Ymgeisiwch am stondin masnach - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sioe Frenhinol Cymru

Prif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain, Sioe Frenhinol Cymru…

Ynghyd â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau da byw a cheffylau, mae gan y sioe rywbeth i ddiddori pawb trwy ei hystod eang o weithgareddau gan gynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd cyffrous.

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd masnachol ar gyfer cwmniau sy’n cynnig nwyddau megis cynnyrch amaethyddol, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, taclau garddio, pob mathau o nwyddau i’r cartref a llawer iawn rhagor.

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch:
Josie Evans
Swyddog Stondinau Masnach
Ffôn
01982 553683

ARDDANGOS YN Y NEUADD FWYD

Neuadd Fwyd

Mae’r Neuadd Fwyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn arddangos bwyd a gaiff ei dyfu, ei ddatblygu, ei bacio neu ei gynhyrchu yng Nghymru.

Fel y gwnaeth yn ystod blynyddoedd blaenorol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhedeg Lolfa Fasnach i Fusnesau ar lawer cyntaf y Neuadd Fwyd, a bydd ar gael i bob arddangoswr. Bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei darparu ar gyfer bob arddangoswr llwyddiannus.

Os hoffech gael stondin o fewn y neuadd fwyd cysylltwch â Laura Alexander ar e-bost: foodhall@rwas.co.uk

A hoffech chi wybod rhagor am y neuadd fwyd?
Laura Alexander
Ymgynghorydd Stondinau Masnach y Neuadd Fwyd
Ffôn
07773384569