Mae’n wefr y funud, di-baid gydag atyniad arena lawn Dangerous Steve. Perfformiad cyflym a dynamig gyda beic cwad a thric reidio beic modur, yn cynnwys y beic un olwyn modur unigryw a mentrus gyda’r ‘rholiad drosodd’ rhyfeddol, un o’i fath. Steve yw’r unig un yn y byd sy’n perfformio’r gamp yma ar feic un olwyn go iawn!
Mae’r perfformiad yn llawn gwewyr wrth i Steve wneud neidiau beic modur dan fwgwd, styntiau beic un olwyn anferth a styntiau llif gadwyn, sy’n sicr yn plesio’r dyrfa!
Mae Steve yn un o’r atyniadau awyr agored mwyaf profiadol ar y gylchdaith a dechreuodd gyflwyno’i sioe styntiau beic modur gyntaf pan oedd ond yn chwech oed!
Cewch eich difyrru gan ein rasys cŵn, chwimder hwyliog, gwaith math heddlu, triciau a sylwebaeth eithriadol, wedi’u cyflwyno mewn arddull hamddenol ac adloniadol. Cewch eich rhyfeddu gan gi Jack Russell yn cerdded ysgol, ynghyd â’n cŵn yn cerdded yn eu holau, sy’n enwog bellach! Byddwch yn llawn edmygedd o’r rwtîn ufudd-dod byr, bachog, sy’n dangos beth ellir ei wneud gydag anifeiliaid anwes teulu, sy’n gŵn a achubwyd gan mwyaf, yn perfformio i gerddoriaeth cyfeiliant.
Adloniant rhagorol i bob oed! Caiff plant ac oedolion eu hannog i gyfranogi, gyda chyfle i gyfarfod a chyfarch y cŵn a’r tîm.
Mae’r tîm wedi ymddangos yn Crufts, Discover Dogs, The Pet Show, The Animal Road Show, London Pet Show, Paws in the Park a digwyddiadau mawr eu bri tebyg, yn cynnwys llawer o ymddangosiadau ar y teledu megis Britain’s Got Talent, sioe Alan Titchmarsh a Who Let the Dogs Out CBBC.
Wedi’i eni a’i fagu’n ffermwr, mae Meirion wedi bod o gwmpas cŵn defaid ar hyd ei oes. Ef yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i fod yn gysylltiedig â’r grefft o hyfforddi, cystadlu ac arddangos gyda’i gŵn defaid dros y wlad i gyd.
Mae Meirion yn ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a bu mewn tair cyfres o raglen boblogaidd iawn y BBC ‘One Man and His Dog.’ Mae wedi’i bortreadu ar lawer o raglenni teledu yn cynnwys ‘Countryfile’ a ‘The One Show’ y BBC, ‘Pet Nation’ SKY1 ac yn ddiweddar ar ‘Farmers Country Showdown’ a ‘Songs of Praise.’
Yn ei arddangosfa bydd Meirion yn rhoi gwybod am y broses o fod â chi bach i’r sgiliau a’r tips sydd eu hangen i hyfforddi’ch ci defaid. Cŵn defaid o’r enw Helen, Carlo, Sam, Jess a Megan yw’r cŵn a ddefnyddir gan Meirion a byddant yn cael eu harwain o amgylch y defaid gan ddefnyddio cyfres o orchmynion llais a chwiban.
Yn ystod yr arddangosfa bydd Meirion yn gwahodd rhywun o’r gynulleidfa i mewn i’r cylch i gael y cyfle i weithio un o’i gŵn o gwmpas diadell fechan o ddefaid.
Bydd Meirion yn ymuno â ni ar ddydd Sul yr Ŵyl yn unig.
Dechreuodd math o Sgrialu-Yrru mor bell yn ôl â’r 1950’au. Cychwynnodd yn America gyda cheffylau a wagenni pedair olwyn gan ddefnyddio casgenni i lywio o’u cwmpas ar gyflymdra. Daeth i Loegr yn ddiweddarach a defnyddid amrywiaeth o gerbydau ond yn gyffredinol cerbydau un ferlen oedd y rhain a chasgenni cwrw coch Watney’s oedd y rhwystrau.
Yna symudodd y gamp ymlaen i ddefnyddio parau o ferlod a chonau coch. Fel rheol roedd y gyrwyr yn trotian trwy’r conau er bod rhai yn rhygyngu. Yn wreiddiol roedd i’r cerbydau olwynion pren a theiars soled. Dechreuwyd defnyddio olwynion metal tua 1990 ac wrth i’r gyrwyr ddod yn ddewrach, addaswyd y cerbydau i’r gamp a ddaeth yn gyflymach wedyn, ac erbyn hyn mae’r cystadleuwyr yn gyrru’r cwrs ar y cyflymdra y gallant lywio’r cwrs.
Yn 2001 cafodd sgrialu-yrru ei gydnabod fel camp yn ei rinwedd ei hun, ffurfiwyd ‘The Scurry Driving Association’ i reoli ei weithgareddau ei hun.
Ffurfiwyd y Gymdeithas Ceffylau Harnais yn 1883 gan griw o unigolion oedd yn awyddus i hyrwyddo bridio Ceffylau Harnais. Mae sefyllfa’r Ceffyl a’r Ferlen Harnais yn cael ei hystyried yn “enbydus” ar Restr Ymddiriedolaeth y Bridiau Prin ar hyn o bryd.
Mae’r Ceffyl Harnais yn fr1d ceffylau a merlod amlbwrpas iawn. Mae’n fwy adnabyddus am dynnu wageni a cheirt ond mae’n cael ei chydnabod yn fwy ym meysydd dressage, neidio ceffylau a th raws gwlad, marchogaeth, sgrialu a dycnwch. Llawer mwy i ddod gan y br1d rhyfeddol hwn.
Dewch i wylio’r gyrwyr yn dangos ceinder rhyfeddol y br1d ardderchog yma. Maen nhw wrth eu bodd pan fydd y dyrfa’n cyfranogi felly clapiwch a chymeradwywch gymaint ag y gellwch pan welwch chi nhw yn y cylch!
Arddangosfa Cŵn Gwn Bydd Meurig Rees, Swyddog Gwlad BASC, yn perfformio ei arddangosfa gwn gwn gyda’i Labradors gweithredol ar ddau ddiwrnod yr Ŵyl.
Mae’r arddangosfa’n dangos y gall unrhyw un hyfforddi ci i wneud y pethau sylfaenol a dechrau adeiladu’r sylfeini ar gyfer ci gwn sy’n gweithio.
Bydd Will’s Petting Farm yn dod ag amrywiaeth o anifeiliaid fferm bychain draw i’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, yn cynnwys merlod, geifr, cwningod, moch cwta ac alpacaod.
Agorodd Will ei fferm i’r cyhoedd i hwyluso profiad i’r teulu cyfan ei fwynhau, i hybu lles cadarnhaol a chyfoethogi bywyd.
Dewch draw i gyfarfod yr anifeiliaid cyfeillgar a chael hwyl!
Yn dychwelyd i’r Ŵyl gyda’i dîm o berfformwyr amryddawn, mae Professor Elmo wedi ymrwymo i’w syrcas ddi-anifeiliaid a’i theatr clowniaid ton newydd sy’n gyfeillgar i bobl ac yn canolbwyntio ar blant, sydd wedi’i thrwytho yn nhraddodiad y syrcas deithiol sy’n datblygu’n barhaus.
Gyda dros 40 blynedd o brofiad mae Panic yn falch o gyflwyno Syrcas Deuluol Panic ble bydd plant (ac oedolion) yn cael eu difyrru am oriau gyda’r gweithdai sgiliau syrcas, perfformiadau syrcas crwydrol, a sioeau pypedau traddodiadol.
Mae Asynnod Emma Llanidloes yn hynod o gyffrous o fod yn mynychu’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad. Dewch i gyfarfod rhai o’n hasynnod, eu hysgrafellu, gwneud crefft asyn a dysgu rhywfaint o ffeithiau hwyl. Yn addas ar gyfer pob oed. Mae asynnod yn anifeiliaid therapiwtig ac yn helpu gyda lles meddyliol.
Yn sicr o roi gwên fawr ar wynebau pawb pan fyddant o’u cwmpas.
Mae Adran Gŵn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf wrth ei bodd o fod wedi derbyn statws ‘Prif Sioe Agored’ am y deuddegfed tro. Dewch i weld dros 1,000 o gŵn sy’n gobeithio cymhwyso ar gyfer Crufts!
Mae’r Brif Sioe Agored yn un o’r atyniadau mawr i’r rhai sy’n ymweld â’r Ŵyl pan fydd llawer o gŵn gwobrwyedig yn mynd ymlaen i ymuno â thros 20,000 o’r cŵn gorau eraill a fydd yn ymddangos yn sioe enwog Crufts yn 2025.
Mae mwy na 200 o fridiau ym Mhrydain a bydd cŵn o bob siâp, maint a lliw yn ymddangos yn yr Ŵyl.
Bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal bob dydd o’r digwyddiad o 10am-12.30pm a 2.00-4.30pm.
Sioe Gŵn Hwyl Sir Nawdd Ceredigion
Bydd Sir Nawdd Ceredigion CAFC yn cynnal Sioe Gŵn Hwyl nofelti yn yr Ŵyl!
A oes gan eich ci bach y gynffon fwyaf siglog? Ai’ch ci chi yw’r ci achub gorau? Neu efallai mai’ch ci chi sy’n edrych debycaf i’w berchennog! Os felly yna dyma’r gystadleuaeth i chi.
Bydd y dosbarthiadau’n cychwyn am 12.30 y pnawn ar y ddau ddiwrnod (Sadwrn 18 a Sul 19 Mai) a byddant yn rhedeg yn olynol. Mae ffioedd cystadlu yn £2 y dosbarth. Cofrestrwch ar y diwrnod yn yr Ardal Bywyd Gwledig 30 munud cyn yr amser dechrau.
Crwydrad sioe bypedau gyda Rex y ci defaid beic gor-reoleiddiol, sy’n ceisio corlannu a meistroli’r penderfynol Barbara a Bernard, dwy ddafad Yarndale wyth troedfedd o daldra sydd â’u meddwl eu hunain.
Cysylltwch â’ch natur wlanaidd fewnol wrth i dri chymeriad redeg yn benwyllt, â’u bryd ar eich diddanu gyda’u hanhrefn ac ychydig o ddawns a chân ar hyd y ffordd!
Bydd y sioe bypedau Away to Me yn cael ei chynnal ar ddydd Sul 19 Mai yn unig.
Dewch i gyfarfod y ‘Gentle Giants’, Joe a Frankie, yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni, wedi’u lleoli gerllaw Pafiliwn Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig.
Dewch i wybod am y Brîd Ceffyl Gwedd hanesyddol a’r gwaith y maen nhw’n ei wneud heddiw. Yn sefyll 18 dyrnfedd o daldra, mae Joe a Frankie ill dau’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r holl ymwelwyr ac at dderbyn llawer o sylw a mwythau yn ystod yr Ŵyl!
Mae’n bleser gennym hyrwyddo amlochredd gwlân a’r creadigaethau y gellir eu gwneud o’r deunydd allan yn ystod yr Ŵyl.
Bydd Canolfan Gneifio Meirionnydd unwaith eto yn arddangos ein Cystadlaethau Trin Gwlân a Chneifio Llafn, ar gyfer dosbarthiadau dechreuol a chanolradd, ynghyd ag Arddangosfa Cneifio Hen Fis.
Drws nesaf yn y Neuadd Grefft, Celf ac Addysg, gall ymwelwyr fwynhau arddangosiadau gan Urdd Troellwyr a Gwehy
ddion Gwent a llawer o stondinau masnach gwlân.
Bydd Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn meddiannu Canolfan yr Aelodau ar gyfer Marchnad y Tyfwyr, ble bydd tyfwyr yn cael y cyfle i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd ac i arddangos a gwerthu eu cynhyrchion yn ystod yr Ŵyl ddeuddydd.
Rydym yn ffodus ein bod yn croesawu amrywiaeth o dyfwyr sy’n cynrychioli rhan eang o’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru.
Gall ymwelwyr fwynhau rhai o’r doniau lleol ein hardal bwyd stryd Cymraeg newydd, Gwledd | Gwledd, yn ystod y digwyddiad deuddydd.
Bydd yna amryw o berfformwyr cerddorol, yn cynnwys canu gwerin Cymreig, bandiau acwstig a bandiau Ceilidh a chanwyr a gitaryddion.
Gweler amserlen lawn y perfformiadau yma.