Hygyrchedd yn y Sioe - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cyrraedd y Sioe a Pharcio
Ydych chi’n teithio i’r Sioe mewn car? Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein harwyddion ‘Sioe’ melyn i gyrraedd y meysydd parcio. Mae’r arwyddion yma i’ch helpu, ac ar ôl trafodaethau helaeth gyda’r Cyngor lleol a’r gwasanaethau brys, crëwyd ein cynllun trafnidiaeth i’n helpu ni i’ch helpu chi i gyrraedd yn hwylus ac yn ddiogel. Dilynwch yr arwyddion, nid SatNav y car.

Parcio i’r Anabl

Mae yna faes parcio yn y blaen yn ein holl feysydd parcio Parcio a Theithio i ymwelwyr sy’n arddangos Bathodyn Glas.

Parcio Ceir

Mae’r Sioe Frenhinol yn cynnig parcio am ddim i ymwelwyr ym mhob un o’n meysydd parcio lloeren, ac mae yna fysiau gwennol â mynediad isel i’ch cludo i Faes y Sioe ac yn ôl.

Bydd cerbydau sy’n arddangos y Drwydded Bathodyn Glas yn cael eu cyfeirio at faes parcio lloeren ar y llwybr at Faes y Sioe a dylech wrando ar gyfarwyddiadau’r tîm rheoli traffig.

  • A470 ger Pontnewydd ar Wy
    • Maes Parcio Gogledd 18
    • Graig Goch LD2 3RU
    • Castell
    • GOLLWNG/CODI ar Faes y Sioe– Giât y Peiriannau
  • A483 ger Cilmeri
    • De 3
    • Wernfawr LD2 3NS
    • Telyn
    • GOLLWNG/CODI ar Faes y Sioe – Giât A
  • A483 ger Hawy
    • Gogledd 17
    • Neuadd LD2 3TN
    • Cenhinen Bedr
    • GOLLWNG/CODI ar Faes y Sioe – Giât A
  • A481 ger Llanfair-ym-Muallt
    • Gogledd 15
    • Gellicadwgan LD2 3UA
    • Cenhinen
    • GOLLWNG/CODI ar Faes y Sioe – Giât A
  • A470 ger Erwyd/Llanfair-ym-Muallt
    • De 1
    • Oakvale LD2 3BP
    • Draig
    • GOLLWNG/CODI ar Faes y Sioe – Giât A

Bysiau

Mae pob un o’n bysiau, gan gynnwys y bysiau gwennol, yn fysiau lefel isel ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae’r bysiau’n rhad ac am ddim i’w defnyddio ac yn cludo ymwelwyr i Faes y Sioe ac yn ôl rhwng 7.30am a 9.30pm.

Yn ogystal, mae yna fws mini ymhob un o’r meysydd parcio lloeren yn benodol ar gyfer defnyddwyr ag anghenion hygyrchedd yn unig. Bydd y cyfleuster hwn yn cludo’r rheiny sydd ag anghenion hygyrchedd, a’u teuluoedd, i brif Faes y Sioe. Mae gan bob ramp i bob bws gyfyngiad pwysau o 350 cilogram (gan gynnwys yr unigolyn).

Mynedfeydd

Mae mynediad gwell ar gael ym Mynedfa A ac C a Mynedfa’r Peiriannau.

Tocynnau

Gallwch brynu tocynnau wrth y brif fynedfa neu ar-lein cyn cyrraedd. Cliciwch yma i brynu tocynnau ar-lein.

Mae yna rai ffenestri isel, sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae yna hefyd system “dolen” yma i’ch helpu chi wrth i chi brynu tocynnau.

Cŵn Cymorth

Caniateir i gŵn cymorth ddod i Faes y Sioe. Mae angen Cardiau Adnabod Cydnabyddedig ar gyfer Cŵn Cymorth er mwyn iddynt gael mynediad.

Ni chaniateir iddynt fynd i mewn unrhyw adeiladau/ardaloedd lle mae yna anifeiliaid byw, Neuadd Arddangos De Morgannwg, Yr Eisteddle, Pafiliwn yr Aelodau, Pafiliwn Ffwr a Phlu, Neuadd Clwyd Morgannwg, y Neuadd Fwyd nac unrhyw un o ardaloedd Ciniawa’r Gymdeithas.

Bandiau Arddwrn i Blant

Mae bandiau arddwrn ar gael o babell Cyfleusterau’r Plant ar Rodfa E (gyferbyn ag Eisteddle’r Prif Gylch) a phwyntiau gwybodaeth Girl Guides Cymru.

Pwyntiau Dŵr

Mae pwyntiau dŵr ar gael ar hyd a lled Maes y Sioe ac maent wedi’u marcio’n glir ar fap y safle. Mae’r rhain wedi’u gosod ar lefel is i helpu ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn a sgwteri. Rydym eisiau annog ymwelwyr i ddod â photeli dŵr y gellir eu hailddefnyddio a’u llenwi’n rheolaidd wrth archwilio.

Sgwteri a chadeiriau olwyn i’w llogi

Rydym yn gweithio gyda Event Mobility unwaith eto eleni, ac mae eu stondin y tu allan i’r brif fynedfa, yn agos at y Parcio Premiwm (G2) ac yn agos at Giât A.

Rhaid archebu sgwteri a chadeiriau olwyn cyn y digwyddiad, ac, er mwyn archebu, cysylltwch â’r cwmni ymlaen llaw am sgwrs, ar 01386 725 391. Neu gallwch archebu trwy eu gwefan – https://www.eventmobility.org.uk/

Os ydych chi’n bwriadu llogi sgwter am y tro cyntaf, ffoniwch Event Mobility am gyngor a sgwrs – a chofiwch – os nad ydych chi’n brofiadol, dewiswch y cyflymder arafach ar eich sgwter wrth archwilio’r Sioe, a chofiwch ystyried ymwelwyr eraill wrth ddefnyddio sgwter o amgylch Maes y Sioe.

Yr Eisteddle

Sylwch y bydd ardaloedd yn cael eu cadw ar ddau ben Yr Eisteddle ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae mynediad i adrannau gwahanol Yr Eisteddle wedi’i wella. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

Toiledau

Mae uned Mobiloo wedi’i lleoli wrth ymyl y bloc toiledau wrth fynedfa B. Mae’r uned wedi’i chynllunio i’w defnyddio gan blant ac oedolion anabl sydd naill ai ag angen mainc newid neu declyn codi i ddefnyddio’r toiled.

Mae toiledau fel a ganlyn:

  • Mynedfa A – Rhodfa E
  • Cylch Ceffylau (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl) – Rhodfa J/H
  • Cylch Ymgasglu y Prif Gylch (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod) – Rhodfa K
  • Cylch Gwartheg, cornel uchaf (yn cynnwys cawodydd) – Rhodfa M
  • Cylch Moch a Geifr (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl) – Rhodfa M
  • Llecyn Gweithgareddau Cefn Gwlad (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chawodydd) – Rhodfa D
  • Rhodfa’r Peiriannau (yn cynnwys cawodydd) – rhwng Rhodfeydd C a D
  • Neuadd Arddangos De Morgannwg (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl)
  • Hafod a Hendre (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod)
  • Pafiliwn Trefaldwyn (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl) (Aelodau yn unig)
  • Canolfan yr Aelodau (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod ac i bobl anabl) (Aelodau yn unig)
  • Mae cyfleusterau ar gyfer newid a bwydo babanod ar gael hefyd yn y babell Cyfleusterau Plant ar Rodfa E (gyferbyn ag Eisteddle’r Prif Gylch)

Cawod

Darperir cawodydd hygyrch i bobl anabl o fewn y prif flociau toiledau fel a ganlyn: Cylch Gwartheg, cornel uchaf Rhodfa M (islaw Neuadd Henllan).

Lifftiau

Mae yna gadeiriau cymorth i’w defnyddio os bydd gofyn gwacáu, yn y Pafiliwn Rhyngwladol a Chanolfan yr Aelodau.

Arlwyo

Anogir arlwywyr i gynnwys alergenau neu ofynion dietegol arbennig ac i friffio staff amdanynt.

Eistedd

Mae meinciau picnic sydd wedi’u haddasu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn ardal Arlwyo Symudol ‘Gwledd’.

Canolfan Feddygol

Mae’r Ganolfan Feddygol wedi’i lleoli ar Rodfa D.

Bwydo ar y Fron

Mae Maes Sioe Frenhinol Cymru yn safle sy’n croesawu bwydo ar y fron. Mae hyn yn golygu ein bod yn croesawu bwydo ar y fron yn unrhyw le ar Faes y Sioe ac yn gweithio i gefnogi mamau a theuluoedd, a’u grymuso, fel eu bod yn teimlo’n hyderus wrth fwydo ar y fron allan yn y gymuned.

Cymhorthion Synhwyraidd

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar y safle ac maent yn cynnwys lefelau gwahanol o symbyliad ar gyfer profiad yr ymwelydd. Ar adegau, gall fod synau neu elfennau gweledol eithafol, a allai orysgogi rhai pobl sy’n cael hyn yn anodd. Os felly, mae ardaloedd tawelach ar gael, fel y Pentref Garddwriaeth neu’r ardal Cefn Gwlad. Yn nerbynfa CAFC mae yna deganau synhwyraidd ac amddiffynwyr clustiau hefyd os bydd rhai’n cael eu gorlethu gan eu hymweliad, a gellir eu benthyg am flaendal bach.