Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae’r paratoadau ar eu hanterth ar gyfer y Ffair eleni ac mae mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu rhoi yn eu lle i sicrhau bod diogelwch pawb yn brif flaenoriaeth pan fyddant yn ymweld â maes y sioe yn Llanelwedd. Bydd angen i bob tocyn gael ei brynu cyn y Ffair YMA, a gyda Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r angen am basbortau brechiad, bydd angen i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru gydymffurfio â’r canllawiau diweddaraf hyn.
Bydd angen i bob oedolyn 18 oed a throsodd ddarparu tystiolaeth o un o’r canlynol wrth y fynedfa er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad.
Gellwch gael profion llif unffordd yn rhwydd o wefan y GIG i’w danfon i’ch cartref https://www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu gellwch eu casglu o’ch fferyllfa leol.