Mae Sioe Frenhinol Cymru 2023 yn tynnu at ei therfyn ar ôl pedwar diwrnod gwych a fu’n llawn dop o gystadlaethau, adloniant, bwyd, chwaraeon, gweithgareddau, a siopa.
Heidiodd tyrfaoedd llawn cyffro o bob cwr o’r byd i faes y sioe yn Llanelwedd i ddathlu’r goreuon oll o amaethyddiaeth Cymru a Phrydain.
Gan ddwyn yr holl sylw, y da byw yn sicr a gymerodd ganol y llwyfan. Gwelodd y cystadlaethau safon ragorol o gynigion ar draws pob adran. Rydym yn freintiedig ein bod yn denu arddangoswyr o bell ac agos, pob un yn gobeithio mynd adref gyda rhoséd y Sioe Frenhinol. Mae’r arddangosion da byw yn Sioe Frenhinol Cymru yn arddangosfa o rai o’r anifeiliaid gorau yn Ewrop a ’doedd eleni ddim yn eithriad.
Y cystadleuwyr blaen yng nghylch y gwartheg oedd y Limousin Prydeinig, Graham’s Ruth, yn cael ei harddangos gan R & J Graham, a gipiodd deitl Prif Bencampwr y Bîff, tra bu i Windyridge Tequila Diamond, buwch Jersey drawiadol yn cael ei harddangos gan Philip Manning gael ei henwi’n Brif Bencampwr y Buchod Godro.
Cafodd Tywyswyr Ifanc y Bîff Rhyngfrid eu tretio i ymddangosiad gwestai enwog arbennig wrth i Sara Cox y DJ ar Radio 2 a’r ferch fferm ffurfio’r panel beirniadu gyda’i thad a’i brawd. Mae’r tad Leonard Cox wedi bod yn magu gwartheg Henffordd moel ers degawdau, gan ddangos a beirniadu mewn llawer o ddigwyddiadau ac felly nid yw’n ddieithr i’r cylch beirniadu.
“Dyna nifer drawiadol gymerodd ran yn y Tywyswyr Ifanc Bîff Rhyngfrid.” meddai Sara Cox. “Roedd yn dasg anodd dewis pencampwr ac is-bencampwr gan fod y tywyswyr i gyd mor fedrus a brwdfrydig ynghylch eu hanifeiliaid.”
Y ddau fuddugol oedd pâr o Wartheg Henffordd, wedi’u magu a’u harddangos gan Cara Dogget ac Ollie Gurnett Smith.
“Roedd y pâr yma’n wir ddisgleirio. Yn hyderus, yn mynnu ein sylw, medrus, digyffro… y pecyn cyfan.” meddai Sara ar ôl y gystadleuaeth.
Yng nghylch y defaid dyfarnwyd teitl Pencampwr Pencampwyr y Defaid i Mr Tim Pritchard gyda mamog Frith yr Iseldiroedd, wedi’i magu a’i harddangos gan H W Sloan. Enillwyd Prif Bencampwr y Moch gan Hesbinwch Gymreig, a arddangoswyd gan Oliver Giles ac a fagwyd gan Dr M & Dr O Giles.
Yn y cyfamser, o amgylch y Prif Gylch, cafodd y gwylwyr eu tretio i bedwar diwrnod anhygoel o ddosbarthiadau ceffylau, y cyfan yn diweddu yng nghystadleuaeth y prynhawn dydd Iau am deitl chwenychedig Prif Bencampwr Ceffylau’r Sioe Frenhinol, a feirniadwyd gan enillydd Grand National 2022, Sam Waley-Cohen. March oedd enillydd eleni, wedi’i fagu a’i arddangos gan Meirion, Dianne, a Caleb Evans.
Canlyniadau Da Byw Allweddol
Prif Bencampwr y Ceffylau
Beirniadwyd gan Mr Sam Waley-Cohen
Gwynfaes Seren Wledig, March 12 mlwydd oed, a fagwyd ac a arddangoswyd gan Meirion, Dianne, a Caleb Evans.
Prif Bencampwr y Bîff
Beirniadwyd gan Mr Owain Llŷr
Graham’s Ruth, Limousin Prydeinig, a fagwyd ac a arddangoswyd gan R & J Graham.
Prif Bencampwr y Buchod Godro
Beirniadwyd gan Mr Mark Logan
Windyridge Tequila Diamond, buwch Jersey, a fagwyd ac a arddangoswyd gan Philip Manning o Bank Farm, Swydd Amwythig.
Tîm o Bump CAFC – Bridiau Bîff
Beirniadwyd gan Mr Will Edwards
Tîm o wartheg Charolais Prydeinig a oedd yn eiddo i Brailes Livestock, Buches Moelfre Herd, Kevin a Sioned Thomas, Sean Mitchell, a V A S, S M & T V S Corbett
Tîm o Bump Marks & Spencer – Bridiau Godro
Beirniadwyd gan Mr Paul Harrison
Tîm o wartheg Blonde Prydeinig a oedd yn eiddo i Brian a Michael Yates, DW a CE Jones ac N ac L Sercombe, Iwan Morgan, Kevin a Sian Rickard, ac R a B Thomas
Pencampwr Pencampwyr y Defaid
Beirniadwyd gan Mr Tim Pritchard
Mamog Frith yr Iseldiroedd, a fagwyd ac a arddangoswyd gan H W Sloan.
Prif Bencampwr y Moch
Beirniadwyd gan Mr S J S Loveless
Hesbinwch Gymreig, a fagwyd gan Dr M & Dr O Giles.
Prif Bencampwr y Geifr
Beirniadwyd gan Mr Paul Mounter
Gafr Saanen, a fagwyd ac a arddangoswyd gan Chris Hagain o Halifax Road, Gorllewin Sir Efrog.
Ar wahân i’r cystadlaethau, roedd maes y sioe yn ferw o amrywiol weithgareddau a oedd yn digwydd ar draws y pedwar diwrnod. Gwelodd y Prif Gylch resaid brysur o berfformwyr gyda dychweliad cyffrous Tîm Arddangos Beiciau Modur FMX Bolddog, a chroesawu’r sibrydwr ceffylau o Sbaen, Santi Serra am y tro cyntaf. Ymunodd Charlotte Church, y gantores o Gymru, ac ymarferwyr The Dreaming Retreat â ni yn y Cylch Gweithredu Bychan ar gyfer gweithdy myfyrdod sain, ynghyd â chrefftwyr a gwehyddion basgedi.
Yn newydd sbon ar gyfer 2023, roedd y pentref bwyd Cymreig, Glwedd / Feast yn llwyddiant gwirioneddol. Mwynhaodd ymwelwyr y seddi awyr agored ble roeddynt yn gallu rhoi cynnig ar fwyd a diod blasus gan 14 o werthwyr ar draws Cymru wrth iddynt wylio cerddoriaeth fyw gan berfformwyr gwych o Gymru ar y llwyfan adloniant.
Ar ddydd Mawrth y sioe, datgelodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ei chynlluniau ar gyfer pentref garddwriaethol newydd sydd i’w lansio y flwyddyn nesaf. Ymgasglodd aelodau, partneriaid a chefnogwyr i glywed gan Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC, Richard Price, Cyfarwyddwr y Sioe a’r Athro Wynne Jones, Cadeirydd y Bwrdd. Ymunwyd â swyddogion CAFC hefyd gan Lesley Griffiths AS y Gweinidog dros Faterion Gwledig, a ddywedodd ychydig eiriau am bwysigrwydd y diwydiant garddwriaeth yng Nghymru.
Roedd Pafiliwn Cneifio Meirionnydd yn fwrlwm ddydd Mercher wrth i dîm Cymru gael ei wahodd i’r llwyfan i gydnabod eu llwyddiannau arbennig yn y Gwellau Aur, a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir y mis diwethaf. Bu i Gwion Lloyd Evans, Pencampwr Cneifio â Pheiriant Unigol y Byd ynghyd â Richard Jones, a oedd yn ail, a Ffion Jones a Sarah-Jane Rees, y Tîm Trin Gwlân oedd yn Bencampwyr y Byd, ynghyd â’r tîm cyfan, gael cymeradwyaeth orfoleddus wrth i Aled Wyn Davies y tenor clasurol arwain y gynulleidfa i ganu ‘Yma o Hyd’.
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael Sioe Frenhinol Cymru 2023 mor wych.” meddai Aled Rhys Jones, y Prif Weithredwr.
“Mae yna rywbeth arbennig iawn am Lanelwedd. Mae’r awyrgylch ar draws Maes y Sioe wedi bod yn drydanol ac rydym yn rhyfeddu’n fawr at y tyrfaoedd enfawr yr ydym wedi’u gweld drwy’r wythnos.
Yr hyn sydd yr un mor ddymunol yw gweld yr ymateb cadarnhaol i rai o’r ychwanegiadau newydd yn sioe eleni, yn arbennig y pentref bwyd Cymreig: Gwledd | Feast, a’n llwyfan cerddoriaeth fyw newydd. Mae dod â chynnwys newydd a chyffrous i’r sioe yn ffocws allweddol gennym gan ein bod am wneud yn siŵr fod y profiad i’r ymwelydd yn un heb ei ail.
Dim ond trwy gefnogaeth ein haelodau, gwirfoddolwyr, arddangoswyr, noddwyr a chydweithwyr, sydd i gyd wedi gweithio’n anhygoel o galed i wneud y sioe hon yn gymaint o lwyddiant ysgubol, y gwneir hyn yn bosibl. Diolch o galon i chi i gyd.”
Wrth inni ddod at derfyn Sioe Frenhinol Cymru 2023, edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein llwyddiant ac at eich croesawu chi’n ôl y flwyddyn nesaf.
Mae gennym nifer cyfyngedig o docynnau boredgodwyr cynnar iawn ar gael ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2024, a fydd yn cael ei chynnal o 22 – 25 Gorffennaf. Prynwch nhw nawr cyn eu bod wedi mynd! https://rwas.ticketsrv.co.uk/events/