Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

JCB Dancing Diggers

Ein prif arddangosfa fecanyddol eleni fydd yr hynod boblogaidd JCB Dancing Diggers sy’n dychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru i berfformio am y tro cyntaf er 2010.

Mae’r angenfilod mecanyddol sy’ pwyso dros 80 tunnell yn cylchdroi ac yn gweu heibio i’w gilydd, i’r eiliad a’r fodfedd agosaf, ac mae’r campau cywrain yn cynnwys sefyll ar eu dwylo a chreu bwa priodasol y mae’r peiriannau eraill yn gyrru trwyddo.

Er bod galw mawr amdanynt, mae Dancing Diggers yn cyfyngu eu perfformiadau i dair neu bedair sioe’r flwyddyn. Peidiwch â cholli’ch cyfle i weld y perfformiad arbennig hwn!

Arddangosfa Ceffylau Trwm

Mae’r Arddangosfa Ceffylau Trwm yn cynnwys ceffylau trwm o bob cwr o’r Deyrnas Unedig. Fe fydd llawer o’r prif fridiau i’w gweld, gan gynnwys Ceffylau Gwedd, Clydesdale, Percheron a Cheffylau Belgaidd Gogledd America.

Dyma berfformiad i’ch syfrdanu wrth i’r ceffylau yn eu harneisiau ddawnsio o amgylch y Cylch i gerddoriaeth. Fe ddaw 10 pâr at ei gilydd, gan groesi a throelli rhwng ei gilydd. Mi fydd yn sicr yn wledd i’r llygaid!

Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld llawer llai o fridiau ceffylau trwm yn y Sioe. Wrth i ni ailgyflwyno’r ceffylau trwm ein nod yw tynnu sylw’r cyhoedd at eu hystwythder a’u harddwch.

Black Mountains Falconry

Busnes teuluol yw Black Mountains Falconry ac mae’n un o’r timau Arddangos Hebogyddiaeth hynaf yng Nghymru. Mae Roger a June James yn Hebogyddion medrus, yn yr arena arddangos ac ar y maes hela, ac mae June yn adnabyddus am ei harbenigedd mewn hyfforddi Hebogau Tramor.

Mae Roger yn un o’r ychydig Hebogyddion sy’n hela’i Hebogau ar gefn ceffyl, ac mae ef a’i farch Sbaenaidd, Senador, i’w gweld yn llawer o’r sioeau mwy o faint yng Nghymru, lle mae modd gweld y ceffyl a’r adar yn cydweithio i gerddoriaeth gywrain!

Yn eu llety yn Y Fenni, mae Roger a June yn cynnal cyrsiau a diwrnodau hyfforddiant mewn Hebogyddiaeth a Saethyddiaeth.

Tîm Arddangos Parasiwtio’r RAF Falcons

Y Falcons yw prif dîm arddangos parasiwtio milwrol y DU, wedi’u lleoli yn RAF Brize Norton, Swydd Rydychen, maent yn arddangos mewn mannau cyfarfod dros Brydain ac Ewrop i gyd trwy gydol y flwyddyn. Maent wedi perfformio lawer o weithiau i’r Teulu Brenhinol a phenaethiaid gwladwriaethau ac wedi sefydlu sawl record a chyflwyno llawer o newyddbethau cyffrous i fyd nenblymio trefniant.

Mae’r Awyrlu Brenhinol yn gyfrifol am hyfforddi a chefnogi holl luoedd Awyrennol y DU. Yn ogystal â darparu arddangosiad neilltuol o sgiliau cwympo rhydd a sgiliau canopi yn ystod y tymor arddangos, mae pob aelod o Dîm y Falcons yn ymgymryd â hyfforddiant uwchraddol parhaus fel Hyfforddwyr Neidio â Pharasiwt yn barod ar gyfer cael eu defnyddio yn y dyfodol i gefnogi’r Gatrawd Barasiwtwyr, y Môr-filwyr Brenhinol ac unedau arbenigol eraill.

Y llynedd roedd hi’n drigeinmlwyddint y tîm arddangos a phenderfynodd y Falcons newid y fformat arddangos o un y blynyddoedd blaenorol.

Un o rannau mwyaf poblogaidd yr arddangosfa newydd yw’r carwsél, gobeithio y byddwch yn ei fwynhau!

Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym felly prynwch eich rhai chi ar-lein yn awr i osgoi siom!

(Yn dibynnu ar y tywydd – dydd Mawrth a dydd Mercher yn unig)

Meirion Owen a’r Pac Cwacian

Wedi’i eni a’i fagu’n ffermwr, mae Meirion wedi bod o gwmpas cŵn defaid ar hyd ei oes. Ef yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i fod yn gysylltiedig â’r grefft o hyfforddi, cystadlu ac arddangos gyda’i gŵn defaid dros y wlad i gyd.

Mae Meirion yn ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a bu mewn tair cyfres o raglen boblogaidd iawn y BBC ‘One Man and His Dog.’ Mae wedi’i bortreadu ar lawer o raglenni teledu yn cynnwys ‘Countryfile’ a ‘The One Show’ y BBC, ‘Pet Nation’ SKY1 ac yn ddiweddar ar ‘Farmers Country Showdown’ a ‘Songs of Praise.’

Amcan arddangosfeydd heidio hwyaid Meirion, yw arddangos talentau arbennig cŵn defaid a’r cyfathrebu rhwng y trafodwr a’i gi. Mae ei arddangosfeydd yn addysgiadol ac yn ddifyr. Maent hefyd yn rhyngweithiol, yn gadael oedolion a phlant gymryd rhan yn y cylch. Mae Meirion yn rhoi sylwadau doniol ei hun wrth iddo ddefnyddio cyfuniad o orchmynion i arwain ei gŵn a’r hwyaid Rhedwyr Indiaid o amgylch y cwrs, sy’n cynnwys twneli, llithrfeydd a chorlannau.

Gyrru Cerbydau Tristar

Bydd un o’n ffefrynnau, sef tîm Gyrru Cerbydau Tristar, yn ô i arddangos yn y Prif Gylch bob dydd yn ystod y Sioe.

Bydd y Gard a’r Chwythwr Corn, Martin Horler hefyd yn rhoi cyflwyniad am hanes y Tîm Coetsio yn y Cylch Ceffylau ddydd Mawrth am 12.15pm.

 hwythau wedi cystadlu yn Sioe Geffylau Frenhinol Windsor fis diwethaf, maen nhw’ edrych ymlaen at fod yn ôl ym Mhrif Gylch y Sioe Frenhinol unwaith eto eleni. Bydd y ceffylau Tristar yn cael eu cadw yn y stablau arferol, felly cofiwch fod croeso i chi ymweld â nhw yn ystod y Sioe.

Band Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol

Mae Band Catrodol y Cymry Brenhinol yn un o’r ychydig iawn o’r bandiau pres i gyd o fewn Cerddoriaeth y Fyddin Brydeinig, gan dynnu chwaraewyr o dreftadaeth a diwylliant bandiau pres cyfoethog rhanbarth De Cymru i’w rengoedd. Mae’r cerddorion i gyd yn aelodau o’r Fyddin Wrth Gefn ac yn ymrwymo i’r Band o gwmpas eu galwedigaethau sifil.

Mae i’r Band amlochredd steil a repertoire ar y llwyfan cyngerdd ac ar barêd fel band gorymdeithio.  Fe’i gwelir yn rheolaidd trwy’r dywysogaeth i gyd, yn darparu amrywiaeth eang o ddyletswyddau cyhoeddus a seremonïol o saliwtiau Gynnau Brenhinol a pharedau rhyddid i’w bresenoldeb parhaus yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ble mae’n perfformio i gefnogwyr rygbi ledled y byd.

Chwaraeodd y Band ran ganolog yn y digwyddiadau cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Diweddar Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II; yn darparu cefnogaeth gerddorol ar gyfer Cyhoeddi’r brenin newydd, ar gyfer ymweliad cyntaf Eu Mawrhydi y Brenin Charles III a’r Frenhines Camilla â Chymru, ac ar gyfer y Coroni dilynol ym mis Mai 2023 hefyd.

Yn ogystal â pherfformiadau cartref, mae’r Band a’r Drymiau wedi teithio ledled Ewrop, Canada, ac Awstralia hefyd.  Mae’u cerddoriaeth wedi diddanu cynulleidfaoedd dros y Byd mewn nifer o datŵau milwrol, yn cynnwys Tatŵ Rhyngwladol Brenhinol Nova Scotia yng Nghanada, ac yn Nhatŵ Milwrol Rhyngwladol ‘Musikfest dêr Bundeswehr’ yn Düsseldorf, Yr Almaen.

Harlow White

Bydd prif ddylanwadwr y Deyrnas Unedig ym maes ceffylau a’r seren YouTube, Harlow White, yn dod â’i merlod, Panda a Popcorn, i Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf erioed!

Mae Harlow’n 12 oed ac mae ei phroffil ar gyfryngau cymdeithasol yn tyfu a thyfu yn y gymuned geffylau ac ymhlith cynulleidfaoedd ifancach, ac erbyn hyn mae dros 500k o bobl yn tanysgrifio i’w sianel YouTube ac mae ganddi ddilyniant aruthrol ar Instagram a TikTok.

Gallwch weld Harlow a’i merlod yn y Cylch Ceffylau ar gyfer perfformiad yn y bore a’r prynhawn, ddydd Llun y Sioe. Fe fydd digwyddiad Cwrdd a Chyfarch hefyd gyda chyfle i chi gwrdd â Harlow a chael llun wedi’i lofnodi! Bydd gofyn i chi  drefnu’ch lle ymlaen llaw.

(dydd Llun yn unig)

Dathlu 120 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

I nodi 120 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas a dathlu sir nawdd Ceredigion, fe fydd y perfformiad creadigol hwn yn cyfleu esblygiad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru dros y degawdau.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys pyped enfawr o gymeriad annwyl ffermwr o Geredigion i’n hatgoffa o leoliad sefydlu’r Gymdeithas, a’r Sioe Frenhinol gyntaf erioed a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 1904.

Cynrychiolir pum brid brodorol Ceredigion hefyd, gan gynnwys; Y Cob Cymreig, y Mochyn Cymreig, Defaid Llanwenog; Defaid Tregaron a Chorgi Sir Aberteifi.

Ac, yn goron ar y cyfan, fe fydd perfformiadau cerddorol gan rai o gerddorion enwocaf y sir  – a chaneuon cyfarwydd sy’n cynrychioli’r gorffennol a’r presennol.

Bydd perfformwyr i’w gweld ar gefn ceffylau ac yn perfformio ar y cerbydau niferus a fydd yn llenwi Prif Gylch y Sioe ac yn cylchdroi o’i gwmpas. Arddangosfa unigryw na ddylech ei cholli!

Amserlen ddyddiol

Bob dydd, gallwch chi fwynhau rhaglen 12 awr o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous yn Sioe Frenhinol Cymru. Trowch at ein hamserlenni i gael manylion y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal bob dydd.

Lawrlwythwch Ap Frenhinol Cymru

Mae fersiwn 2024 o Ap Frenhinol Cymru ar gael i’w lawrlwytho. Mae’n adnodd dwyieithog hwylus sy’n cynnwys map rhyngweithiol, y canlyniadau diweddaraf a llawer rhagor, yn cynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion ynghylch cadw’n ddiogel yn ei digwyddiadau ac yn yr ardal leol.

PRYNWCH EICH TOCYNNAU NAWR

Peidiwch ag oedi! Prynnwch eich tocynnau nawr.