Mae Tîm Arddangos Cŵn Rockwood yn darparu adloniant gwych i’r teulu.
Mae’r arddangosfeydd yn mynd â’r gynulleidfa drwy bob agwedd ar hyfforddi cŵn o ufudd-dod wedi’i berfformio i gerddoriaeth, cŵn yn neidio trwy gylchoedd 10 modfedd, chwimder, pêl uchel a Gwaith Dyn gweithredol ble gwelir ci yn dal troseddwr arfog.
Lles a gofal y cŵn yw’r flaenoriaeth bob amser, wrth i’r hyfforddwyr drin eu cŵn gyda thosturi ac yn anad dim gydag amynedd. Mae rhai o’r cŵn wedi’u hachub ac yn perfformio styntiau trawiadol fel cerdded barrau cyflin a mynd i nôl tân.
Mae’r tîm wedi ymddangos rif y gwlith o weithiau ar deledu Cenedlaethol yn cynnwys: That’s Life, The Wogan Show, TFI Friday The Generation Game, The Pets Rescue Road Show, Teledu Plant y BBC, ITV This Morning a Dogs With Jobs i’r National Geographic Channel ar deledu Sky.
Yr unig dîm BMX yn y Deyrnas Unedig, sy’n gallu symud i mewn ac allan o arena a rennir.
Gyda’r Sioe BMX gellwch ddisgwyl i’r reidwyr hedfan drwy’r awyr yn perfformio’r triciau a’r styntiau mwyaf syfrdanol.
Dim ond y reidwyr BMX gorau un fydd yn perfformio yn y Sioe BMX (yn cynnwys athletwyr RedBull) i warantu eich bod yn gweld y triciau mwyaf trawiadol – sydd ond yn cael eu gweld ar deledu fel arfer.
Mae’r triciau’n cynnwys ffefryn y gynulleidfa – ‘Yr Ôl-fflip’.
Ar ddydd Sadwrn yr Ŵyl (21ain Mai) rydym yn croesawu’r arbenigwraig garddio a chyflwynydd teledu Charlie Dimmock i gyflwyno sgwrs ar Fywyd Gwyllt a Dŵr.
Mae Charlie’n un o arddwyr mwyaf adnabyddus a mwyaf hoff Prydain, sy’n arbenigo mewn nodweddion dŵr. Daeth Charlie i sylw’r genedl gyntaf ar Ground Force BBC1, a oedd yn anhygoel o lwyddiannus.
Ar hyn o bryd mae Charlie wrthi yn ei phedwaredd flwyddyn yn ffilmio cyfres, Garden Rescue, i’r BBC.
Mae Clwb Landrofer De Cymru (SWLRC) wedi ymuno unwaith eto â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i ddod â Gŵyl Landrofers Cymru ichi i Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni.
Rydym wedi gweld cerbydau trawiadol wedi’u cofrestru o’r blaen ac ni fyddem yn hoffi dim yn fwy na chael eich cerbyd chi ar ddangos i helpu i wneud yr Ŵyl yn fwy a gwell.
I gael mwy o wybodaeth neu i gofrestru ewch i: welshfestivaloflandrovers.com
The Meirionnydd Shearing Centre will this year be branded as the Wool Zone to help promote the versatility and fabulous creations which can be made of out wool.
To include Woolhandling Competitions, Gwent Guild of Spinners and Weavers, Coleg Sir Gar exhibition, Meirionnydd Vintage Shearing Display and many wool related tradestands, including Allium Threads, Owl About Yarn & Cartref Yarn, Pen-y-lan Fibre Flock, Penrhallt Alpacas, Pure Welsh, The Lace Knittery, Wild Welsh Wool and Chakra.
Bydd Tyfu Cymru yn cymryd Canolfan yr Aelodau drosodd unwaith eto ar gyfer Marchnad Tyfwyr Tyfu Cymru. Bydd tyfwyr yn cael y cyfle i arddangos a gwerthu eu cynhyrchion yn ystod y digwyddiad deuddydd.
Meddai Sarah Gould, Rheolwr Prosiect Tyfu Cymru: “Roeddem wrth ein bodd o gefnogi tyfwyr i gymryd rhan yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad CAFC, trwy’u cyflenwi â llwyfan i werthu eu cynnyrch ac i godi ymwybyddiaeth o’u busnesau yn ogystal â rhannu eu gwybodaeth gyda’r cyhoedd. Cawsom adborth rhagorol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda thyfwyr ar ddigwyddiadau yn y dyfodol. Byddem yn hoffi diolch hefyd i’r holl dyfwyr sy’n cymryd rhan am eu cefnogaeth wrth arddangos cynnyrch sy’n cael ei dyfu yng Nghymru mewn golau mor broffesiynol, dengar a chadarnhaol”
Gweler amserlen y sgyrsiau a gadarnhawyd yma. I gymryd rhan ewch i wefan Tyfu Cymru.
Gweler yr uchafbwyntiau o Farchnad Tyfwyr Tyfu Cymru yng Ngŵyl 2019.
Gall ymwelwyr fwynhau rhai o’r doniau lleol o’r Bandstand yn ystod y digwyddiad deuddydd.
Bydd yna amryw o berfformwyr cerddorol, yn cynnwys canu gwerin Cymreig, bandiau acwstig a bandiau Ceilidh a chanwyr a gitaryddion.
Gweler amserlen lawn y perfformiadau yma.
Yn dychwelyd i’r Ŵyl gyda’i dîm o berfformwyr amryddawn, mae Professor Elmo wedi ymrwymo i’w syrcas ddi-anifeiliaid a’i theatr clowniaid ton newydd sy’n gyfeillgar i bobl ac yn canolbwyntio ar blant, sydd wedi’i thrwytho yn nhraddodiad y syrcas deithiol sy’n datblygu’n barhaus.
Gyda dros 40 blynedd o brofiad mae Panic yn falch o gyflwyno Syrcas Deuluol Panic ble bydd plant (ac oedolion) yn cael eu difyrru am oriau gyda’r gweithdai sgiliau syrcas, perfformiadau syrcas crwydrol, a sioeau pypedau traddodiadol.
Mae Adran Gŵn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf wrth ei bodd o fod wedi derbyn statws ‘Prif Sioe Agored’ am y deuddegfed tro. Dewch i weld dros 1,000 o gŵn sy’n gobeithio cymhwyso ar gyfer Crufts!
Mae’r Brif Sioe Agored yn un o’r atyniadau mawr i’r rhai sy’n ymweld â’r Ŵyl pan fydd llawer o gŵn gwobrwyedig yn mynd ymlaen i ymuno â thros 20,000 o’r cŵn gorau eraill a fydd yn ymddangos yn sioe enwog Crufts yn 2023.
Mae mwy na 200 o fridiau ym Mhrydain a bydd cŵn o bob siâp, maint a lliw yn ymddangos yn yr Ŵyl.
Bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal bob dydd o’r digwyddiad o 10am-12.30pm a 1.30-4.00pm.
Arddangosion eraill yn yr Ardal Bywyd Gwledig: