Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bob blwyddyn, bydd gan y gymdeithas Sir Nawdd wahanol. Mae hyn yn tarddu o hanes cynnar y sioe, pan newidiai ei leoliad flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn symud o gwmpas yr hen siroedd yng Nghymru.

Ers symud i’n cartref parhaol yn Llanelwedd yn 1963, mae’r siroedd yn eu tro yn Sir Nawdd. Yn ystod eu blwyddyn benodol, bydd y Sir Nawdd yn penodi Llywydd a Llysgenhades y Gymdeithas, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb am godi arian a threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i hyrwyddo gwaith y gymdeithas a’r digwyddiadau.

Strwythur unigryw Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru o siroedd nawdd a phwyllgorau ymgynghorol yw beth sy’n gwneud y gymdeithas yn wahanol i rai eraill ac yn sicrhau bod pobl Cymru yn cadw perchnogaeth o’r digwyddiadau. Mae ymdrechion codi arian yr holl siroedd ers 1963 wedi cyfrannu miliynau o bunnoedd, ac mae’r cyfan wedi’i fuddsoddi’n ôl i faes y sioe, gan ei wneud yn un o’r rhai gorau yn Ewrop. Mae hyn wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o gydberchnogaeth o’n safle.

Ceredigion 2024

Eleni, dyma gyfle Ceredigion i fod yn Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Mae dwsin o ddigwyddiadau eisoes wedi eu cynnal, ac mae ymdrechion codi arian y sir brysur bellach yn eu hanterth. Y flwyddyn nesaf, Ceredigion fydd ein Sir Nawdd. Cynhelir digwyddiad amaethyddol Ceredigion ar ddydd Iau 30 Mai 2024 ar Fferm Prifysgol Aberystwyth, Trawsgoed.

Siroedd Nawdd y Dyfodol:

2025       Caernarfon

2026       Sir Frycheiniog

2027       Ynys Môn

2028       Maesyfed

2029       Gwent

2030       Meirionnydd

2031       Sir Gaerfyrddin

2032      Maldwyn

2033      Sir Benfro

2034      Clwyd

2035      Morgannwg

2036      Ceredigion