Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Datganiad Swyddogol wedi’i ryddhau gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
23ain o Fawrth 2020
Gyda gofid mawr, oherwydd y sefyllfa sy’n gwaethygu mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19), y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi heddiw, ar ôl ystyried canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus yn ofalus, fod Sioe Frenhinol Cymru 2020 wedi’i chanslo.
Gyda’r Llywodraeth yn cynghori yn erbyn mynychu cynulliadau torfol ac yn cynghori camau pellach ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol a hunanynysu a theithio diangen, roedd y Gymdeithas yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn sefydliad a arweinir gan ei haelodau, wrth ddarparu ein Sioe eiconig a digwyddiadau eraill sy’n rhan annatod o gefnogi ein cymunedau gwledig ac rydym yn deall effaith y penderfyniad hwn, sy’n cael ei wneud gyda chalon drom.
Rydym wedi ystyried gohirio neu ba un a allem gynnal digwyddiad llai, ond am lawer o resymau, nid yw’r naill na’r llall o’r opsiynau hyn yn ymarferol. Tra bo’r newydd hwn yn siomedig i bawb, rydym yn siŵr y byddech yn cytuno bod iechyd, diogelwch a lles ein haelodau, ymwelwyr, arddangoswyr a staff o’r pwys mwyaf.
Bydd hon yn flwyddyn anodd i’r Gymdeithas ac rydym yn deall nad ydym ar ein pen ein hunain ac y byddwn i gyd yn cael ein heffeithio gan ganlyniad ariannol y senario yma. Rydym wedi creu polisi canslo yr ydym yn gobeithio y bydd yn caniatáu i’r rheini sydd ag angen ad-daliadau eu derbyn ar sail yr hyn sydd wedi’i restru isod. Ar yr un pryd, rydym yn rhoi’r cyfle i’n cefnogwyr lawer adael arian sydd eisoes wedi’i ymrwymo i’r Gymdeithas, neu i gael ei rolio drosodd i 2021.
Mae prif bwyntiau ein polisi canslo fel a ganlyn:
Byddai’r Gymdeithas yn hoffi diolch i’n haelodau, masnachwyr, arddangoswyr, cystadleuwyr, noddwyr a’n holl randdeiliaid am eu dealltwriaeth a’u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Byddwn yn gadael ichi wybod yn llawn am unrhyw ddatblygiadau pellach yn ystod y sefyllfa ddigynsail yma.
Steve HUGHSON
Prif Weithredwr
**
Dydd Iau 19eg o Fawrth 2020
Gyda gofid mawr oherwydd sefyllfa sy’n gwaethygu mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19), y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi heddiw, ar ôl ystyried canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus yn ofalus, fod y digwyddiadau a oedd wedi’u trefnu yn ystod mis Mai a Mehefin wedi’u canslo.
Gyda’r Llywodraeth yn cynghori yn erbyn mynychu cynulliadau torfol a chamau pellach yn ymwneud â chadw pellter cymdeithasol a hunanynysu, roedd y Gymdeithas yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall.
Mae’r digwyddiadau canlynol wedi’u canslo:
Mae’r Gymdeithas yn sylweddoli’r tarfiad a’r siom fydd yn cael ei achosi, ond rhaid i les ein cefnogwyr a diogelu iechyd y cyhoedd fod yn flaenoriaeth lwyr a hollol yn y cyfnod hwn o ansicrwydd na fu ei debyg o’r blaen.
Rydym yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn fanwl wrth iddi ddatblygu o flaen llaw i Sioe Frenhinol Cymru sydd wedi’i threfnu ar gyfer 20fed – 23ain Gorffennaf.
Meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru:
‘’Mae’r gymdeithas gyfan yn siomedig dros ben ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i ganslo dau o ddigwyddiadau pwysig y Gymdeithas. Ond, fel trefnydd digwyddiadau cyfrifol, rydym yn llwyr ddeall yr angen i weithio ar draws y diwydiant i leihau lledaeniad y clefyd pandemig hwn.
Mae’r Gymdeithas yn sylweddoli y bydd hyn yn achosi anhwylustod i bawb ac mae’n annog y rheini gyda chwestiynau neu ymholiadau brys i gysylltu â ni trwy requests@rwas.co.uk
Byddai’r Gymdeithas yn hoffi diolch i’n haelodau, masnachwyr, arddangoswyr, cystadleuwyr, noddwyr a’n holl randdeiliaid am eu dealltwriaeth a’u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Byddwn yn gadael ichi wybod am unrhyw ddatblygiadau pellach yn yr hyn sy’n sefyllfa na fu ei thebyg o’r blaen.