Sut i'n cyrraedd - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cyrraedd Maes Sioe Frenhinol Cymru

Maes Sioe Frenhinol Cymru Llanelwedd Llanfair ym Muallt LD2 3SY

Teithio mewn car

leolir maes y sioe ble mae’r A470 a’r A483 yn croesi yn Llanelwedd, Llanafair ym Muallt.

Lleolir ein meysydd parcio a theithio RHAD AC AM DDIM ar yr holl brif ffyrdd i faes y sioe, a cheir digonedd o arwyddbyst o bob cyfeiriad.

Dilynwch gyfeiriad y traffig a chyfarwyddiadau’r stiwardiaid parcio i sicrhau eich bod chi’n parcio yn gyflym ac yn ddiogel. Cofiwch nodi ym mha faes parcio byddwch chi’n parcio.

Bydd bysys parcio a theithio rheolaidd AM DDIM yn rhedeg i faes y sioe ac yn ôl rhwng 7.30yb a 9.30yh.

Teithio ar drên

Ein gorsaf drenau agosaf yw Builth Road. Bydd bws gwennol RHAD AC AM DDIM yn eich cludo i faes y sioe.
Bydd y bysys gwennol yn dychwelyd i’r orsaf drenau, gan adael trwy fynedfa Peiriannau maes y sioe, 30 munud cyn i bob trên adael.

I gael rhagor o wybodaeth a’r amserlen ddiweddaraf: www.tfw.wales
Trainline: www.thetrainline.com

Teithio ar fws

Bydd gwasanaeth bws rheolaidd T4 rhwng y Drenewydd a Chaerdydd yn stopio yn Llanfair ym Muallt a Llanelwedd, ac nid yw’n bell i gerdded oddi yno i faes y sioe.

I gael rhagor o wybodaeth a’r amserlen ddiweddaraf: www.trawscymru.info www.traveline.cymru

Parcio i bobl anabl

Mae lle parcio agosach ar gael yn ein maes parcio ar gyfer ymwelwyr sy’n arddangos Bathodyn Glas. Bydd bysys gwennol parcio a theithio â mynediad isel yn cludo teithwyr AC AM DDIM i faes y sioe ac yn ôl rhwng 7.30yb a 9.30yh.

Mae gennym ni hefyd nifer cyfyngedig o lefydd parcio y codir tâl amdanynt (£5 y diwrnod) ar gyfer ymwelwyr anabl, mewn maes parcio ger maes y sioe. Mae’n rhaid arddangos y tocynnau parcio priodol i ddefnyddio’r maes parcio hwn, ac mae’n rhaid eu prynu ymlaen llaw trwy ffonio 01982 553683.

 

Mae ymwelwyr â digwyddiadau’r CAFC yn destun i chwiliadau diogelwch fel amod mynediad.