Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) wedi chwarae rhan flaengar yn natblygiad amaethyddiaeth a’r economi wledig ers dros ganrif – 120 mlynedd yn union. Aeth Aelodau a gwesteion y Gymdeithas am Lundain i ddathlu’r garreg filltir arbennig hon.
Ar y 26ain o Chwefror 1904, daeth casgliad o dirfeddianwyr dylanwadol at ei gilydd i ffurfio Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru – sefydliad a fyddai’n datblygu’n Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ddiweddarach.
Digwyddodd y cyfarfod i ffurfio’r Gymdeithas yn Ystafell Bwyllgora Room 12 yn y Senedd yn San Steffan, Llundain. 120 mlynedd i’r diwrnod yn ddiweddarach, yn yr union ystafell honno, dathlodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru hanes y sefydliad a sut y mae wedi tyfu i gynnal un o’r sioeau amaethyddol mwyaf yn Ewrop, Sioe Frenhinol Cymru.
Cyflwynodd curaduron o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddetholiad o ddeunydd archif, yn cynnwys llyfr cofnodion yn ymwneud â’r cyfarfod cyntaf, y blwyddlyfr cyntaf, ffurflenni cais a chatalog o’r sioe gyntaf a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 1904. Roedd nifer o ffotograffau archifiedig o Sioe Frenhinol Cymru ac arteffactau hanesyddol eraill megis mantolenni, adroddiadau’r cyngor, y ffurflen aelodaeth wreiddiol, taflenni, a phamffledi ar ddangos hefyd.
Noddwyd y digwyddiad yn garedig gan Fay Jones AS dros Frycheiniog a Maesyfed, a groesawodd westeion i’r Senedd ar ‘ddiwrnod mor aruchel’. Yn gefnogwr balch i Sioe Frenhinol Cymru, mae Fay Jones wedi mynychu sioe’r haf am gyhyd ag y gall hi gofio.
“Mae hon yn garreg filltir anhygoel yn hanes y Gymdeithas, ac wrth inni edrych at y dyfodol, ni allwn feddwl am well amser i fod yn sôn am bwysigrwydd amaethyddiaeth Cymru ac am bopeth y mae’r Gymdeithas yn ei wneud dros fywyd gwledig Cymru,” meddai Fay.
“Rwyf yn gobeithio nad yw hyn hyd yn oed yn hanner ffordd yn eich hanes gwych. Llongyfarchiadau enfawr i’r Gymdeithas am y cyfan yr ydych wedi’i gyflawni yn y 120 mlynedd ddiwethaf.”
Clywodd y gwesteion gan Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Llyfrgell Genedlaethol Cymru a churaduron o’r Adran Archifau a Llawysgrifau a’r Casgliad Ffotograffig.
“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn o’i phartneriaeth â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru,” meddai Rhian.
Y llyfrgell, a sefydlwyd yn 1907, yw’r ganolfan ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd. Mae’n dal peth wmbredd o gasgliadau, yn cynnwys 7 miliwn o lyfrau a phapurau newydd, 7 miliwn troedfedd o ffilm, 1.5 miliwn o fapiau, 950,000 o ffotograffau, a 60,000 gwaith o gelfyddyd. Hwn yw’r lle i weld trysorau Cymru.
Anogodd Rhian y gwesteion i ymweld â’r casgliadau a chefnogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru. “Fel pob sefydliad diwylliannol yng Nghymru, mae’r llyfrgell yn wynebu heriau difrifol ar hyn o bryd, ar yr un pryd mae cymunedau ffermio’n ymladd i achub eu dyfodol.”
“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn y degawdau ers eu sefydlu, wedi gweithio’n ddygn i ddiogelu a chyfoethogi tir a threftadaeth Cymru, i sicrhau ei fod yno am genedlaethau i ddod. Rhaid inni barhau gyda’r gwaith gwerthfawr, hanfodol, a phwysig hwn.”
Yn ystod y cyfarfod cyffredinol cyntaf hwnnw ym mis Chwefror 1904, pasiodd y sefydlwyr a’r cefnogwyr nifer o reolau ar gyfansoddiad y Gymdeithas ac ordeiniodd mai’i hamcanion ddylai fod gwella bridio stoc ac annog amaethyddiaeth ledled Cymru.
Cofnodwyd nifer o reolau yn y llyfr cofnodion rhwymiad lledr cyntaf ar ddangos yn ystod y digwyddiad. Y gyntaf oedd ‘cynnal sioe flynyddol, nod pa un oedd cael y stoc orau o bob rhan wedi’u harddangos yng Nghymru.’ Cynhaliwyd y sioe gyntaf ychydig fisoedd yn ddiweddarach yn Aberystwyth ar y 3ydd a’r 4ydd o Awst 1904. Mae’n briodol, wrth inni ddathlu’r pen-blwydd yn 120, mai Ceredigion yw’r sir nawdd eleni.
Heddiw, mae’r Gymdeithas yn sefydliad cenedlaethol sy’n dra hoff gan bobl ledled Cymru a thu hwnt, nid yn unig gan ffermwyr a’r gymuned wledig ond hefyd gan bobl o bob cefndir, y mae llawer ohonynt wedi dod i ystyried Sioe Frenhinol Cymru yn uchafbwynt eu blwyddyn.
Soniodd swyddogion CAFC; Aled Rhys Jones y Prif Weithredwr, Nicola Davies Cadeirydd y Cyngor, a’r Athro Wynne Jones Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr am orffennol, presennol, a dyfodol y Gymdeithas, a chynlluniau i ddatblygu’r safle 150 erw parhaol yn Llanelwedd.
“Rydym wedi clywed heddiw am amcanion sefydlu’r Gymdeithas, ac mae hi’n drawiadol pa mor berthnasol y maent yn dal i fod heddiw,” meddai Aled Rhys Jones y Prif Weithredwr.
“Mae tirwedd amaethyddol Cymru wedi newid yn aruthrol ac yn wynebu cyfnod o newid cyflym. Rôl Sioe Frenhinol Cymru yw bod yn gysonyn. Yn hyrwyddo ffermio Cymru yn gyson wrth ddathlu ein diwylliant a’n treftadaeth unigryw.
Rydym yn gweld ein rôl fel Cymdeithas yn pontio’r rhaniad rhwng cymunedau gwledig a threfol, yn ymgysylltu â’r cyhoedd, yn codi ymwybyddiaeth o gynhyrchu bwyd, yn meithrin gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o werth ehangach amaethyddiaeth, a thyfu hyder y cyhoedd yn ein diwydiant.”
Roedd yn hyfrydwch gennym groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, a longyfarchodd y Gymdeithas ar ei phen-blwydd yn 120, a diolchodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am y gwaith y maent yn ei wneud i ddiogelu diwylliant a hanes Cymru. Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Gwladol bwysigrwydd ffermio, gydag 80% o’r tir yng Nghymru dan ofal ffermwyr ar hyn o bryd.
Meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:
“Roedd yn bleser mawr gennyf fynychu’r digwyddiad gwych hwn i ddathlu 120 mlynedd o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sy’n gwneud y fath waith clodwiw ar ran ffermio a’r cymunedau gwledig yng Nghymru. Mae ffermio’n sector mor anhepgor, yn cyflogi dros 50,000 o bobl yng Nghymru, yn cyfrannu at ein heconomi ac yn hanfodol, wrth gwrs, i sicrhau bod gennym ni i gyd fwyd a diod i’n cynnal.”
Gwnaeth Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC, sylw ar lwyddiant y diwrnod, “Roedd yn achlysur mor arbennig, roedd pawb yn ei theimlo hi’n fraint aruthrol bod yn yr union ystafell ble dechreuodd y cyfan, yn cael ein trwytho gan 120 mlynedd o hanes. Roeddem yn teimlo ymdeimlad enfawr o gyfrifoldeb hefyd i ddiogelu a gwella’r sefydliad ardderchog hwn am flynyddoedd i ddod.
Rydym yn dra diolchgar am y gefnogaeth gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a’n bod wedi gallu cynnal digwyddiad yn cyd-daro ag Wythnos Cymru yn Llundain. Ymlaen i’r 120 mlynedd nesaf a mwy!”