Addysg - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn rhoi cyfle perffaith ac unigryw i ddangos y gadwyn fwyd o’r fferm i’r fforc i blant ysgol a myfyrwyr coleg.

Gan gyffwrdd â sawl agwedd ar y cwricwlwm, mae ymweliad â’r Ffair Aeaf yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am amaethyddiaeth mewn perthynas ag astudiaethau busnes, coginio a maeth, lles anifeiliaid, daearyddiaeth, mathemateg a llawer mwy.

Archebu teithiau Ysgol a Choleg

Mae tripiau ysgolion a cholegau yn cael eu croesawu ac yn wir eu hannog i ddod i’r Ffair Aeaf. Mae rhannu’r wybodaeth ynglŷn ag amaethyddiaeth a sut y caiff bwyd ei gynhyrchu yn hanfodol bwysig ac yn fenter y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn awyddus i gymryd rhan gynyddol ynddi. Mae Ffair Aeaf 2024 AM DDIM i blant cynradd ac uwchradd o dan 16 oed a bydd ffi mynediad gostyngol o £10 yn cael ei gynnig i fyfyrwyr addysg uwch.

Adnoddau Dysgu Cynradd Y Ffair Aeaf

Lawrlwythwch lu o adnoddau dysgu cynradd am ddim, wedi eu paratoi ar y cyd gyda Twinkl