwynt, gan gyflenwi dros 100 eiddo domestig o fewn y gymuned leol gyda chynlluniau i ddarparu ar gyfer busnesau hefyd yn y dyfodol agos.

Ben Williams o Greenway Farm (Sir Frycheiniog)

Mae Greenway Farm yn fferm gymysg 450 erw cynhyrchiol iawn, sy’n tewychu 250 o wartheg wedi’u magu o fuches laeth gyda diadell o 600 o famogiaid a 205 erw o gnydau âr sy’n cynnwys gwenith, rêp had olew, ffa, barlys gwanwyn a chnydau gorchudd.

Yn canolbwyntio ar ddrilio uniongyrchol a dim trin er 2008, mae Ben yn rhedeg tir glas pori padogau tra chynhyrchiol ac effeithlon. I gyflawni’r nod terfynol o sero net, mae Greenway Farm wedi bod yn mesur deunydd organig y pridd dros y deng mlynedd ddiwethaf ac wedi llwyddo i’w gynyddu o 2%. Mae ganddynt 83.6 kw o PV solar hefyd gyda mwy yn yr arfaeth eleni.

Byddai’r beirniaid yn hoffi diolch i bob un o’r wyth ymgeisydd am eu hamser, eu hymdrech, a’u lletygarwch yn ystod yr ymweliadau beirniadu, ac maent yn edrych ymlaen at weld sut mae’u ffermydd yn datblygu ar y siwrnai i Sero net.

“Dyma fu’r broses werthuso fwyaf heriol a’r fwyaf ysbrydoledig y buom yn gysylltiedig â hi erioed. ’Does dim un ymweliad na wnaeth ddysgu rhywbeth inni i’w rannu gydag eraill ac rydym yn annog yr ymgeiswyr hynny i rannu eu syniadau gyda’i gilydd ac yn eu cymunedau lleol ehangach.”

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yng nghyflwyniadau gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Ardal y Cyngor ar ddiwrnod cyntaf y sioe, dydd Llun 24 Gorffennaf, am 2.30 y pnawn a bydd yn derbyn Tlws Coffa Syr Bryner Jones, Medal a Thystysgrif.

Mae CAFC yn cydnabod yn ddiolchgar y nawdd i’r fedal gan Mr Gareth Roberts, aelod o Fwrdd Cyfarwyddwr y Gymdeithas.