Amdanom Ni - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad amaethyddiaeth a’r economi gwledig yng Nghymru ers dros ganrif, ers ei sefydlu yn 1904.

Heddiw, mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi busnes, lles cymdeithasol ac addysg mewn cymunedau gwledig, a threfnu a chynnal digwyddiadau bythol boblogaidd y Gymdeithas; yr Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf.

Mae’r gymdeithas yn gwmni cofrestedig (Rhif Cofrestru’r Cwmni – 892851 Cymru.) ac yn elusen (Rhif Cofrestru’r Elusen – 251232), a lleolir ei swyddfeydd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Powys.

Mae’r gymdeithas yn cynnal tîm o staff, a chaiff ei rhedeg trwy gyfrwng strwythur o bwyllgorau. Bydd y pwyllgorau hyn, sy’n cynnwys gwirfoddolwyr gweithgar ac ymroddgar, yn ystyried popeth o brosiectau adeiladau newydd a cheisiadau cynllunio, i reolau cystadlaethau a stondinau masnach… ynghyd â phopeth arall dan haul.

Caiff penderfyniadau pwyllgorau eu hawdurdodi gan y bwrdd cyfarwyddwyr, sef ymddiriedolwyr y gymdeithas. Mae’r bwrdd yn cynnwys criw o dros 40 o aelodau sy’n cynrychioli 14 pwyllgor ymgynghorol y gymdeithas (12 yng Nghymru a dau yn Lloegr), sy’n cwrdd 10 gwaith y flwyddyn. Mae gan y bwrdd aelodau cyfetholedig hefyd, a chânt eu dewisi oherwydd eu medrau penodol i ychwanegu at rôl yr ymddiriedolwyr.

Caiff holl waith llywodraethu’r gymdeithas ei oruchwylio gan y cyngor, a fydd yn cwrdd yn flynyddol i gadarnhau penderfyniadau a phenodi cyfarwyddwyr anrhydeddus.

Dyma amcanion elusennol y gymdeithas:

  • hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd ac yn arbennig Cymru;
  • annog a hyrwyddo gwyddor, ymchwil ac addysg amaethyddol, yn arbennig mewn perthynas â bwyd, ffermio a chefn gwlad;
  • hyrwyddo gwella da byw, lles anifeiliaidac atal a dileu clefydau mewn anifeiliaid sy’n ddefnyddiol i ddyn;
  • cynnal arddangosiadau o ddulliau, technoleg a phrosesau amaethyddol cyfoes;
  • cynnal sioeau i arddangos da byw, dofednod, cynnyrch fferm a gardd a choedwigaeth, ac i arddangos dulliau amaethyddol, peiriannau a thechnoleg gyfoes a chynnal digwyddiadau o fath ategol;
  • hyrwyddo a hybu cadwraeth,gwarchodaeth a gwelliannau i’r amgylchedd ffisegol a naturiol er lles ac addysg y cyhoedd; a
  • hyrwyddo celfyddydau, diwylliant a threftadaeth cefn gwlad.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfansoddiad y gymdeithas ar gael yn ein herthyglau cymdeithasiad.

Gadewch Rodd Barhaol

Helpa ni i gefnogi cymunedau gwledig ac amaethyddiaeth yng Nghymru Cofiwch ni yn eich ewyllys. Rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a adawyd i ni, waeth pa mor fawr neu fach.