Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’r ffenestr ymgeisio am Raglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC 2024-25 ar agor yn awr.

Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, bydd y rhaglen yn darparu cwrs llawn mynd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth a chyfarwyddyd dros dair sesiwn breswyl ddwys, yn dilyn y diwrnod dewis ymgeiswyr ym mis Ebrill 2024.

Mae cymryd rhan yn y Rhaglen Arweinyddiaeth yn gyfle unwaith mewn oes. Bydd grŵp o hyd at 12 o gynrychiolwyr yn cael y cyfle i wneud cysylltiadau â ffigyrau allweddol yn y diwydiant ac i ddysgu sgiliau arwain a chyfathrebu newydd er mwyn gwella eu dyheadau gyrfa a/neu fusnes.

Mae Hannah Wright wedi cwblhau’r rhaglen yn ddiweddar ac mae’n disgrifio’r cyfle fel profiad bythgofiadwy.

“Does dim un gair sy’n gallu disgrifio’r amser yr wyf wedi’i rannu gyda’r fintai arbennig yma. Mae wedi bod yn siwrnai datblygiad personol anhygoel sydd wedi ehangu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o’n diwydiant amaethyddol, yn lleol ac yn rhyngwladol hefyd,” meddai Hannah.

Mae’r rhwydweithiau enfawr yr ydym wedi dod ar eu traws wedi darparu cymaint o ysbrydoliaeth a chymhelliant sydd wedi tanio mwy o angerdd a chred ynof fi am ddyfodol gobeithiol. Profiad cyfareddol na wnaf i byth ei anghofio.”

Fe wnaeth Elen Williams, cyd-gynrychiolydd o fintai 2023, annog eraill i wneud cais am y rhaglen.

“Cymerwch y cyfle â dwy law a chroesawu’r rhaglen â’ch holl galon,” meddai Elen.

“Fe ddysgwch chi safbwyntiau newydd, dysgu gan eich gilydd yn ogystal â’r siaradwyr gwych a dysgu llawer amdanoch eich hun yn y broses hefyd. Rwyf mor falch fy mod wedi cymryd y cyfle i gyfarfod yr unigolion anhygoel a wneuthum a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y rhaglen gampus yma!”

Fel rhan o’r rhaglen eleni bydd y cynrychiolwyr yn cael cyfle i fynychu un o’r cynadleddau amaethyddol mwyaf ei bri yn y byd. Bydd Cynhadledd Amaethyddol y Gymanwlad yn cael ei chynnal ochr yn ochr â Sioe Frenhinol yr Ucheldir yn yr Alban ym mis Mehefin. Os byddant yn llwyddiannus, bydd y cynrychiolwyr yn cael y cyfle i fynychu’r gynhadledd a chyfarfod arweinwyr datblygol o gwr i gwr gwledydd y Gymanwlad.

Bydd y Diwrnod Dewis yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, 10fed Ebrill 2024, ble bydd rhaid i’r ymgeiswyr fynychu sesiwn ragarweiniol y Rhaglen ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i Seremoni Wobrwyo Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Llun 22ain Gorffennaf, ble bydd y Gymdeithas yn cyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC 2024-2025 yn swyddogol.

Disgwylir i’r cynrychiolwyr fod yn hollol ymroddedig i’r rhaglen ac mae’n rhaid iddynt fynychu pob un o’r tair sesiwn breswyl, sy’n digwydd ym Mai, Mehefin a Hydref 2024. Ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd y cynrychiolwyr yn cael eu gwahodd i Gyflwyniad y Seremoni Wobrwyo yn Sioe Frenhinol Cymru 2025, i dderbyn eu tystysgrif.

Gwneud cais am y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 canol dydd ar ddydd Mawrth, 26ain Mawrth 2024.

Lawrlwythwch y ffurflen gais yn Gymraeg neu Saesneg. Ar ôl eu cwblhau dylid e-bostio ceisiadau at: alison.harvey@ruraladvisor.co.uk

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig wedi’i hariannu’n llawn diolch i gymynrodd hael a adawyd gan y diweddar Mr N Griffiths gyda Phwyllgor Ymgynghorol Sirol Morgannwg (Sir Nawdd CAFC 2023) yn darparu arian cyfatebol.