Mae ceisiadau bellach wedi cau.
Cysylltwch â’n hadran da byw:
E-bost: livestock@rwas.co.uk
Gweler yr atodlenni isod ar gyfer cystadlaethau nad ydynt yn ymwneud â da byw.
I gymryd rhan yn unrhyw un o’r cystadlaethau defnyddiwch y ddolen isod.
Dyddiadau cau mynediad:
A ydych chi erioed wedi meddwl y byddech yn hoffi rhoi cynnig ar Drefnu Blodau ond nad ydych yn siŵr ble i ddechrau? Wel, mae gennym y cam cyntaf perffaith ar eich cyfer yn Sioe Frenhinol Cymru eleni yn y Babell Garddwriaeth ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022 – ‘Blodeuad Mawr Brenhinol Cymru’.
Peidiwch â gadael i’r teitl darfu arnoch! ’Dyw’r gystadleuaeth yma ddim ond ar gyfer y rheini nad ydynt wedi cystadlu o’r blaen mewn Trefnu Blodau yn y Sioe neu’r Ffair Aeaf, a ’does dim angen unrhyw brofiad blaenorol. Bydd yr holl ddefnyddiau sydd eu hangen yn cael eu darparu a bydd y gwerthwr blodau adnabyddus, Jonathan Lloyd Davies, ar gael i’ch arwain trwy rownd gyntaf y gystadleuaeth.
Llenwch y ffurflen gais erbyn dydd Gwener 8fed Gorffennaf a’i dychwelyd at Amanda Burton ar amanda@rwas.co.uk. ’Does dim tâl am gystadlu.
Mae CAFC yn dra diolchgar i Jonathan Lloyd Davies am iddo noddi’r gystadleuaeth yma mor hael trwy gyflenwi’r holl ddefnyddiau a darparu gwobr ariannol o £150, ac wrth gwrs am fenthyca ei arbenigedd.
Darllenwch holl ganlyniadau Sioe Frenhinol Cymru.