Gŵyl Wanwyn - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’r digwyddiad penwythnos o hyd yn ddathliad o fywyd gwledig a byw yn y wlad gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei galon. Gyda rhaglen orlawn o gystadlaethau da byw a cheffylau, arddangosfeydd a gweithgareddau, mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau.

Mae’r Ŵyl yn gyfrwng i arddangos amrywiaeth wirioneddol cefn gwlad Cymru ac yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd ifanc, preswylwyr cefn gwlad ac unrhyw un â diddordeb yn yr awyr agored. Mae digonedd ar gynnig ichi ei weld a’i ddysgu yn Ngŵyl eleni. Pa un a ydych yn chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer eich gardd, am gael goleuni ar fenter busnes newydd, neu’n gobeithio gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth am fywyd cadw tyddyn, yr Ŵyl yw’r lle i fod.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn yr Ŵyl Wanwyn nesaf ddydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 Mai 2025.

Digwyddiadau

Penwythnos llawn cystadlaethau, atyniadau, arddangosfeydd, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw a siopa... mae digonedd i'w weld a'i wneud yn yr Ŵyl Wanwyn. Gallwch weld y rhaglen o ddigwyddiadau dyddiol a manylion y prif atyniadau yma:

Prynwch eich tocynnau nawr

Osgowch y ciwiau wrth y giât a manteisiwch ar brisiau tocynnau a brynir ymlaen llaw, trwy brynu eich tocyn ar-lein nawr.

Sut i'n cyrraedd

Rydym ni'n cynnig LLU o lefydd parcio am ddim ar faes y sioe i'r sawl sy'n cyrraedd mewn car, a gallwch chi ddefnyddio cludiant cyhoeddus i ddod yma hefyd.

Map o'r Ŵyl

Edrychwch ar fap yr ŵyl i weld ble mae popeth ac i wybod sut i fynd o amgylch maes y sioe cyn cyrraedd yma.

Awyddus i gynllunio ymlaen llaw?

Dyma ddyddiadau gwyliau’r dyfodol: 17 & 18 Mai 2025 16 & 17 Mai 2026